Dangos 4316 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil / File
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Pengelli'

Sgriptiau (arnodedig), rhestrau actorion a chriw cynhyrchu a chynlluniau pensaernïol yn ymwneud â'r gyfres deledu 'Pengelli', a ddarlledwyd ar S4C o 2001 hyd 2004, gydag un sgript yn dwyn y teitl gweithredol cychwynnol 'Maes Isa''.

'Stewart Jones'

Sgript, amserlen (call sheet) a phrintiad ffotograffig yn ymwneud â drama ddogfen ar gyfer cwmni Ffilmiau Eryri yn dwyn y teitl cynnar cychwynnol 'O'r Alban i'r Congo', a ddarlledwyd yn ddiweddarach fel 'Stewart Jones' [?1996], sy'n olrhain hanes bywyd yr actor Albanaidd/Gymreig Stewart Jones.

'O. M.'

Sgript gan yr awdur a'r dramodydd Eigra Lewis Roberts yn dwyn y teitl 'Galw'n Ôl', a gynhyrchwyd gan Ffilmiau Eryri ac a ddarlledwyd ym 1990 dan y teitl 'O. M.'

'Two Women'/'The Eye of the Wind'

Sgriptiau 'Two Women'/'The Eye of the Wind' (ceir y ddau deitl ar frig un sgript), drama deledu a addaswyd gan J. Mansel Thomas o stori fer Gymraeg gan Dafydd Huw Williams, ynghyd ag amserlenni (call sheets). Dyddir yr amserlenni a'r sgriptiau 8 & 9 Mai 1973.
Methwyd canfod unrhyw wybodaeth pellach (e.e. o ffynhonellau arlein) am y ddrama hon.

'The Peak'

Dau gopi o sgript 'The Peak', 1973, drama deledu gan y bardd a'r awdur Emyr Humphreys, wedi'i gyfieithu a'i addasu o'r stori fer Y Garnedd Uchaf gan y dramodydd, llenor ac academydd John Gwilym Jones o'i gyfrol Y Goeden Eirin, a gyfieithwyd fel The Plum Tree (https://www.ebay.com/itm/394017519616), ynghyd ag amserlenni (call sheets) dyddiedig Ionawr 1973.

Hugh Griffith

Deunydd yn ymwneud â'r actor Cymreig Hugh Griffith, sy'n cynnwys:
Cardiau post yn dangos Theatr Frenhinol Shakespeare a Theatr yr Alarch (Swan Theatre), Stratford-upon-Avon (di-ddyddiad).

Taflenni argraffiedig gyda manylion dadorchuddio cerflun er cof am Hugh Griffith gan y cerflunydd John Meirion Morris. Am yr achlysur hwn, gweler, er enghraifft: https://artuk.org/discover/artworks/hugh-griffith-19121980-277631 [1980].

Llungopi o 'Y Gigfran', drama radio a ddarlledwyd ar Radio Cymru, 15 Tachwedd 1946, sy'n seiliedig ar waith y llenor Edgar Allan Poe, yn arbennig felly ei gerdd 'The Raven', a atgynhyrchir yma ochr-yn-ochr â chyfieithiad y gerdd i'r Gymraeg; cymerir rhan cymeriad 'Llais 2' gan Hugh Griffith. Dyddir y deunydd gwreiddiol [1946].

Llungopi o erthygl yn y wasg gan Hugh Griffith yn dwyn y teitl 'Tro ym Mhen Llŷn' (dim dyddiad yn amlwg, ond mae cynnwys yr erthygl yn awgrymu dechrau'r Ail Ryfel Byd).

Llungopi o gyfieithiad i'r Saesneg [?gan ac] yn llaw y gwleidydd, bardd, dramodydd a'r adolygydd llenyddol Saunders Lewis o bennill gyntaf yr emyn 'Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon, 'Rwyt ti'n llawer gwell ['mwy' yw'r testun cywir] na'r byd ...' (di-ddyddiad).

Llungopïau o ffotograffau yn dangos Hugh Griffith yn ei fynych rannau mewn ffilmiau (di-ddyddiad, ond awgrymir dyddiad yn ôl y ffilm).

Darlun cartŵn o Hugh Griffith yn rhan Falstaff (1964) (gweler https://collections.shakespeare.org.uk/search/museum/strst-sbt-2017-13-38). Dyddir y deunydd gwreiddiol [1964].

