Print preview Close

Showing 24 results

Archival description
Williams, G. J. (Griffith John)
Print preview View:

Llythyrau amrywiol: 1961

Llythyrau a chardiau amrywiol, 1961, gan gynnwys rhai oddi wrth Dilwyn John (3); Thomas Parry (2); Vincent H. Phillips; David Williams (copy); Cynan; Stuart F. Sanderson (3); Ffransis Payne (2); Griffith John Williams; H. Meurig Evans; Trefor M. Owen; Tony Lucas (2); Glanmor Williams; Iolo A. Williams; W. Leslie Richards; Alun Oldfield-Davies; a T. E. Nicholas. Anfonwyd rhai ohonynt at Nansi Peate, ac mae nifer yn cyfeirio at lawdriniaeth Iorwerth Peate.

Eisteddfod Caerdydd

Gohebiaeth a thorion papur newydd, 1959, yn ymwneud â'r anghydfod yn dilyn y penderfyniad i wahodd y Frenhines i fynychu Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1960. Ymddiswyddodd Iorwerth Peate (Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith a chynrychiolydd Llys yr Eisteddfod ar y Pwyllgor Gwaith) ac aelodau eraill o Gyngor yr Eisteddfod. Yn eu plith mae llythyrau gan Emrys Roberts; Griffith John Williams; Stephen J. Williams; Gareth Alban Davies; David Thomas (2); Raymond Garlick; Brinley Richards (2); Thomas Parry (3); Ernest Roberts (2); a Huw Ethall.

Roberts, Emrys

Llythyrau Williams (E-J)

Llythyrau, [1919]-1968. Ymhlith y gohebwyr mae Glanmor Williams (2), Griffith John Williams (7), J. E. Caerwyn Williams (9), ynghyd â cherddi yn llaw Waldo Williams a fenthycodd D. J. Williams iddo yn 1952 a chasgliad teipysgrif gan J. E. Caerwyn Williams o farddoniaeth Waldo Williams a gyhoeddwyd yn y wasg, 1938-1964 (wedi ymddangos yn Y Faner gan mwyaf), J. O. Williams (2), Jac [L. Williams] (13), Syr John Cecil-Williams (5) a John Roberts Williams (1).

Williams, Glanmor

Llythyrau

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau oddi wrth W. Ambrose Bebb, Gomer Roberts, Prys Morgan, T. H. Parry Williams, yr Athro Gwyn Jones, Cynan a G. J. Williams.

Results 21 to 24 of 24