Dangos 65 canlyniad

Disgrifiad archifol
cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Apêl Kate Roberts

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth ac adroddiadau yn ymwneud â'r gwaith gyflawnodd yr Academi ar ran Kate Roberts, 1983-1985. Mae'n cynnwys gohebiaeth â'r Royal Literary Fund yn bennaf, yn ogystal â manylion y Dysteb Genedlaethol a lwyddodd i godi yn agos at £7000 yn ystod 1983.

Roberts, Kate, 1891-1985

Gohebiaeth D. Tecwyn Lloyd,

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth gyda nifer fawr o lenorion Cymraeg amlwg, yn ogystal â chofnodion ac adroddiadau sy'n adlewyrchu gweithgaredd Tecwyn Lloyd fel aelod cyffredin o'r Academi ond yn bennaf fel golygydd a chyd-olygydd Taliesin rhwng 1965 a 1984.

Lloyd, D. Tecwyn (David Tecwyn)

Geiriadur yr Academi: amryw

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau yn ymwneud â Chynllun Creu Gwaith y Llywodraeth, 1975-1977; cysylltiadau rhyngwladol, 1977-1978; erthyglau a ysgrifenwyd ar waith y geiriadur, 1977-1989; darlith y Geiriadur, 1982-1983; geiriaduron lleiafrifoedd eraill, 1983; cytundeb a Gwasg y Brifysgol, 1988.

Heb deitl

Llawlyfr yr Academi

Mae'r gyfres yn cynnwys sawl drafft o lawlyfr yr Academi ac yn adlewyrchu peth o'r ansicrwydd a fodolai ynglŷn â phwy yn union oedd yn gyfrifol am sefydlu'r Academi, a'r anghytundeb a fu ynglŷn â hyn, rhwng Bobi Jones a rhai o'r aelodau eraill, 1977-1980.

Canlyniadau 41 i 60 o 65