Dangos 4 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig Iwan, Dafydd, 1943-
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau Ymchwil Dylan Phillips,

  • GB 0210 DYLPHILLIPS
  • fonds
  • 1960-1995 (crynhowyd [c. 1993]-1995) /

Papurau, 1960-1995, yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gasglwyd gan Dylan Phillips, gan gynnwys papurau Gareth Miles, 1960-1979, Dafydd Iwan, 1967-1987, Rheinallt Llwyd, 1968-1995, ac Ann Ffrancon,1967-1984, sydd yn ymwneud yn arbennig â'r 1960au a'r 1970au, ac yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, ynghyd â deunydd yn ymwneud ag ymgyrchoedd yn Gymdeithas ac ychydig bapurau gweinyddol = Papers, 1960-1995, collected by Dylan Phillips relating to Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, comprising papers of Gareth Miles, 1960-1979, Dafydd Iwan, 1967-1987, Rheinallt Llwyd, 1968-1995, and Ann Ffrancon, 1967-1984, relating especially to the 1960s and 1970s, and consisting mainly of correspondence, together with material relating to the Society's campaigns and some administrative papers.

Papurau ymchwil ychwanegol Dylan Phillips, yn cynnwys gohebiaeth, papurau swyddogol a thorion o'r wasg, 1983-1992, wedi eu crynhoi gan Mr John Phillips. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Phillips, Dylan.

Llythyrau gwleidyddol Richard E. Huws

  • NLW ex 1974
  • Ffeil
  • 1966-1975

Llythyrau, 1966-75, at Richard E. Huws yn ymwneud yn bennaf â'i waith fel is-gadeirydd cangen ieuenctid Plaid Cymru Caerfyrddin, ac fel trefnydd cangen tref Caerfyrddin yn ystod Etholiad Cyffredinol 1970, yn trafod materion yn ymwneud â Phlaid Cymru, arwyddion dwyieithog ac ymgyrch Etholiad Cyffredinol 1970. Ymhlith y gohebwyr y mae Gwynfor Evans AS, D. Cyril Jones, Peter Hughes Griffiths, Dafydd Iwan, Geraint Howells AS, Ffred Ffransis, Owen Edwards, Islwyn Ffowc Elis, Donald Stewart AS, Elystan Morgan AS, Dafydd Elis Thomas AS, Emlyn Hooson AS, Dafydd Williams ac Elwyn Roberts. Ceir hefyd doriadau papur newydd, araith forwynol Gwynfor Evans yn Hansard, 1966, a'i daflen etholiadol yn 1970.

Huws, Richard E. (Richard Eynon), 1948-

Papurau W. A. Jones, Llanrug,

  • NLW ex 2401.
  • ffeil
  • [1935]-[1988].

Papurau William Andreas Jones, [1935]-[1988], gohebydd y wasg i Bwyllgor Etholaeth Arfon o Blaid Cymru a llythyrwr cyson i'r wasg, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Anthony Wedgwood Benn (2), Neil Kinnock, John Morris a Dafydd Iwan (2), torion o'r wasg yn ymwneud â Phlaid Cymru a'r Bedwaredd Sianel, a'i atgofion cynnar.

Jones, William Andreas.

Illustrations for poets' work,

  • NLW ex 2678.
  • Ffeil
  • [2008].

Reproductions of illustrations by Dewi Bowen for the poems 'The angry summer' by Idris Davies, 1926, 'Yr arwr' by Hedd Wyn and 'All day it has rained' by Alun Lewis, together with other illustrations, including a portrait of Dafydd Iwan at Soar Chapel, Merthyr Tydfil, 2008.

Bowen, Dewi.