Llungopïau o lythyrau at Hugh Griffith, sydd bennaf yn trafod gwaith a llwyddiannau Griffith, y gohebwyr fel a ganlyn:
Y gwleidydd, bardd, dramodydd a'r adolygydd llenyddol Saunders Lewis (1950, 1959, 1960, 1975); y darlledwr a swyddog gweithredol y BBC Huw Wheldon (1954); yr actor a'r canwr Richard Harris (1962); y bardd, adolygydd ac ysgolhaig Gwenallt (1962); y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans ([?1963]); y bardd a'r dramodydd Cynan (1965); y dramodydd, awdur ac ysgolhaig John Gwilym Jones (1965); y bardd a'r dramodydd Christopher Fry (1975); a'r newyddiadurwr, awdur a gohebydd John Arlott (di-ddyddiad).
Ceir hefyd lythyr di-ddyddiad oddi wrth 'Charlotte' (enw'r derbynnydd yn annarllenadwy).

Llungopïau a chopïau o lythyrau oddi wrth Hugh Griffith, y gohebwyr fel a ganlyn:
Y gwleidydd, cyfreithiwr ac awdur Gwynfor Evans (1964); y bardd a'r dramodydd Cynan (1965); y bardd, adolygydd ac ysgolhaig Gwenallt (1965); a'r awdur, cynhyrchydd drama ac ymgyrchydd iaith Norah Isaac (1940-1941, 1961 a di-ddyddiad), rhai o'r llythyrau wedi'u hanfon tra bod Griffith yn cyflawni gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Llungopïau a chopïau teipysgrif o lythyrau oddi wrth Hugh Griffith at aelodau teuluol, gan gynnwys yr actores a'r athrawes Elen Roger Jones a'i gŵr Gwilym Roger Jones, sef chwaer a brawd-yng-nghyfraith Hugh Griffith, a'u merch Mary (neu Meri) Rhiannon (un llythyr yn anghyflawn) (1942-1945, 1957-1959 a di-ddyddiad); a'i fam Mary Griffith (di-ddyddiad). Anfonwyd nifer o'r llythyrau tra 'roedd Griffith yn cyflawni gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Llungopïau a chopïau yn bennaf o ohebiaeth, 1960-1961 a di-ddyddiad, rhwng Hugh Griffith a chynrychiolwyr o gwmni ffilmiau Metro-Goldwyn-Mayer (MGM) tra 'roedd Griffith yn chwarae, neu'n paratoi i chwarae, rhan 'Alexander Smith' yn y ffilm 'Mutiny on the Bounty' (1962), ynghyd â rhai amserlenni (call sheets) a rhan o'r sgript. Rhai o'r llythyrau oddi wrth Griffith wedi'u croesi allan a heb eu hanfon. Un llythyr yn Ffrangeg.

Programme notes,

'Concerto for Harp and Orchestra' - London Symphony Orchestra, Peter Stuyvesant concerts, programme 1964. [note: Conductor stuck in lift!]; Jack Straw programme notes (1964); Typescript programme notes - North Country Sketches, Delius; Concerto for Cello and Orchestra, Rawsthorne; Symphony No.1, Walton [1966]; performance of 'The Floore of Heaven', The Globe Trust Playhouse presents, the Shakespeare Birthday Celebrations Royal Gala Concert, Southwark Cathedral, 1973; 'What the old man does is always right', music by Alun Hoddinott. Fishguard Music Festival, 1977; Bitter Sweet - Diversions dance company, 2009; BBC Hoddinott Hall Opening Festival, BBC National Orchestra of Wales, 24 January 2009. Swansea Festival of Music and Arts, 'Taliesin for orchestra', (BBC commission: world premiere) 10 October 2009; Swansea Festival of Music and Arts, 2009 and 2011 with insert advertisement 'Celebrating English Song at Tardebigge' (2009); Oxford Music Now 'Alun Hoddinott Remembered' (2009). Article from Gramophone - Specialist's Guide to …. concert overtures, Jack Straw (by Hoddinott), 2012.

Guest book,

Guest book from the celebration of Alun Hoddinott's fiftieth birthday, 11 September 1976 by the Music Department of O.U.P.

Congratulations,

Telegram and postcard from Grace Williams (composer), congratulating him on his wedding to Rhiannon and the birth of their son.

Canlyniadau 1 i 20 o 4316