Showing 477 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, file
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1959

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys, trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Alun Llywelyn-Williams, Emyr Humphreys, R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, R. T. Jenkins, E. Tegla Davies, Cynan, Iorwerth Peate, Saunders Lewis, G. J. Williams, D. J. Williams, J. M. Edwards a Crwys. Yn ogystal â hyn ceir trafodaeth ar gychwyn cylchgrawn yr Academi, y cyfeirir ato fel 'Y Llenor Newydd' a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan yr enw Taliesin.

Jones, Bobi, 1929-2017

Cyfres y clasuron: gohebiaeth, 1977-1980

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol yn ymwneud â chyhoeddi Cyfres y Clasuron, adroddiadau a llythyrau yn ymwneud â materion gweinyddol yn ogystal â gohebiaeth gweddol fanwl rhwng Geraint Gruffydd a Saunders Lewis ynglŷn â chyhoeddi Meistri a'u Crefft, Gwynn ap Gwilym, gol. (Caerdydd, 1981), 1977-1980.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Gohebiaeth gyffredinol: 1974-1976

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, gan gynnwys llawer o ohebiaeth ynglŷn â materion ariannol a'r newidiadau cyfansoddiadol oedd yn yr arfaeth. Ceir cyfeiriadau at gyhoeddi Taliesin ac at y cais i ennill Gwobr Nobel i Saunders Lewis yn ogystal â chyfeiriadau at dderbyn Geraint Gruffydd a Wil Sam yn aelodau o'r Academi.

Gohebiaeth gyffredinol: 1969

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Gwenlyn Parry, Dic Jones, Tecwyn Lloyd, Islwyn Ffowc Elis, Rowland Mathias a Meic Stephens. Ceir cyfeiriadau at sefydlu Cymdeithas Awduron Cymru ac Adran Saesneg yr Academi Gymreig.

Thomas, Gwyn, 1936-

Gohebiaeth gyffredinol: 1987-1988

Mae'r ffeil hon yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol sy'n adlewyrchu gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan gadeiryddiaeth yr Athro Geraint Gruffydd, 1987-1988. Mae'n cynnwys cryn dipyn o ohebiaeth yn trafod y gwaith ar Eiriadur yr Academi, achos R. S. Thomas yn erbyn y Cyhoeddwr Christopher Davies, adroddiad manwl ar Gynllun Ymchwil yr Academi a gyhoeddwyd yn Ionawr 1988 a datganiadau bod J. Beverly Smith a Ray Evans wedi ennill Gwobr Goffa Griffith John Williams ar gyfer 1986 am eu cyfrolau Llywelyn ap Gruffydd Tywysog Cymru a Y Llyffant.

Gruffydd, R. Geraint

Cystadleuth llenorion ieuanc, 1982-1983

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud â chynnal a beirniadu cystadleuaeth 1983, ynghyd â deunydd yn ymwneud â threfnu teithiau perthnasol ar ran y ddau a fu'n fuddugol; William Owen Roberts a Dafydd Arthur Jones. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys eghreifftiau o waith cystadleuydd arall, y bardd Aled Lewis Evans; 1982-1983.

Evans, Aled Lewis

Results 1 to 20 of 477