Showing 164 results

Archival description
Archif Plaid Cymru, File
Print preview View:

Cyfarfod y Pwyllgor Gwaith

Agenda, adroddiadau a phapurau perthnasol eraill yn ymwneud â'r cyfarfod, gan gynnwys cofnodion llawysgrif, ac adroddiad Dafydd Wigley, 'Strategaeth etholiadol ar gyfer y 90au'.

Cyhoeddiadau cynadleddau

Cynigion i'r gynhadledd, 1978, penderfyniadau, 1984 (gyda nodiadau Dafydd Williams), 1987 a 1990, standing orders, [post 1984], rhaglenni cynadleddau 1977, 1994-1996, 2000-2001 a 2004, taflen Cynhadledd Wanwyn, 2002, a chynnigion a gwelliannau, 2003.

Taflenni etholiadol

Taflenni Rhun ap Iorwerth, ymgeisydd Plaid Cymru yn isetholiad Ynys Môn i'r Cynulliad, 1 Awst 2013; taflenni Jill Evans, Aelod Senedd Ewrop dros Gymru, gan gynnwys taflen etholiad 22 Mai 2014, ac adroddiad 2014/15; a thaflenni Plaid Cymru a Phlaid Llafur am isetholiad ward Plasnewydd i Gyngor Caerdydd, 20 Medi 2016.

Darllediadau gwleidyddol Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd 1989

Sgriptiau a phapurau Meleri Mair yn ymwneud â darllediadau gwleidyddol Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd 1989, gan gynnwys yr Ysgol Undydd ('Euroschool'), Caerfyrddin, 16 Ebrill 1988, a'r Ŵyl Glyndŵr ('Cymru yn Ewrop'), Machynlleth, 16-18 Medi 1988. Yn cynnwys pecyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Merthyr Tudful, 26-30 Mai 1987.

Papurau trafod

Papurau trafod, papurau gwynion yn ymwneud â pynciau amrywiol, gan gynnwys 'Deg ceiniog dros yr iaith: ymateb Plaid Cymru i'r Ddeddf Iaith = Ten pence for the language: Plaid Cymru's response to the Welsh Language Act', 1993; 'Papur gwyn ar iechyd: Gwasanaeth iechyd mewn Cymru rydd = A health service for a self-governing Wales', 1994; 'Building our national identity: education policy and a Welsh parliament', 1994; Cynog Dafis, 'Cyfundrefn ysgolion i Gymru', [1994x2000]; '100,000 o atebion ... i ddileu di-weithdra yng Nghymru', 1995; '100,000 answers ... to conquer unemployment in Wales', [1995]; 'Deddf iaith newydd = New language bill', 1995; 'Safonau ysgolion Cymru = School standards in Wales', 1996; 'Senedd wrth law? A parliament in prospect?', 1996; 'Uwch-gynhadledd 1996/97: papur gwyn amgen Plaid Cymru ar gyfer Cymru yn Ewrop = The 1996/97 IGC: Plaid Cymru's alternative white paper for Wales in Europe', 1996; 'Wales and Europe Intergovernmental Conference: discussion papers', 1996; 'Hawliau anifeiliaid', 1997; 'Strategaeth dwr cynaladwy i Gymru', [1997]; 'Water: a key economic and environmental resource for Wales', 1997.

Results 1 to 20 of 164