Print preview Close

Showing 25 results

Archival description
Lewis, Saunders, 1893-1985 file
Print preview View:

Aristoteles: Barddoneg (1978, 2001),

Papurau, 1974-1978, yn ymwneud â chyhoeddi'i gyfieithiad Aristoteles: Barddoneg gyda rhagymadrodd a nodiadau ganddo. Ceir llythyrau oddi wrth Ceri Davies, R. Brinley Jones, Saunders Lewis, Alan Llwyd, Meic Stephens a llythyr oddi wrth Ceri Davies am ailgyhoeddi'r gyfrol yn 2001.

Davies, Ceri.

Rhageiriau,

Rhageiriau, 1968-1980, gan gynnwys rhagair Gwenlyn Parry ar gyfer Tŷ ar y Tywod, 1968; rhageiriau Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones ar gyfer un o gyhoeddiadau Rhydderch Jones, [1975x1980]; a rhageiriau Gwenlyn Parry a Saunders Lewis ar gyfer Y Tŵr, 1979.

Llythyrau P

Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae R. Williams Parry (65, gan gynnwys teipysgrif o'r soned 'Y Dieithryn (John Saunders Lewis)', ac un cerdyn post, 1951, at Saunders Lewis), Syr Thomas Parry (25), Syr T.H. Parry-Williams (7), Ffransis G. Payne (20), Iorwerth C. Peate (17), a W. W. Price (7, un at R. T. Jenkins).

'Gwaed yr Uchelwyr'

Sgript 'Gwaed yr Uchelwyr' gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Gwmni Cofio, 1985, yn Theatr Halliwell, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ynghyd â rhaglen, ac adolygiad, 1985, o bapur bro Y Gambo.

Deunydd printiedig

Eitemau printiedig, 1886-[1983], gan gynnwys cerdd goffa Myfyr Emlyn, 1886, i'r Parch. R. Hughes (1820-1885), Bethania, Maesteg; rhaglen, 1949, ar gyfer perfformiad Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth, o 'Amser' (cyfieithiad Elsbeth Evans o J. B. Priestley, 'Time and the Conways') pan fu Norah Isaac yn actio rhan Eirian; y cylchgrawn Llwyfan, Gwanwyn 1969, yn cynnwys erthygl 'Y ddrama yn y Coleg Addysg' ganddi; rhaglen cyflwyniad teyrnged Theatr yr Ymylon i Saunders Lewis yn bedwar ugain oed yn [1973]; taflen angladd Aneurin Jenkins-Jones, 1981; a rhaglen gwasanaeth angladd Carwyn James, 1983.

Thomas, B. (Benjamin), Myfyr Emlyn, 1836-1893

Papurau wedi'u crynhoi

Ymhlith y papurau ceir llythyr, 1909, oddi wrth Cybi at 'Mr [O. M.] Edwards'; enghreifftiau o waith cwrs ei myfyrwyr drama gan gynnwys cyfieithiad Robert Wynne, 1951, o ddrama Saunders Lewis 'Amlyn ag Amig' i'r Saesneg gyda'r teitl 'The Christmas Candle' [fe'i darlledwyd gan y BBC yn 1948 a 1950]; drama am Ellis Wynne gan Janet B. Thomas; 'Ysgol Sir Tregaron a'r ddrama' gan Eirlys Morgan; 'Golygfa o fywyd Richard Wilson' gan ?; stori 'The adventures of Arabella Penn. "The ivory doll"' gan Tudur Watkins, 1954; 'By the waters of the Towy' gan Richard Vaughan, [1973]; llyfryddiaeth 'Wil Hopcyn and the Maid of Cefn Ydfa' gan Brinli [Brinley Richards], 1978; 'Marwnad Saunders Lewis' gan Alan Llwyd, [1985], mewn teipysgrif; a llungopi o bapur arholiad Cymraeg ar gyfer ysgoloriaeth y Frenhines, Coleg Hyfforddi Caerfyrddin, Mawrth 1849.

Cybi, 1871-1956

Llythyrau,

Llythyrau, 1946-1997, gan gynnwys rhai oddi wrth Rhydwen [Williams], Gwynfor Evans, Kate Roberts (3), John Rowlands, John Emyr, Saunders Lewis, Densil Morgan, R. [Tudur Jones] (3), Derwyn Morris Jones (2), Ceri Davies (1) a D. J. Williams (3).

Williams, Rhydwen.

Llythyrau,

Llythyrau, [1951]-[1960]. Ymhlith y gohebwyr mae Bertrand Russell, Dyfnallt [Owen] (2), Gwilym R. [Jones], Kate Roberts, Saunders Lewis, D. J. [Williams], Raymond Garlick a Bobi [Jones].

Russell, Bertrand, 1872-1970.

Llythyrau,

Llythyrau, [1935]-[1962]. Ymhlith y gohebwyr mae Kate Roberts, Saunders Lewis (3) a Keidrych [Rhys].

