Showing 47 results

Archival description
Only top-level descriptions file
Print preview View:

Agoriad swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

  • NLW ex 2426.
  • file
  • 1999.

Deunydd yn ymwneud ag agoriad swyddogol y Cynulliad, 26 Mai 1999, gan gynnwys rhaglen swyddogol y seremoni agoriadol, rhaglen y gwasanaeth dathlu yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, amserlenni o weithgareddau’r diwrnod, gwahoddiadau a bwydlenni. = Material relating to the official opening of the National Assembly, 26 May 1999, including the official programme of the opening ceremony, programme of the service of celebration held in Llandaff Cathedral, timetables of events, invitations and menus.

Baledi ac emyn-donau,

  • NLW MS 16796D.
  • file
  • [1900x1951]

Baledi printiedig, sef torion o'r County Echo (Abergwaun) wedi'u pastio ar bapur, yn dwyn y ffugenwau 'Y Giach', 'Christy', 'Gwynodl' a 'Glynfab'; ac emyn-donau mewn llawysgrif gan [?ac yn llaw] Christopher B. Williams ('Alaw Ingli') = Printed ballads in the form of cuttings from the Fishguard County Echo pasted onto paper and bearing the pseudonyms 'Y Giach', 'Christy', 'Gwynodl' and 'Glynfab'; and manuscript hymn-tunes by [?and in the hand of] Christopher B. Williams ('Alaw Ingli').

[?Christopher B. Williams ('Alaw Ingli')].

Barddoniaeth John Jones, Ceunant,

  • NLW MS 16829A.
  • file
  • [1875x1925].

Cyfrol yn cynnwys barddoniaeth gan John Jones, Ceunant ac eraill, ynghyd â ryseitiau meddyginiaethol a rhai ar gyfer y gegin a'r tŷ, yr oll mewn [?o leiaf dwy] law anhysbys = A volume of poetry by John Jones, Ceunant and others, together with culinary, domestic and medical recipes, all written in [?at least two] hands.
Nodir mai gan 'Gwilym Llugwy' (William Owen, Betws y Coed) mae un o'r englynion (f. 7). Ceir ôl adolygu a chywiro ar beth o'r cerddi, sy'n awgrymu efallai mai gwaith un o'r sgrifenwyr ydyw'r rhai neillduol hynny = One of the englynion is noted as being by 'Gwilym Llugwy' (William Owen, Betws y Coed) (f. 7). There are marks of editing and correction on some of the poems, which suggests that these particular ones may be in the autograph of one of the scribes.

Canmlwyddiant y Wladfa,

  • NLW ex 2480.
  • file
  • 1961-1981.

Deunydd a grynhowyd gan John Roberts, trefnydd ac ysgrifennydd cyffredinol yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ymwneud yn bennaf â dathlu canmlwyddiant y Wladfa yn 1965, gan gynnwys llythyrau at y rhoddwr am y 'bererindod i Batagonia' a drefnwyd gan Undeb Cymry Ariannin ac ag ymweliad chwech ymwelydd o Batagonia i Gymru y flwyddyn honno. Ceir llyfr lloffion yn cynnwys ffotograffau yn ymwneud â’r daith i'r Wladfa a llungopi o erthygl Lewis H. Thomas, 'From the pampas to the prairies. The Welsh migration of 1902', a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Saskatchewan History.

Clustnodau defaid sir Gaernarfon,

  • NLW MS 16479A.
  • file
  • [19 gan., ail ½].

Llyfr nodiadau, [19 gan., ail ½], mewn llaw anhysbys, yn cofnodi tua saith cant o glustnodau defaid o blwyfi Llanllechid, Llanbeblig, Bettws, Beddgelert, Llanddeiniolen, Capel Curig, Dolwyddelen, Bryncir a Dolbenmaen, sir Gaernarfon. = Notebook, [19 cent., second ½], in an unidentified hand, recording some seven hundred sheep ear-marks from the parishes of Llanllechid, Llanbeblig, Bettws, Beddgelert, Llanddeiniolen, Capel Curig, Dolwyddelen, Bryncir and Dolbenmaen, Caernarvonshire.

CMA: Cofnodion Eglwys Peel Road, Lerpwl

  • NLW Minor Deposit 1612/vi
  • file
  • 1941-1949

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyron, 1941-1949, yn ymwneud ag Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, Peel Road, Bootle, Lerpwl.

CMA: Cofysgrifau Capel y Cricor

  • NLW Minor Deposit 1612/x
  • file
  • 1944-1971

Cofysgrifau Eglwys y Cricor, Llanfair Dyffryn Clwyd, gan gynnwys cofrestr bedyddiadau, 1944-1971, a tystysgrifau i gynnal priodasau yn y capel, 1959 a 1961.

Capel y Cricor (Llanfair Dyffryn Clwyd, Wales)

Cofnodion Cymdeithas y Ddraig Goch, Manceinion,

  • NLW ex 2509.
  • file
  • 1928-1964.

Llyfrau cofnodion Cymdeithas y Ddraig Goch, Manceinion, o’r dechrau yn 1928 hyd at 1937, o 1944-1948, a 1957-1964, a hefyd llyfr y trysorydd, 1956-1960. = Minute books of 'Cymdeithas y Ddraig Goch, Manceinion a’r Cylch' (Manchester Red Dragon Society), from its establishment in 1928 until 1937, from 1944-1948 and 1957-1964, and also the treasurer’s book, 1956-1960.

Cymdeithas y Ddraig Goch, Manceinion.

Results 1 to 10 of 47