Showing 10 results

Archival description
Papurau R. Elwyn Hughes File
Print preview View:

Llythyrau 1935-2006

Ymhlith y llythyrau mae un oddi wrth T. E. Nicholas a soned 'Syrcas Caernarfon 1969' ganddo mewn teipysgrif gyda nodyn yn ei law: 'Fy soned olaf, ar ben fy mhlwydd yn 89 Hyd 6/68'

Joseph Murray Ince

Papurau ymchwil yn ymwneud â'i erthygl 'Joseph Murray Ince (1806-1859), artist of Presteign, Radnorshire' a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf. 17, rh. 4 (Gaeaf 1972), ynghyd â nodiadau pellach ar hanes Rhayadr.

Richard Bill a William Till

Papurau'n ymwneud â'i astudiaeth Caerwent 1880 : the diary of William Till (1856-93) of Great House Farm for the year 1880 : transcribed, with a brief introduction a gyhoeddwyd fel llyfryn yn 2004.

Papurau bywgraffyddol

Toriad o gylchgrawn Coleg y Santes Catrin, [Caergrawnt], yn nodi iddo ennill gradd dosbarth cyntaf (rhagarweiniol) mewn Gwyddoniaeth Naturiol yn 1948, llyfryddiaeth, 1983-1988, copi o Llyfrau gwyddonol Cymraeg (Rhan II) - llyfrau cyn 1940 yu bu'n cynorthwyo ei llunio yn cynnwys ychwanegiadau llawysgrif a thoriad o'r [Dinesydd] am gyflwyno'r fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005.

Enwau planhigion

Papurau'n adlewychu'i ddiddordeb mewn tarddiad enwau planhigion, enwau planhigion mewn ieithoedd eraill a phlanhigion gydag arwyddocâd crefyddol.