Showing 3 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, Jones, Nesta Wyn
Print preview View:

Cyfieithiadau barddoniaeth: Zbigniew Herbert

Mae'r ffeil yn cynnwys proflenni cyntaf a gohebiaeth yn ymwneud â chyhoeddi Zbigniew Herbert: detholiad o'i gerddi, y bumed gyfrol yng nghyfres cyfieithiadau barddoniaeth yr Academi, wedi ei dethol a'i chyfieithu gan Gwyn Thomas, Nesta Wyn Jones a John Elwyn Jones (Caerdydd, 1985), ynghyd â llungopi o gyfrol o gyfieithiadau Saesneg o waith y bardd, (Rhydychen, 1977), 1983-1985.

Thomas, Gwyn, 1936-

Gohebiaeth gyffredinol: 1967

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen a Gwyn Thomas, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; John Rowlands, J. M. Edwards, Gerald Morgan, Ifan Gruffydd, Tudur Jones, J. R. Jones, Meic Stephens, Emyr Jones, Dafydd Glyn Jones, Islwyn Ffowc Elis, Harri Pritchard Jones, Derec Llwyd Morgan, Eigra Lewis Roberts, Gareth Alban Davies, R. Bryn Williams, Harri Gwyn a Nesta Wyn Jones. Ceir cyfeiriadau at roi Gwobr Griffith John Williams i Crwydro Sir Faesyfed, Ffransis Payne.

Bowen, Euros,

Gohebiaeth gyffredinol: 1971

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas. Mae'n cynnwys llythyrau oddi wrth Bryan Martin Davies. Ceir cyfeiradau at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Nesta Wyn Jones am ei chyfrol Cannwyll yn Olau.

Thomas, Gwyn, 1936-