Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 5982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil / File
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Tosturi

Proflenni Tosturi, sef detholiad o gerddi gan Menna Elfyn a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2022, sy'n cynnwys rhagymadrodd ddwyieithog i'r gyfrol gan Menna Elfyn yn dwyn y dyddiad ysgrifenedig '5.3.2022'; gydag arnodiadau llaw a nodiadau a chywiriadau argraffedig gan Menna Elfyn a nodiadau electronig gan [?y golygydd neu'r argraffydd]. Ynghyd â chyfres o ebyst, 2022, yng Nghymraeg a Saesneg cydrwng Menna Elfyn a'r rheolwraig ddiwylliannol, cyfieithydd a golygydd Alexandra Büchler ac oddi wrth Menna Elfyn at y golygydd a'r ymchwilydd Alaw Mai Edwards, rhai o'r negeseuon yn cyffwrdd â salwch olaf a marwolaeth Geraint Elfyn Jones, brawd Menna Elfyn (cyflwynir y gyfrol i Geraint Elfyn Jones ac i chwaer Menna Elfyn, sef Siân Elfyn Jones, a fu farw yn 2020). Ynghyd ag erthygl a dynnwyd o gylchgrawn Y Wawr, Hydref 2017, am y Dywysoges Gwenllian gan Tecwyn Vaughan Jones, Cadeirydd Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.

Pennod cyfrol: Comin Greenham

Copi teipysgrif o bennod yn dwyn y teitl 'Comin Greenham', sef cyfraniad Menna Elfyn i'r gyfrol Dros Ryddid!, a olygwyd gan Llinos Dafydd ac Ifan Morgan Jones ac a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa yn 2022.

Coeden deuluol D. S. Owen = D. S. Owen family tree

Coeden deuluol wedi'i llunio yn llaw Nerys Owen, wyres D. S. Owen, yn cynnwys enwau D. S. Owen a'i wraig Grace Maude (Gracy) (ganed Jones), eu plant a'u gwŷr/gwragedd, a phlant Eluned, merch D.S. a Gracy Owen. Cylchynir enw Nerys Owen, un o blant Eluned. = Family tree drawn by Nerys Owen, granddaughter of D. S. Owen, comprising the names of D. S. Owen and his wife Grace Maude (Gracy) (née Jones), their children and children's spouses, and the children of Eluned, daughter of D. S. and Gracy Owen. The name of Nerys Owen, one of Eluned's children, is circled.

Diaries and calendars - 2020s

Diaries, 2020 - 2021, and calendar, 2021, of Siân Phillips, the contents largely relating to Siân Phillips' personal, domestic and family affairs and to her professional life.

75th anniversary

Material relating to the 75th anniversary of the Welsh Beekeepers' Association, comprising: material relating to the WBKA 75th anniversary conference, held at University of Wales Aberystwyth, 13-15 July 2018; WBKA 75th anniversary metallic lapel badge; and WBKA 75th anniversary medal and lapel badge donated to the WBKA by long-time Swansea and District WBKA branch member Commander Eric George Verge, with accompanying letter dated 16 October 2019 (the 50th anniversary medal also mentioned in the letter does not appear to be present).

Cennad

Copi proflen, gyda chywiriadau yn llaw Menna Elfyn, o'i llên-gofiant, a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2018. Dyma'r drydedd gyfrol i'w chyhoeddi yng nghyfres boblogaidd Cennad, 'sy'n rhoi llwyfan i'n prif lenorion drafod eu bywyd a'r dylanwadau ar eu gwaith' (https://cantamil.com/products/cennad-menna-elfyn). Ynghyd â nodiadau teipysgrif, wedi'u harnodi yn llaw Menna Elfyn.

Cwsg

Copi proflen, gyda chywiriadau yn llaw Menna Elfyn, o'r gyfrol Cwsg, sy'n cynnwys rhyddiaith, barddoniaeth ac amrywiol sylwadau ar natur cwsg, ac a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2019. Ynghyd â deunydd ymchwil a nodiadau yn ymwneud â chwsg yn gyffredinol.

Bondo

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd ddwyieithog Bondo (2017), gan gynnwys drafft anodiadol o'r gyfrol a datganiad i'r wasg.

Personal correspondence

Personal correspondence, 2017, discussing mainly social and literary matters, including letters from Henry John Ferns (1); Vibeke Fenger-Petersen (1); Peter Lord (1); Calvin Forbes (7); Ian McDonald (2); Bruce Clunies Ross (2); John Holmes (1); and Nicholas Murray (1).

Bondo

Dwy ddrafft o Bondo, cyfrol farddoniaeth ddwyieithog gan Menna Elfyn, a gyhoeddwyd gan Bloodaxe Books yn 2017. Arnodir 'Copy llawn' ar un drafft yn llaw Menna Elfyn, a'r dyddiad '14.07.2017'.

Gweler hefyd 'Bondo Barddoniaeth' dan Anerchiadau.

Dewch Gyda Fi

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama lwyfan Dewch Gyda Fi (2017), sef addasiad Cymraeg gan Menna Elfyn o ddrama Mike Kenny Follow Me (2017), gan gynnwys copi teg o'r sgript a hysbysebiad o'r wasg.

Canlyniadau 1 i 20 o 5982