Showing 3 results

Archival description
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. file
Print preview View:

Llythyrau,

Llythyrau, 1964-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Roland Mathias (2), [D.] Jacob [Davies], Islwyn [Ffowc Elis], J. E. [Jones], D. J. [Williams] (3), a Carwyn [James]. Ceir llythyrau'n ymwneud â'i benderfyniad i ymddiswyddo fel Llywydd Eglwysi Rhyddion Cymru yn 1967 a llythyrau yn ei wahodd i annerch mewn rali yng Nghefn Brith, ac mewn cyfarfod o Gymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint 1969.

Mathias, Roland.

Gohebiaeth gyffredinol 1970-1974,

Ymhlith y gohebwyr mae Bernard Picton (Knight), Dafydd Iwan, John Jenkins o garchar Albany yn cynnig syniad am gardiau i garcharorion 'gwleidyddol', Judith Maro yn trafod ei nofelau, Gareth Miles yn trafod ei gyfraniad at LOL a gweithiau eraill, Islwyn Ffowc Elis, Derrick K. Hearne ar ei gyfrol The Rise of the Welsh Republic, a Watcyn Owen ar ran John Jenkins. Hefyd ceir llythyrau yn trafod ymgyrch Dwynwen, gwaith Cymdeithas yr Iaith, posteri ar gyfer Plaid Cymru, safiad Robat Gruffudd yn mynnu ffurflenni Cymraeg, ac adeilad y Lolfa.

Llythyrau,

Llythyrau, 1976-1979, gan gynnwys rhai oddi wrth Dafydd Rowlands yn amgau copi llawysgrif o'i gerdd 'Yr un yw glaw a chragen', Owain [Owain], Gilbert [Ruddock] (5), John Rowlands (2), Sandra Anstey, Saunders Lewis, Merêd [Meredydd Evans], [D.] Myrddin [Lloyd], Urien [Wiliam] a Ffred Ffransis. Ceir llythyrau o gefnogaeth iddo yn dilyn ei weithred yn diffodd trosglwyddydd teledu ym Mhencarreg yn 1979 gyda Meredydd Evans a Ned Thomas mewn protest ar ran Cymdeithas yr Iaith .

Rowlands, Dafydd.