Print preview Close

Showing 27 results

Archival description
Elis, Islwyn Ffowc
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau,

Llythyrau, 1970-1971, gan gynnwys llythyr oddi wrth Sam Adams (3), Islwyn Ffowc Elis (3), Gilbert [Ruddock] (4), Eluned Phillips (2), Gwynfor [Evans], Donald J. Stewart, Gwyn [Thomas], Meic Stephens (4) a Gwilym Rees Hughes. Maent yn trafod materion llenyddol ac academaidd, ynghyd â llythyrau o edmygedd a anfonwyd ato adeg ei weithred ef a gweinidogion/offeiriaid eraill yn gosod arwydd Cymraeg ar bont Caerfyrddin a hebrwng un sumbolaidd i Neuadd y Sir.

Adams, Sam, 1934-

Gohebiaeth gyffredinol 1986,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis a Judith Maro yn trafod eu llyfrau a materion eraill, Angharad Thomas yn trafod Plaid Cymru, y posibilrwydd o symud i Lundain a phynciau eraill, a Ioan M. Richard yn ateb cyhuddiadau yn LOL yn ymwneud â Phlaid Cymru a Meibion Glyndŵr. Yn ogystal ceir llun-gopïau o'r llythyrau a anfonwyd allan yn galw am ddinistrio hysbysebion Police conspiracy, copi o'r 'Arolwg o'r Cylchgronau a noddir gan Gyngor y Celfyddydau' gan Rhodri Williams, a phapurau yn ymwneud â'r angen am wythnosolion, a llythyrau yn ymwneud ag Y Llosgi gan Robat Gruffudd.

Gohebiaeth gyffredinol 1998,

Llythyrau gan nifer o ohebwyr yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis, copïau o atebion Robat Gruffudd, a chopïau o lythyrau ganddo at Heini Gruffudd, ei frawd, ac at yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas.

Llythyrau A-E,

Ymhlith y gohebwyr mae Euros Bowen (1); Bryan Martin Davies (1); Cassie Davies (5); Jennie Eirian Davies (5); Pennar Davies (1); Hywel Teifi Edwards (5); Islwyn Ffowc Elis (2); G. G. Evans (20); Gwynfor Evans (3); a Meredydd Evans (6).

Bowen, Euros.

Llythyrau Rhufain,

Llythyrau a anfonwyd ato tra oedd yn astudio yn yr Eidal gan gynnwys llythyrau o Rufain, rhai oddi wrth ei Dad, ynghyd â llythyrau llawer mwy diweddar. Ymhlith y gohebwyr mae R. O. F. Wynne, Claude [Gildas Jaffrennou] (6), Emyr Wyn Jones, G. J. Williams (2), H. I. Bell, Bobi Jones (2), Meredydd Evans (3), Alun Llywelyn-Williams, Henry E. G. Rope (2), Gwyn [Erfyl] (2), [O.] Llew Owain, T[homas] Parry (2), I[orwerth] P[eate], Meuryn, [J]. Gwyn [Griffiths] (3), Kate Roberts, Aneirin Talfan Davies, W. J. Gruffydd, T. Gwynfor Griffiths, Brenda Chamberlain, Islwyn [Ffowc Elis] (2), Raymond Garlick, a Caradog Prichard.

Wynne, R. O. F. (Robert Oliver Francis), 1901-1993

Dyddiadur,

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1970, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1970, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim); Alun Cilie (passim); John Alun Jones (passim); cystudd Waldo Williams (f. 120); nofel gan Islwyn Ffowc Elis (passim); ac at gystadlaethau gwyddbwyll Iolo Ceredig Jones, gan gyfeirio at hefyd gyfeiriadau at Ysgol Gynradd Coed-y-bryn, Llandysul (passim) ac at apêl er budd Patagonia (ff. 156, 158). = The volume contains references to Dic Jones (passim); Alun Cilie (passim); John Alun Jones (passim); Waldo Williams's illness (f. 120); a novel by Islwyn Ffowc Elis (passim); and to Iolo Ceredig Jones' participation in chess tournaments; with references also to Coed-y-bryn Primary School, Llandysul (passim) and an appeal in aid of Patagonia (ff. 156, 158).

Gohebiaeth gyffredinol 1960au,

Llythyrau yn dyddio o'r blynyddoedd cyn i'r wasg gael ei sefydlu a'r blynyddoedd cynnar. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Ifor Puw, Gwynfor Evans, Islwyn Ffowc Elis, a Ruth Stephens. Trafodir yr angen am rywle i gyhoeddi gweithiau Cymraeg, y broses o gyhoeddi'r cylchgrawn LOL a'r llyfryn 'Hyfryd Iawn', Enwau Cymraeg i blant/ Welsh names for children a chyhoeddiadau Plaid Cymru. Hefyd ceir llythyrau yn trafod gwahanol brisiau ac offer cynhyrchu a chyhoeddi, a'r adeilad yn Nhal-y-bont, ynghyd â nifer o bamffledi yn hysbysebu LOL a'r Lolfa, a deiseb yn galw am neuadd breswyl Gymraeg yn Aberystwyth.

Results 21 to 27 of 27