Cyfres y cyfieithiadau: cofnodion a phapurau cyffredinol
- CCC1
- cyfres
- 1974-1986
Mae'r gyfres hon yn cynnyws adroddiadau, cofnodion a gohebiaeth yn ymwneud â chyhoeddi'r cyfieithiadau barddoniaeth a'r cyfieithiadau rhyddiaith, 1974-1986.
Cyfres y cyfieithiadau: cofnodion a phapurau cyffredinol
Mae'r gyfres hon yn cynnyws adroddiadau, cofnodion a gohebiaeth yn ymwneud â chyhoeddi'r cyfieithiadau barddoniaeth a'r cyfieithiadau rhyddiaith, 1974-1986.
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth, papurau ac adroddiadau, ynghyd a theipysgrifau ar gyfer rhai o'r cyfrolau a gyflwynwyd ar gyfer y gyfres o gyfieithiadau rhyddiaith, 1977-1990.
Cyfres cyfieithiadau barddoniaeth
Mae'r gyfres yn cynnwys ffeiliau o ohebiaeth, teipysgrifau a chytundebau yn ymwneud â chyhoeddi rhai o'r cyfrolau yng nghyfres cyfieithiadau barddoniaeth yr Academi, 1978-1985.
Mae'r gyfres yn cynnwys sawl drafft o lawlyfr yr Academi ac yn adlewyrchu peth o'r ansicrwydd a fodolai ynglŷn â phwy yn union oedd yn gyfrifol am sefydlu'r Academi, a'r anghytundeb a fu ynglŷn â hyn, rhwng Bobi Jones a rhai o'r aelodau eraill, 1977-1980.
Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd sy'n adlewyrchu gweithgaredd yr Academi a'r tîm ymchwil, dan arweiniad Iwan Llwyd, wrth iddynt baratoi ar gyfer cyhoeddi'r Llyfrynnau Llenorion, 1981-1983.
Heb deitl
Cyhoeddiadau gwreiddiol: Dathlu
Yn ystod 1984 dathlodd yr Academi chwarter canrif o fodolaeth. Yn ystod y flwyddyn, ymysg pethau eraill, trefnwyd Gŵyl Gwenallt a chyfarfod i anrhydeddu Euros Bowen. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno penderfynwyd cyhoeddi cynhyrchion y cyfarfodydd hyn yn un gyfrol yn dwyn y teitl Dathlu, dan olygyddiaeth R. Gerallt Jones. Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau llawysgrif, teipysgrif a phroflen o'r erthyglau a'r cerddi ar gyfer y llyfr, ynghyd â llythyrau perthynol, 1984-1986.
Jones, R. Gerallt (Robert Gerallt), 1934-1999
Cyhoeddiadau gwreiddiol: Detholion
Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chyhoeddi Detholion i nodi pen blwydd Euros Bowen yn bedwar ugain oed a'r cyfarfod teyrnged pryd lansiwyd y gyfrol, ynghyd â manylion y cytundeb rhwng Gwasg Gomer, yr Academi ac Euros Bowen, 1984-1985.
Bowen, Euros,
Cyhoeddiadau gwreiddiol: Baledi'r ddeunawfed ganrif
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth â Thegwyn Jones ynglŷn ag ailargraffu'r gyfrol, 1984-1986.
Jones, Tegwyn, 1938-
Cofnodion Pwyllgor y Geiriadur
Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion y Bwrdd Golygyddol rhwng 1975 a 1988, ynghyd â rhai llythyrau ac adroddiadau.
Rheolwyd y Geiriadur gan Fwrdd Golygyddol a gyfarfu am y tro cyntaf ar 1 Awst 1975 dan gadeiryddiaeth J. E. Caerwyn Williams.
Geiriadur yr Academi: gohebiaeth
Mae'r gyfres hon yn cynnwys gohebiaeth sy'n adlewyrchu gweinyddiad y Geiriadur a pherthynas yr Academi, y Geiriadur â'r gwahanol gyrff oedd yn gysylltiedig â'r cynllun, 1975-1993.
Heb deitl
Geiriadur yr Academi: adroddiadau ar y gwaith
Mae'r gyfres yn cynnwys adroddiadau ar y gwaith a wnaed ar y geiriadur, ei gynnwys a'i ffurf ac ar faterion cyllidebol, 1977-1993.
Heb deitl
Geiriadur yr Academi: papurau ariannol
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth ac adroddiadau ynglŷn â'r cymhorthdal, 1975-1991.
British Academy
Mae'r gyfres yn cynnwys papurau yn ymwneud â Chynllun Creu Gwaith y Llywodraeth, 1975-1977; cysylltiadau rhyngwladol, 1977-1978; erthyglau a ysgrifenwyd ar waith y geiriadur, 1977-1989; darlith y Geiriadur, 1982-1983; geiriaduron lleiafrifoedd eraill, 1983; cytundeb a Gwasg y Brifysgol, 1988.
Heb deitl
Cyfres y clasuron: papurau pwyllgor
Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion pwyllgor, 1977-1980, a papurau ynghylch cymorthdal cyhoeddi.
Mae'r gyfres yn adlewyrchu gweithgaredd cyhoeddi cyfres calsuron yr Academi. Mae'r ohebiaeth yn ymwneud â pherthynas yr Academi â'r golygyddion, y swyddog cyflogedig a chyrff eraill a oedd yn ymwneud â'r cynllun, 1977-1984.
Cyfres y clasuron: dwy storm, Islwyn
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth, proflenni a nodiadau ar gyfer y ddwy gyfrol, 1977-1990.
Walters, Meurig
Meistri a'u crefft: hawlfraint
Mae'r ffeil yn cynnwys ysgrifau byrion Saunders Lewis a gasglwyd ynghyd fel rhan o 'Gyfres y Clasuron' dan y teitl Meistri a'u Crefft, Gwynn ap Gwilym, gol.(Caerdydd, 1981).
Cyfres y clasuron: gweithiau W. J. Gruffydd
Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn adlewyrchu ochr weinyddol y gwaith o gyhoeddi'r cyfrolau, 1989-1992.
Jones, Bobi, 1929-2017
Cyfres y clasuron : : Cronicl Elis Gruffydd,
Adysgrif o Gronicl Elis Gruffydd, 'y milwr o Galais', NLW MS 5276D a NLW MS 3054D (Mostyn MS 158 gynt), a fwriadwyd i'w gyhoeddi o bosib fel rhan o gyfres Clasuron yr Academi.
Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth gyda nifer fawr o lenorion Cymraeg amlwg, yn ogystal â chofnodion ac adroddiadau sy'n adlewyrchu gweithgaredd Tecwyn Lloyd fel aelod cyffredin o'r Academi ond yn bennaf fel golygydd a chyd-olygydd Taliesin rhwng 1965 a 1984.
Lloyd, D. Tecwyn (David Tecwyn)