Dangos 583 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth gyffredinol: 1962

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Bobi Jones, ynghyd a sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; R. Gerallt Jones, Iorwerth Peate, Caradog Pritchard, Saunders Lewis, G. J. Williams a D. J. Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1963

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Bobi Jones, a threfnaiadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Kate Roberts, Iorwerth Peate a Griffith John Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1964

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Islwyn Ffowc Ellis ac Euros Bowen, a threfnaiadau Cynhadledd Caredigion Taliesin yn benodol, ynghyd â sylwadau ar gyhoeddi Taliesin. Mae'n cynnwys llythyrau, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, yn eu plith; Gwenallt, Bobi Jones, Glyn Jones, Huw Lloyd Edwards, Tecwyn Lloyd, Alun Talfan Davies, D. J. Williams, Derec Llwyd Morgan a G. J. Williams.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1971

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas. Mae'n cynnwys llythyrau oddi wrth Bryan Martin Davies. Ceir cyfeiradau at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Nesta Wyn Jones am ei chyfrol Cannwyll yn Olau.

Thomas, Gwyn, 1936-

Gohebiaeth gyffredinol: Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, ac yn arbennig felly ei chysylltiad â Chyngor Celfyddydau Cymru, dan ysgrifenyddiaeth John Rowlands. Ceir trafodaeth ar fanylion ariannol yr Academi ac ar y trefniadau i benodi Swyddog Gweinyddol cyflogedig am y tro cyntaf, yn ogystal â sylwadau penodol Tecwyn Lloyd ar y pwnc.

Rowlands, John, 1938-2015

Gohebiaeth gyffredinol: 1974-1979

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd ac sydd, o'r herwydd, yn cynnwys cofnodion ac adroddiadau ar gyfer llawer o bwyllgorau. Mae'n cynnwys gohebiaeth fer rhwng R. Bryn Williams, oedd am ymddiswyddo fel aelod, a'r Cadeirydd, Bobi Jones.

Williams, R. Bryn

Gohebiaeth gyffredinol: Cyfeillion y Theatr Gymraeg

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â pherthynas yr Academi a Chyfeillion y Theatr Gymraeg yng Nghaerdydd rhwng 1980 a 1982. Mae'r llythyrau'n cynnwys trafodaeth ynglŷn â chefnogaeth ariannol yr Academi i'r Gymdeithas, manylion perfformiadau yn Theatr y Sherman, ynghyd â rhestrau aelodaeth.

Cyfeillion y Theatr Gymraeg

Canlyniadau 461 i 480 o 583