Showing 9 results

Archival description
Wil Sam, 1920-2007
Print preview View:

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1972, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1972, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim), Emyr Hywel (ff. 54 verso, 59), Alun Cilie (passim), a John Alun Jones (passim), at ddrama teledu gan Wil Sam ac Emyr Humphreys (f. 16 verso), ac at Ysgol Gynradd Coed-y-bryn, Llandysul (passim). = The volume contains references to Dic Jones (passim), Emyr Hywel (ff. 54 verso, 59), Alun Cilie (passim) and John Alun Jones (passim), to a television play by Wil Sam and Emyr Humphreys (f. 16 verso), and to Coed-y-bryn Primary School, Llandysul (passim).

Toriadau o'r wasg / Press cuttings

Toriadau o'r wasg genedlaethol a rhyngwladol a phapurau cysylltiedig eraill gan gynnwys teipysgrifau, nodiadau, a gohebiaeth ([?1924]-2005) yn ymwneud â gweithiau gan Emyr Humphreys. / Cuttings from both national and international press and other related papers including typescripts, notes, and correspondence ([?1924]-2005) relating to works by Emyr Humphreys.

Nodiadau a drafftiau amrywiol / Various notes and drafts

Nodiadau a drafftiau amrywiol, gan gynnwys teipysgrifau o syniadau ar gyfer erthyglau neu draethodau gyda’r teitlau 'A Note', 'Sut i Sgwennu Nofel', ac 'On Writing Novels' (yn gysylltiedig yn ôl pob tebyg â 'Notes on the Novel', a gyhoeddwyd yn ‘New Welsh Review’ 35, 1996/7); nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys dan y teitl ‘George Dennis in Etrusia’ (heb ddyddiad); papurau yn ymwneud â syniadau sgript, gan gynnwys copi o sgript ar gyfer y ddrama ‘Y Gadair Olwyn’ gan W.S. Jones ([?1950sx?1960au]), braslun o stori gyda’r teitl ‘Cyfeillion Mynwesol’ (heb ddyddiad), a chanllawiau iaith S4C (1987); a drafftiau teipysgrif pellach, gan gynnwys yr hyn sy’n ymddangos fel tudalennau o ‘The Gift of a Daughter’ (cyhoeddwyd Bridgend: Seren, 1998). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys agenda a chofnodion ar gyfer cyfarfod o Ymddiriedolaeth Taliesin (1990); rhestr o ychwanegiadau at archif Emyr Humphreys (1992); datganiad o wrthwynebiad i gais cynllunio (1993); a llythyrau (1990; 1993; 1996) oddi wrth Manon Gwyn Jones (1) ac Emyr Humphreys (3). / Various notes and drafts, including typescripts of ideas for articles or essays titled ‘A Note’, ‘Sut i Sgwennu Nofel’, and ‘On Writing Novels’ (apparently related to ‘Notes on the Novel’, published in New Welsh Review 35, 1996/7); manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys titled ‘George Dennis in Etrusia’ (undated); papers relating to script ideas, including a copy of a script for the drama ‘Y Gadair Olwyn’ by W.S. Jones ([?1950sx?1960s]), a story outline titled ‘Cyfeillion Mynwesol’ (undated), and S4C language guidelines (1987); and further typescript drafts, including what appears to be pages from ‘The Gift of a Daughter’ (published Bridgend: Seren, 1998). The file also contains an agenda and minutes for a meeting of the Taliesin Trust (1990); a list of additions to Emyr Humphreys’ archive (1992); a statement of objection to a planning application (1993); and letters (1990; 1993; 1996) from Manon Gwyn Jones (1) and Emyr Humphreys (3).

Erthyglau / Articles

Erthyglau, cyhoeddedig a heb eu cyhoeddi, a phapurau eraill (1938-2011) gan ac yn ymwneud â gweithiau Emyr Humphreys, yn cynnwys teipysgrifau, drafftiau, nodiadau, gohebiaeth a thoriadau. / Articles, published and unpublished, and other papers (1938-2011) by and relating to the works of Emyr Humphreys, consisting of typescripts, drafts, notes, correspondence and cuttings.

