Cystadleuaeth i rai o'r Wladfa : ysgrifau am atgofion eisteddfodol; sgyrsiau pum munud ar gyfer rhaglen debyg i 'Rhwng Gŵyl a Gwaith' a chyfres o saith stori fer ar gyfer plant o 11-14 oed.
Stori fer: 'Twyll'; wyth darn yn ymateb i wyth darn o gelfyddyd Gymreig gydag esboniad neu lun o'r darnau (llên miicro); portread o gymeriad byw ... sy'n addas i'w gyhoeddi mewn papur bro; ffuglen erotig chwaethus; erthygl addas ar gyfer eich papur bro; blog amserol; stori ddirectif Gymreig gyfoes/seicolegol; ysgrif am ddigwyddiad yn ymwneud ag un o ymgyrchoedd yr iaith Gymraeg: 'Yr oeddwn i yno'; a dyddiadur taith/blwyddyn mas.
Llyfr cwis/gweithgareddau addas ar gyfer mudiadau a chymdeithasau; stori antur gyfoes i rai tua 9-12 oed, yn troi o gwmpas ceffylau a chyfres o straeon ysgafn yn seiliedig ar ryw sefyllfa.
Straeon byrion : 'Llawenydd'; sgwrs i godi'r galon, addas i wrando arni neu i'w darllen; ysgrifau D. Tecwyn Lloyd : ymdriniaeth addas i gylchgrawn llenyddol; pigion o ddyddiadur yn cynnwys elfen o hwyl a digrifwch; casgliad o chwe erthygl addas ar gyfer papur bro ar hanes a diwylliant unrhyw ardal; tywys-daith o gwmpas cofebau a mannau o ddiddordeb hanesyddol unrhyw ardal yng Nghymru; sgript-beilot, dim llai na hanner awr, a all arwain at gyfres deledu gyffrous i blant neu oedolion a chasgliad o chwe chroesair, pob un ar thema wahanol.
Casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro; cywaith ysgol 4 ochr tudalen A4 (ieuenctid dan 18 oed); nofel i blant tua 7-9 oed gydag anifail anwes yn ganolog i'r stori (Comisiynu); a chyfrol o storïau doniol, cyfoes i oedolion (Comisiynu).
Hanes un teulu neu unigolyn a ymfudodd o Gymru i Awstralia; Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes - Atgofion am Eluned Morgan; sgript rhaglen radio hanner awr ar Gymro neu Gymraes diddorol; llyfrau i blant o dan 7 oed yn creu cymeriad newydd ac yn cynnwys lluniau gwreiddiol; nofel fer ffantasïol i blant a llawlyfr ar gyfer pobl ifainc ar ffotograffiaeth neu ar unrhyw offeryn cerdd.
Ysgrif-bortread o unrhyw Gymro neu Gymraes a fu farw o fwewn y deng mlynedd diwethaf; stori fer ddigrif wedi ei lleoli mewn ardal ddiwydiannol; stori fer â chefndir crefyddol iddi; stori i rai dan 25 oed; pymtheg o chwedlau byrion a nofel antur ar gyfer dysgwyr o oedolion.