Roberts, Kate, 1891-1985

Llythyrau K-L

Llythyrau, 1925-1982, gan gynnwys rhai oddi wrth John Legonna (3); Ceri W. Lewis (12); Elvet Lewis ('Elfed'); Eiluned Lewis (4, ynghyd â chopi o'i herthygl 'Traditions of Christmas in Wales'); Henry Lewis (3); Ifor H. Lewis (27); J. D. Vernon Lewis; J. Rhys Lewis (2, yn cynnwys copi o ragair gan Iorwerth Peate, 'The land of Dyfi'); Saunders Lewis (10); D. Myrddin Lloyd (2); D. Tecwyn Lloyd (18); J. D. K. Lloyd (5); J. E. Lloyd; Alan Llwyd (3); Rheinallt Llwyd; Emyr Llywelyn (6); ac A. T. Lucas (51).

Legonna, John, 1918-1978

Llythyrau J-M,

Llythyrau, [1937]-[1965]. Ymhlith y gohebwyr mae Bobi Jones (5), Gildas [Jaffrennou] (17), Bedwyr L[ewis] Jones (4), David Jenkins, J. R. Jones (2), Gwenallt Jones (3), Thomas Jones (2), Gwyn [Erfyl] (3), A. O. H. Jarman (2), Selwyn Jones (3), Gwenan Jones, John [Gwilym Jones], Saunders Lewis, Roland Mathias (3), a Dyfnalt [Morgan].

Jones, Bobi, 1929-2017

Llythyrau,

Llythyrau, 1980-1984. Ymhlith y gohebwyr mae Gwynfor Evans (yn mynegi'i fwriad i ymprydio hyd angau pe bai angen os na fyddai'r Llywodraeth Geidwadol newydd yn newid ei meddwl a sefydlu sianel Gymraeg newydd), Geraint Bowen, [D.] Myrddin [Lloyd] (3) a Gwyneth Lewis. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos llys Pennar Davies a charcharu'i fab Hywel Pennar gan gynnwys rhai oddi wrth Mered[ydd] [Evans], Menna Elfyn a Saunders Lewis (2), ynghyd â thaflen y cyfarfod a gynhaliwyd i gydnabod ei wasanaeth yng nghapel Ebeneser Newydd, Abertawe, 1983, a'i anerchiad 'Dydd Blynyddol y Coleg Coffa', 1984.

Lloyd, D. Myrddin (David Myrddin), 1909-1981

Gohebiaeth,

Gohebiaeth, 1962-1989, yn cynnwys yn bennaf llythyron at Gwenlyn Parry yn trafod ei fywyd a'i waith. Ymysg y gohebwyr mae John Wain, Saunders Lewis, Bobi Jones, Islwyn Ffowc Elis, a J. Ellis Williams. Ceir llythyron hefyd gan ei gyhoeddwyr yn trafod materion ariannol; llythyr o Dŷ'r Cyffredin yn beirniadu rhaglenni teledu Cymraeg; a llythyron o Swyddfa'r Arglwydd Siambrlen yn ymwneud â'r dramâu Y Ddraenen Fach a Poen yn y Bol.

Llythyrau Saunders Lewis

Llythyrau gyda nifer o ohebwyr gwahanol yn trafod carchariad Saunders Lewis a'i iechyd tra yn y carchar, ynghyd â chopi o gwestiynau a holwyd iddo mewn cyfarfod yn Nhŷ Cyfarfod y Crynwyr, yn Heol Fawr, Abertawe, yng nghanol y 1930au, [1935]-[1937].

Gohebiaeth gyffredinol,

Gohebiaeth gyffredinol, 1967-2005, gan gynnwys llythyron at Marion Eames gan lenorion, cyhoeddwyr a chyfeillion yn trafod ei gwaith. Ymhlith y gohebwyr mae Gwynfor Evans; Islwyn Ffowc Elis; Saunders Lewis; Bob Owen, Croesor; Kate Roberts; a T. H. Parry-Williams. Ceir hefyd llythyron gan R. Geraint Gruffydd yn trafod ei gwaith ar lenyddiaeth Gymraeg, A Private Language?. = General correspondence, 1967-2005, including letters to Marion Eames by fellow writers, publishers and friends discussing her work. Amongst the correspondents are Gwynfor Evans; Islwyn Ffowc Elis; Saunders Lewis; Bob Owen, Croesor; Kate Roberts; and T. H. Parry-Williams. The file also includes letters from R. Geraint Gruffydd concerning her work on Welsh literature, A Private Language?.

Ceisiadau am swyddi

Papurau'n ymwneud â gyrfa G. J. Williams, gan gynnwys ceisiadau am swyddi a thystlythyrau, 1914-1927, 1946; ynghyd â chopi o gais Saunders Lewis am swydd yng Ngholeg Rhydychen, 1947.

Saunders Lewis

Papurau'n ymwneud yn bennaf â gyrfa Saunders Lewis yn sgîl llosgi'r Ysgol Fomio yn 1936. Yn eu plith ceir deiseb yn datgan cefnogaeth iddo a phapurau'n ymwneud â'r cyfarfod protest a gynhaliwyd yn Abertawe, 22 Mai 1937.

Results 1 to 20 of 25