Dangos 4 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffransis, Ffred, 1948-
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau,

Llythyrau, 1976-1979, gan gynnwys rhai oddi wrth Dafydd Rowlands yn amgau copi llawysgrif o'i gerdd 'Yr un yw glaw a chragen', Owain [Owain], Gilbert [Ruddock] (5), John Rowlands (2), Sandra Anstey, Saunders Lewis, Merêd [Meredydd Evans], [D.] Myrddin [Lloyd], Urien [Wiliam] a Ffred Ffransis. Ceir llythyrau o gefnogaeth iddo yn dilyn ei weithred yn diffodd trosglwyddydd teledu ym Mhencarreg yn 1979 gyda Meredydd Evans a Ned Thomas mewn protest ar ran Cymdeithas yr Iaith .

Rowlands, Dafydd.

Llythyrau gwleidyddol Richard E. Huws

  • NLW ex 1974
  • Ffeil
  • 1966-1975

Llythyrau, 1966-75, at Richard E. Huws yn ymwneud yn bennaf â'i waith fel is-gadeirydd cangen ieuenctid Plaid Cymru Caerfyrddin, ac fel trefnydd cangen tref Caerfyrddin yn ystod Etholiad Cyffredinol 1970, yn trafod materion yn ymwneud â Phlaid Cymru, arwyddion dwyieithog ac ymgyrch Etholiad Cyffredinol 1970. Ymhlith y gohebwyr y mae Gwynfor Evans AS, D. Cyril Jones, Peter Hughes Griffiths, Dafydd Iwan, Geraint Howells AS, Ffred Ffransis, Owen Edwards, Islwyn Ffowc Elis, Donald Stewart AS, Elystan Morgan AS, Dafydd Elis Thomas AS, Emlyn Hooson AS, Dafydd Williams ac Elwyn Roberts. Ceir hefyd doriadau papur newydd, araith forwynol Gwynfor Evans yn Hansard, 1966, a'i daflen etholiadol yn 1970.

Huws, Richard E. (Richard Eynon), 1948-