Showing 56 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, series
Print preview View:

Apêl Kate Roberts

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth ac adroddiadau yn ymwneud â'r gwaith gyflawnodd yr Academi ar ran Kate Roberts, 1983-1985. Mae'n cynnwys gohebiaeth â'r Royal Literary Fund yn bennaf, yn ogystal â manylion y Dysteb Genedlaethol a lwyddodd i godi yn agos at £7000 yn ystod 1983.

Roberts, Kate, 1891-1985

Cais Nobel Saunders Lewis

Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chais yr Academi i ennill Gwobr Nobel am Lenyddiaeth i Saunders Lewis yn ystod y 1970au a'r 1980au, syniad a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Vernon Jones, athro yn Ysgol Y Berwyn Y Bala, ym 1966. Mae'n cynnwys gohebiaeth a deisebau yn erfyn cefnogaeth unigolion dylanwadol o gylchoedd gwleidyddol, crefyddol ac academaidd, yn ogystal â chopïau o'r cais gwreiddiol ar gyfer 1971 a chais diwygiedig ar gyfer 1977. Parhawyd i gyflwyno'r cais tan o leiaf 1981.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Cofnodion Cynnar

Mae'r gyfres yn cynnwys dwy gyfrol o gofnodion yr Academi Gymreig o'r cyfnod allweddol rhwng ei sefydlu ym 1960 a chyflogi ei Swyddog Gweinyddol cyntaf ym 1974 ac yn cynnwys cyfeiriadau at nifer o unigolion amlwg ym myd llenyddiaeth Gymraeg yn y cyfnod. Roedd y cyfarfodydd penwythnos yn cynnwys seiadau llenyddol ac un cyfarfod busnes. Cofnodion y cyfarfodydd hyn, a dau gyfarfod o rag-bwyllgor yr Academi a gynhaliwyd yn ystod 1959, a geir yma. Fe fu nifer o'r aelodau yn ysgrifenyddion yn ystod y cyfnod hwn yn eu plith Bobi Jones, yr ysgrifennydd cyntaf, 1959-1963, a Gwyn Thomas, Bangor, 1967-1971, a oedd yn paratoi cofnodion ffraeth a threiddgar.

Jones, Bobi, 1929-2017

Cyhoeddiadau gwreiddiol: Dathlu

Yn ystod 1984 dathlodd yr Academi chwarter canrif o fodolaeth. Yn ystod y flwyddyn, ymysg pethau eraill, trefnwyd Gŵyl Gwenallt a chyfarfod i anrhydeddu Euros Bowen. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno penderfynwyd cyhoeddi cynhyrchion y cyfarfodydd hyn yn un gyfrol yn dwyn y teitl Dathlu, dan olygyddiaeth R. Gerallt Jones. Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau llawysgrif, teipysgrif a phroflen o'r erthyglau a'r cerddi ar gyfer y llyfr, ynghyd â llythyrau perthynol, 1984-1986.

Jones, R. Gerallt (Robert Gerallt), 1934-1999

Results 1 to 20 of 56