Dangos 583 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Yr Argyfwng : Rhagair a Diweddglo/Llawysgrif,

  • NLW MS 16954E.
  • ffeil
  • [1953]-1954 /

Llawysgrif ddrafft, 1954, o Ragair a Diweddglo 'Yr Argyfwng' gan W. Ambrose Bebb yn ei law ei hun; un llythyr, 1954, a phedwar cerdyn post, 1954, oddi wrth Bebb at Alan Talfan Davies, rhoddwr y llawysgrif, yn ymwneud â chwblhau a chyhoeddi 'Yr Argyfwng'; torion o'r Herald Cymraeg, 1953, sef pigion o Golofn y Llenor a ysgrifennwyd gan Bebb, gan gynnwys rhai o'r wyth o ysgrifau a gyhoeddwyd yn yr Herald dan y teitl 'Yr Argyfwng' yn ystod gwanwyn 1953; sylwadau, 1954, ar 'Yr Argyfwng', fel y'i cyhoeddwyd yn wreiddiol ar ffurf erthyglau yn yr Herald Cymraeg, gan y Parchedig J. P. Davies, Porthmadog, yr Athro Oliver Stephens, John Charles Jones, Esgob Bangor, y Parchedig E. Tegla Davies, a'r Parchedig Lewis Valentine. Cyhoeddwyd 'Yr Argyfwng' ar ffurf llyfr flwyddyn wedi marw Bebb, ym 1956 = Autograph draft manuscript, 1954, of the Foreword and Conclusion to 'Yr Argyfwng' by W. Ambrose Bebb; one letter, 1954, and four postcards, 1954, from Bebb to Alan Talfan Davies, the donor of the manuscript, relating to the completion and publication of 'Yr Argyfwng'; press cuttings from the Herald Cymraeg, 1953, which consist of some of Bebb's weekly columns and including some of the series of eight pieces of writing which were published in the Herald under the title 'Yr Argyfwng' during the spring of 1953; comments and observations, 1954, on 'Yr Argyfwng', in its original form of printed articles in the Herald Cymraeg, by the Reverend J. P. Davies, Porthmadog, Professor Oliver Stephens, John Charles Jones, Bishop of Bangor, the Reverend E. Tegla Davies, and the Reverend Lewis Valentine. 'Yr Argyfwng' was published in book form posthumously in 1956.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Canmlwyddiant y Wladfa,

  • NLW ex 2480.
  • ffeil
  • 1961-1981.

Deunydd a grynhowyd gan John Roberts, trefnydd ac ysgrifennydd cyffredinol yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ymwneud yn bennaf â dathlu canmlwyddiant y Wladfa yn 1965, gan gynnwys llythyrau at y rhoddwr am y 'bererindod i Batagonia' a drefnwyd gan Undeb Cymry Ariannin ac ag ymweliad chwech ymwelydd o Batagonia i Gymru y flwyddyn honno. Ceir llyfr lloffion yn cynnwys ffotograffau yn ymwneud â’r daith i'r Wladfa a llungopi o erthygl Lewis H. Thomas, 'From the pampas to the prairies. The Welsh migration of 1902', a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Saskatchewan History.

Agoriad swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

  • NLW ex 2426.
  • ffeil
  • 1999.

Deunydd yn ymwneud ag agoriad swyddogol y Cynulliad, 26 Mai 1999, gan gynnwys rhaglen swyddogol y seremoni agoriadol, rhaglen y gwasanaeth dathlu yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, amserlenni o weithgareddau’r diwrnod, gwahoddiadau a bwydlenni. = Material relating to the official opening of the National Assembly, 26 May 1999, including the official programme of the opening ceremony, programme of the service of celebration held in Llandaff Cathedral, timetables of events, invitations and menus.

Papurau Rhiannon Francis Roberts

  • Ychwanegwyd at Papurau Rhiannon Francis Roberts
  • ffeil
  • 1944-1988

Papurau ychwanegol Rhiannon Francis Roberts (1923-1989) yn cynnwys llythyrau, 1944-1988, oddi wrth R. T. Jenkins, Thomas Parry, Griffith John Williams, Ifor Williams ac eraill.

Additional papers of Rhiannon Francis Roberts (1923-1989) including letters, 1944-1988, from R. T. Jenkins, Thomas Parry, Griffith John Williams, Ifor Williams and others.

Roberts, Rhiannon Francis, 1923-1989

Canlyniadau 161 i 180 o 583