Showing 5 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, Lloyd, D. Tecwyn (David Tecwyn) file
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1964

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Islwyn Ffowc Ellis ac Euros Bowen, a threfnaiadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Gwenallt, Bobi Jones, Glyn Jones, Huw Lloyd Edwards, Tecwyn Lloyd, Alun Talfan Davies, D. J. Williams, Derec Llwyd Morgan a G. J. Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1966

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; J. E. Caerwyn Williams, R. S. Thomas, Islwyn Ffowc Elis a Gwenallt. Ceir cyfeiriadau at roi Gwobr Griffith John Williams i Gwaed Gwirion, Emyr Jones, yn ogystal â chyfeiriadau Tecwyn Lloyd at rai o helyntion is-etholiad Sir Gaerfyrddin, 1966 a llythyr oddi wrth Vernon Jones, athro yn Ysgol y Berwyn y Bala, yn cynnig y syniad, am y tro cyntaf, o enwebu Saunders Lewis ar gyfer Gwobr Nobel.

Bowen, Euros,

Gohebiaeth gyffredinol: 1969

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Gwenlyn Parry, Dic Jones, Tecwyn Lloyd, Islwyn Ffowc Elis, Rowland Mathias a Meic Stephens. Ceir cyfeiriadau at sefydlu Cymdeithas Awduron Cymru ac Adran Saesneg yr Academi Gymreig.

Thomas, Gwyn, 1936-

Gohebiaeth gyffredinol: 1972-1974

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth John Rowlands. Ceir cyfeiriadau at drefniadau Cynhadledd Ryngwladaol 1974, pryd y gwahoddwyd awduron o Iwgoslafia draw i Gymru; at adolygu llyfrau Cymraeg yn y Western Mail, at sefydlu papur dyddiol Cymraeg ac at sefydlu Undeb Awduron Cymru. Mae'n cynnwys cyfeiriadau at gyhoeddi Taliesin a dadansoddiad daearyddol manwl gan Tecwyn Lloyd o'r cyfrannwyr i'r chwe chyfrol ar hugain cyntaf. Ceir gohebiaeth rhwng yr Academi a sefydliadau eraill yng Nghymru ynglŷn â sefydlu archif o raglenni radio a theledu - cynnig a osodwyd ger bron Cynhadledd Taliesin ym 1973. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, ac at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Moses Glyn Jones, yn 1973, am ei gyfrol Y Ffynnon Fyw.

Rowlands, John, 1938-2015

Gohebiaeth gyffredinol: Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, ac yn arbennig felly ei chysylltiad â Chyngor Celfyddydau Cymru, dan ysgrifenyddiaeth John Rowlands. Ceir trafodaeth ar fanylion ariannol yr Academi ac ar y trefniadau i benodi Swyddog Gweinyddol cyflogedig am y tro cyntaf, yn ogystal â sylwadau penodol Tecwyn Lloyd ar y pwnc.

Rowlands, John, 1938-2015