Mae’r ffeil yn cynnwys dau focs mynegai (coch a glas) yn nodi’r alawon sydd yn ‘Alawon Fy Ngwlad’ Nicholas Bennett wedi trefnu fesul alaw A-M (ff. 1-332), N-Y (333-533). Nodir rhif y gyfrol a'r dudalen, teitl y gân, fersiwn sol-ffa, a chyfeiriad at lawysgrifau.
Cyfeiriadau at RM= Llawysgrif Richard Morris o Gerddi, 1931 gan T.H. Parry-Williams. Ar y cefn ceir gwybodaeth wahanol ac ymddengys eu bod yn ail ddefnyddio cardiau mynegai alawon Saesneg.
Casglodd Nicholas Bennett dros 700 o alawon Cymreig, a chyhoeddwyd 500 ohonynt mewn dwy gyfrol yn 1896, o dan yr enw Alawon fy Ngwlad , wedi eu dewis a'u trefnu gan Emlyn Evans; yn y llyfr ceir darluniau a bywgraffiadau o delynorion a chantorion gyda'r tannau , a nodiadau eglurhaol ar y dull o ganu gyda'r tannau