Ffotograffau / Photographs

Ffotograffau du a gwyn yn dangos cynyrchiadau o ddramâu teledu’r BBC, yn cynnwys dau o gynhyrchiad y BBC o ‘Esther’ gan Saunders Lewis (1961); dau o gynhyrchiad y BBC o ‘Treason’ gan Saunders Lewis (1959); un o gynhyrchiad y BBC o ddrama gan W. S. Jones ‘A Car in the Thicket’ (1959); a thri llun arall yn ymwneud â chynyrchiadau teledu (di-deitl a heb ddyddiad). / Black and white photographs depicting productions of BBC television plays, consisting of two of the BBC production of Saunders Lewis’s ‘Esther’ (1961); two of the BBC production of Saunders Lewis’s ‘Treason’ (1959); one from BBC production of W. S. Jones's play ‘A Car in the Thicket’ (1959); and three other photographs relating to TV productions (untitled and undated).

'The Shilling (Insurance) Man' / 'The Stumbling Block'

Dwy sgript (y ddwy wedi’u dyddio 1963), yn cynnwys teipysgrif o sgript ar gyfer drama lwyfan o’r enw ‘The Shilling (Insurance) Man’, cyfieithiad Saesneg gan Emyr Humphreys o ‘Y Dyn Swllt’ gan W.S. Jones; a chopi teipysgrif o sgript ar gyfer drama deledu gyda’r teitl ‘The Stumbling Block’ gan John Gwilym Jones, cyfieithiad o’r fersiwn Gymraeg wreiddiol gan Emyr Humphreys. / Two scripts (both dated 1963), consisting of a typescript of a script for a stage play titled ‘The Shilling (Insurance) Man’, an English translation by Emyr Humphreys of ‘Y Dyn Swllt’ by W.S. Jones; and a typescript copy of a script for a television play titled ‘The Stumbling Block’ by John Gwilym Jones, a translation of the original Welsh version by Emyr Humphreys.

Sgriptiau ar gyfer teledu / Scripts for television

Sgriptiau ([?1936] -[2006]), a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys ac eraill, yn cynnwys yn bennaf sgriptiau ar gyfer dramâu a ddarlledwyd neu y bwriedir eu darlledu ar y teledu ynghyd â phapurau cysylltiedig gan gynnwys nodiadau a gohebiaeth. Cynhyrchwyd rhai o'r sgriptiau gan y cwmni Ffilmiau Bryngwyn. / Scripts ([?1936] -[2006]), written by Emyr Humphreys and others, consisting mainly of scripts for dramas broadcast or intended to be broadcast on television together with related papers including notes and correspondence. Some of the scripts were produced by the Ffilmiau Bryngwyn company.

Gohebiaeth wedi'i threfnu yn ôl pwnc / Correspondence arranged by subject

Llythyrau at ac oddi wrth Emyr ac Elinor Humphreys, ynghyd â rhai papurau cysylltiedig, wedi'u trefnu fesul pwnc yn bum grŵp: Papurau cynnar a llythyrau (1945-1972); gohebiaeth i ac oddi wrth gyhoeddwyr ac asiantwyr (1981-2007); gohebiaeth yn ymwneud â materion llenyddol eraill (1929; 1984-2002); gohebiaeth yn ymwneud â chomisiynau a digwyddiadau (1962-2009); a gohebiaeth arall ([?1933]-2015). / Letters to and from Emyr and Elinor Humphreys, together with some related papers, arranged by subject into five groups: Early papers and letters (1945-1972); correspondence to and from publishers and agents (1981-2007); correspondence relating to other literary matters (1929; 1984-2002); correspondence relating to commissions and events (1962-2009); and other correspondence ([?1933]-2015).