Dangos 17 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau E. Tegla Davies Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Adolygiadau

Adolygiadau o’i weithiau ac adolygiadau ganddo, 1911-1960, a gyhoeddwyd yn Yr Eurgrawn yn bennaf, ynghyd â rhai yn Y Beirniad, Yr Efrydydd, Y Traethodydd a Y Dysgedydd.

Deunydd print

Llyfrau o lyfrgell Tegla Davies, gan gynnwys William Jones (Ehedydd Iâl), Blodau Iâl (Treffynnon, 1908), gyda thorion o erthyglau gan awduron gwahanol; The poems of Francis Thompson (London, 1913), yn cynnwys copi o Y Winllan, Ebrill 1939.

Ffotograffau

Ffotograffau teuluol yn bennaf, [1895]-[1970], ynghyd â lluniau o Tegla Davies yn fyfyriwr yng Ngholeg Didsbury, Manceinion, a ffotograffau o Landegla, ei fro enedigol.

Gradd er anrhydedd

Rhaglen Prifysgol Cymru yn cynnwys cyflwyniad Yr Athro G. J. Williams i Tegla Davies pan dderbyniodd radd Doethur mewn Llên er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe yn 1958.

Hanes teulu a personalia

Torion o ysgrifau coffa i Mrs Jane Eleanor (Nellie) Davies, gwraig Tegla Davies a fu farw yn 1948 a threfn y gwasanaeth, copi Saesneg o ewyllys Tegla Davies, ‘nodiadau teuluaidd’ a chopïau o dystysgrifau geni, priodi a marwolaeth.

Llythyrau a cherddi ar gyfer Yr Efrydydd

Llythyrau a cherddi i Yr Efrydydd, [1917]-[1946], oddi wrth T. Gwynn Jones at y golygydd E. Tegla Davies. = Letters and poems, [1917]-[1946], from T. Gwynn Jones to E. Tegla Davies, editor of Yr Efrydydd.

Llythyrau at E. Tegla Davies

Llythyrau at E. Tegla Davies, 1919-1963, oddi wrth O. M. Edwards, Megan [Lloyd George], W. J. Gruffydd, R. Williams Parry ac Ifor Williams, ynghyd ag englynion gan T. Rowland Hughes i Tegla Davies pan roedd yn ŵr gwadd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn 1930. = Letters to E. Tegla Davies, 1919-1963, from O. M. Edwards, Megan [Lloyd George], W. J. Gruffydd, R. Williams Parry and Ifor Williams, together with englynion by T. Rowland Hughes for Tegla Davies as guest of honour of the Dafydd ap Gwilym Society in 1930.

Pregethau

Cyfrol nodiadau yn cofnodi lleoedd pregethu, dyddiadau a thestunau Tegla Davies, 1919-1965; pregethau, 1953-1961, gan gynnwys
‘Rhaglen oedfa radio Bore Gwener y Groglith’, 1961; a llyfr nodiadau gyda’r teitl ‘Oriau hamdden’, 1880-1905.

Torion

Torion o gylchgronau fel Y Winllan, Yr Eurgrawn, Y Genhinen a’r Traethodydd, 1937-1965, yn cynnwys ysgrifau ganddo neu amdano.

Torion

Cyfrol yn cynnwys torion o’r wasg, 1932-1943, gan gynnwys rhai am ‘Pryddest Dafydd Huws’, pryddest ddigrif a anfonwyd i Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1932 ac a gyhoeddwyd yn Y Ford Gron.