Showing 6 results

Archival description
Thomas, R. S. (Ronald Stuart), 1913-2000 file
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1958

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwenallt, Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Waldo Williams, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Euros Bowen, Aneurin Talfan Davies, Alun Llywelyn-Williams, Elis Gwyn Jones, Emyr Humphreys, R. S. Thomas, John Gwilym Jones a Pennar Davies. Ar gefn drafft o lythyr gan Bobi Jones mae copi o eirda a roddwyd iddo gan Griffith John Williams ym 1952.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1966

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Euros Bowen, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; J. E. Caerwyn Williams, R. S. Thomas, Islwyn Ffowc Elis a Gwenallt. Ceir cyfeiriadau at roi Gwobr Griffith John Williams i Gwaed Gwirion, Emyr Jones, yn ogystal â chyfeiriadau Tecwyn Lloyd at rai o helyntion is-etholiad Sir Gaerfyrddin, 1966 a llythyr oddi wrth Vernon Jones, athro yn Ysgol y Berwyn y Bala, yn cynnig y syniad, am y tro cyntaf, o enwebu Saunders Lewis ar gyfer Gwobr Nobel.

Bowen, Euros,

Gohebiaeth gyffredinol: 1987-1988

Mae'r ffeil hon yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol sy'n adlewyrchu gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan gadeiryddiaeth yr Athro Geraint Gruffydd, 1987-1988. Mae'n cynnwys cryn dipyn o ohebiaeth yn trafod y gwaith ar Eiriadur yr Academi, achos R. S. Thomas yn erbyn y Cyhoeddwr Christopher Davies, adroddiad manwl ar Gynllun Ymchwil yr Academi a gyhoeddwyd yn Ionawr 1988 a datganiadau bod J. Beverly Smith a Ray Evans wedi ennill Gwobr Goffa Griffith John Williams ar gyfer 1986 am eu cyfrolau Llywelyn ap Gruffydd Tywysog Cymru a Y Llyffant.

Gruffydd, R. Geraint

Gohebiaeth gyffredinol: 1968

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas, a threfniadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Hugh Bevan, Kate Roberts ac R. S. Thomas. Ceir cyfeiriadau at ystyried, a gwrthod, rhoi Gwobr Griffith John Williams i Cymru Fydd, Saunders Lewis, at sefydlu Cymdeithas Awduron Cymru ac Adran Saesneg yr Academi Gymreig yn sgîl anogaeth gan Meic Stephens a than ysgrifenyddiaeth Sally Roberts.

Thomas, Gwyn, 1936-