Showing 21 results

Archival description
Archif John Eilian File
Print preview View:

Sgwrs am Gymru

Nodiadau bywgraffyddol yn ei law ar gyfer y gyfrol Awdlau cadeiriol detholedig 1926-1950 (1953), a thudalen olaf llythyr a ysgrifennodd at ei wraig Lilian, ynghyd ag anerchiad gan Goronwy Tudor Jones, mab John Eilian, i Glwb y Rotari yn Berkeley, Califfornia, yn 1967, ond a luniwyd gan John Eilian. Yr oedd yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer MA mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley, ar y pryd.

Mesopotamia

Copi o'r Times of Mesopotamia, 5 Mehefin 1927, a olygwyd ganddo, adysgrifau, 2018, o lythyrau oddi wrtho at Caradog Prichard, 1928, ac allbrintiau, 2017, o archif hanesyddol y Daily Mail o erthyglau a gyfrannodd i’r papur hwnnw, 1928-1929.

Englynion beddau a cherddi eraill

Englynion coffa a luniodd i'w briod Lilian Maud Jones a fu farw yn 1972, ei gyfaill Percy Ogwen Jones (1982) a Bedwyr Lewis Jones [1992], a cherddi eraill ganddo a gyhoeddwyd mewn papurau newydd, allbrintiau o wefan Cylchgronau Cymru yn cynnwys cerddi a gyhoeddwyd yn Cymru a'r Llenor, ynghyd â chyfrol C. Davies and E. K. Prosser (golygyddion), A Book of Aberystwyth (Y Drenewydd, 1926), yn cynnwys tair cerdd Gymraeg ganddo.

Timothy Lewis

Erthyglau Cymraeg a Saesneg, wedi’u cyflwyno i John Eilian, 1929-1947, a llythyrau oddi wrtho, 1937-1947.

Lewis, Timothy, 1877-1958

Y Corn Gwlad

Un rhifyn yn unig a argraffwyd o'r cylchgrawn hwn sef Cylchgrawn Blynyddol Gorsedd y Beirdd a'r Eisteddfod wedi'i olygu gan John Eilian.

Gwaed ifanc

Llyfr nodiadau gyda stamp Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys cerddi ganddo 1921-1924, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Gwaed ifanc yn 1923 gyda cherddi gan E. Prosser Rhys, a llungopi o’r gyfrol, ynghyd ag adolygiadau oddi ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein, 2016. Ceir gosodiad cerdd dant Dewi Mai o Feirion mewn sol-ffa o ddwy gerdd ‘Atgof’ a ‘Mi wn’ gan John Eilian, Nadolig 1947, i ddathlu llwyddiant John Eilian yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1947.

Cywydd Caergrawnt (I Goronwy)

Cyhoeddwyd y cywydd yn Y Faner, Chwefror 1963, wedi iddo ymweld â’i fab Goronwy yng Nghaergrawnt yn ystod gaeaf eithriadol o oer pan rewodd yr afon Cam yn gorn, ynghyd â nodiadau esboniadol ar yr eirfa i'w fab.

Ffotograffau

Ffotograffau a thorion yn ymwneud â'i lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol; ei daflen etholiad fel ymgeisydd Ceidwadol yn Ynys Môn mewn Etholiad Cyffredinol, [1964x1970]; gweithio gyda’r BBC; llungopïau o’r Radio Times am y ddrama ‘Y darn arian’ a gyfieithiwyd ganddo o’r Saesneg ac a ddarlledwyd yn 1936, a sgwrs ganddo ‘Alltud o Gymro yn Ceylon’ a ddarlledwyd yn 1937.

T. Gwynn Jones

Llawysgrif Llyfr Nia fach a’r copi printiedig a gyhoeddwyd yn 1932, caneuon a gyfieithiwyd gan T. Gwynn Jones, ynghyd ag adroddiad John Eilian ar angladd y llenor yn Y Cymro, 1949.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Wil Ifan o Fôn

Llythyrau, cerddi, a thorion o erthyglau ganddo a gyhoeddwyd yn Y Clorianydd, 1932-1950, ynghyd ag atgynyrchiad o siart Wil Ifan o Fôn 'The Bardic Circle ... A Primary Attempt at Dissection' yn darlunio strwythur a hanes y cylch barddol.

Evans, William, 1875-1952

Llythyrau at Percy Ogwen Jones

Dyfyniadau o lythyrau oddi wrtho at Percy Ogwen Jones, 1923-1937, ynghyd â’i deyrnged i’w gyfaill: ‘Y dyn yn ei gyfnod. Myfyrdod am Percy Ogwen Jones’, Yr Herald Cymraeg, 1982.

Y Ford Gron

Llythyrau, 1920 -1932, 1984, at John Eilian oddi wrth lenorion a gwleidyddion amlwg yn y 1920au a 1930au, llawer ohonynt yn ymateb i'r cylchgrawn.

Y Cymro

Papurau, 1930-1934, gan gynnwys gohebiaeth rhwng Rowland Thomas, perchennog Hughes a'i Fab, a John Eilian.

Adroddiadau ysgol

Adroddiadau ysgol John Eilian, 1911-1915, tra'n ddisgybl yn Ysgol y Cyngor Penysarn, ynghyd â phapurau amrywiol.

Ysgrifau coffa

Teyrngedau o’r wasg, 1985, i John Eilian, ynghyd â chopi o Barn, Ebrill 2012, yn cynnwys erthygl Geraint Percy Jones am ‘Arloeswr y wasg John Eilian (1903-85)'.

Results 1 to 20 of 21