- F1/1
- Ffeil / File
- 1956-1985
Papurau’n ymwneud â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru, 1956-1985. Bu Emrys Bennett Owen yn gadeirydd y gymdeithas. Ymhlith y papurau mae cofnodion cyfarfodydd a chyfansoddiad y gymdeithas. Ceir llythyrau oddi wrth Meredydd Evans, Kitty Idwal Jones ac Islwyn Ffowc Elis, ynghyd â ffotograffau o stondin y gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978 a thri ffotograff o gwrs preswyl a gynhaliwyd yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth yn 1978.