Showing 2 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, Jones, Bobi, 1929-2017 Jenkins, R. T. (Robert Thomas), 1881-
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1959

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys, trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Alun Llywelyn-Williams, Emyr Humphreys, R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, R. T. Jenkins, E. Tegla Davies, Cynan, Iorwerth Peate, Saunders Lewis, G. J. Williams, D. J. Williams, J. M. Edwards a Crwys. Yn ogystal â hyn ceir trafodaeth ar gychwyn cylchgrawn yr Academi, y cyfeirir ato fel 'Y Llenor Newydd' a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan yr enw Taliesin.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1960

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod cyfarfodydd cynnar yr Academi ac ethol ei swyddogion cyntaf; Yr Athro Griffith John Williams (Llywydd), Iorwerth Peate (Cadeirydd), Bobi Jones (Ysgrifennydd) a Gwilym R. Jones (Trysorydd), ynghyd â llungopïau o'r drafodaeth a fu yn y wasg a sylwadau ar gychwyn cylchgrawn yr Academi, y cyfeirir ato fel 'Y Llenor Newydd' ac a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan yr enw Taliesin. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; J. Gwyn Griffiths, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, John Gwilym Jones, Emyr Humphreys, R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, R. T. Jenkins, E. Tegla Davies, Cynan, Saunders Lewis, J. M. Edwards, Thomas Parry, Gwenallt, Waldo Williams, Aneirin Talfan Davies, Pennar Davies, Euros Bowen, D. J. Williams, T. J. Morgan a D. Myrddin Lloyd.

Jones, Bobi, 1929-2017