Showing 2 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, Rowlands, John, 1938-2015 file
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1967

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen a Gwyn Thomas, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd รข sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; John Rowlands, J. M. Edwards, Gerald Morgan, Ifan Gruffydd, Tudur Jones, J. R. Jones, Meic Stephens, Emyr Jones, Dafydd Glyn Jones, Islwyn Ffowc Elis, Harri Pritchard Jones, Derec Llwyd Morgan, Eigra Lewis Roberts, Gareth Alban Davies, R. Bryn Williams, Harri Gwyn a Nesta Wyn Jones. Ceir cyfeiriadau at roi Gwobr Griffith John Williams i Crwydro Sir Faesyfed, Ffransis Payne.

Bowen, Euros,

Gohebiaeth gyffredinol: 1971-1974

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas a John Rowlands. Ceir cyfeiriadau at drefniadau Cynhadledd Taliesin, at berthynas yr Adran Gymraeg a'r Adran Saesneg, at y trefniadau ar gyfer penodi ysgrifennydd cyflogedig cyntaf Adran Gymraeg yr Academi ac at gyfraniad yr Academi i'r ymgyrch ddarlledu. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus ac at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Owain Owain, yn 1971, am ei gyfrol Bara Brith ac i Einir Jones, yn 1972, am ei chyfrol Pigo Crachan.

Thomas, Gwyn, 1936-