- C1
- series
- 1936-1939, 1967
Papurau, 1936-1939, yn ymwneud â Llosgi'r Ysgol Fomio a chanlyniadau'r weithred.
Papurau, 1936-1939, yn ymwneud â Llosgi'r Ysgol Fomio a chanlyniadau'r weithred.
Papurau, 1922-1966, yn ymwneud â Phlaid Cymru yn genedlaethol ac yn lleol yn Sir Benfro gan gynnwys llyfrau cofnodion Pwyllgor Rhanbarth Dyfed, 1938-1947, a rhestri etholwyr Abergwaun a rhestr o aelodau'r Blaid yn 1966 yn Sir Benfro.
Plaid Cymru lctgm -- Meetings
Gwersi Cymraeg, anerchiadau a phregethau
Papurau, [1913]-1961, yn ymwneud â gweithgareddau cyhoeddus D. J. Williams fel athro ail iaith a phregethwr lleyg.
Drafftiau a phroflenni o ran fwyaf o weithiau D. J. Williams, [1949]-1968, gan gynnwys ei weithiau hunangofiannol.
Ysgrifau ac erthyglau nas cyhoeddwyd a sgriptiau o'i waith a ddarlledwyd ar y radio, [1921]-[1954]. Cyhoeddwyd rhai o'r storïau hyn a ddarlledwyd, fodd bynnag, yn ddiweddarach, yn ei gyfrolau o storïau byrion.
Llythyrau oddi wrth D. J. Williams
Llythyrau, 1917-1966, oddi wrth D. J. Williams at ei chwaer, ynghyd â cherdd a ysgrifennwyd iddi yn 1916, llythyrau at W. Anthony Davies ('Llygad Llwchwr'), 1948-1957, ac at y wasg, [1931]-[1966].
Llythyrau oddi wrth gyfeillion a llenorion
Llythyrau, 1911-1969, a anfonwyd at D. J. Williams, gan gynnwys ffeiliau unigol ar gyfer cyfeillion agos ato fel Saunders Lewis, Kate Roberts a Lewis Valentine, a ffrindiau oedd yn filwyr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos Penyberth a llythyrau'n trafod materion gwleidyddol megis ei waith gyda Phlaid Cymru. Mae nifer yn mynegi gwerthfawrogiad o'i waith fel llenor a llawer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd a darlithydd poblogaidd. Yn fynych ceir drafft o ateb D. J. Williams.
Dyddiaduron, 1923-1966, gan gynnwys un yn cofnodi ei daith i Lydaw yng nghwmni Ambrose Bebb yn [1924], a 'Dyddiadur dyn anonest', 1941-1951. Trafodir y Blaid, ei waith llenyddol, ei weithgareddau cyhoeddus, ei iechyd, a'i ymwelwyr ac maent yn tueddu i fod yn llawnach yn ystod degawd olaf ei fywyd. Defnyddiodd y dyddiaduron i gofnodi cyfeiriadau yn fynych iawn.
Williams, D. J. (David John), 1885-1970
Papurau'n ymwneud â theulu D. J. Williams yn ei fro enedigol yn ardal Rhydcymerau gan gynnwys Beibl y teulu a phapurau'n ymwneud â thenantiaid Penrhiw ac Abernant, 1808-[1967].
Ceir llyfrau nodiadau coleg, traethodau a thystlythyrau ymhlith y papurau, 1909-[1957].
Torion o'r wasg, [1912]-1969, yn cynnwys erthyglau ganddo neu amdano, gan gynnwys rhai o'r County Echo (yn arbennig 'Our Readers' Views') a'r Western Telegraph gan mwyaf yn ymwneud â phynciau fel gwleidyddiaeth yn lleol a chenedlaethol; addysg Gymraeg; cenedlaetholdeb; newyddion Abergwaun; ynghyd â llawer iawn o lythyrau at olygyddion papurau newydd oddi wrth D. J. Williams. Nodwyd y cynnwys a'r ffynhonnell ar yr amlenni yn fynych iawn ganddo.
Papurau, 1810-1969, gan gynnwys drafft yn llaw Waldo Williams o'i awdl 'Tŷ Ddewi' y dyfarnwyd iddi'r ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936, a cherddi eraill o'i waith; drama gan E. Eynon Evans; a sgript anterliwt gan W. R. Evans.
Llythyrau, 1902-[1959], a dderbyniodd Siân Williams oddi wrth ei rhieni, ei brawd Eben Evans a'i chwiorydd, a'i thad-cu Rees Davies.
Llythyrau a ysgrifennwyd at Siân Williams, [1866]-1965, oddi wrth ei chyfeillion ac yn ystod carchariad ei gŵr, 1936-1937.
Dyddiaduron, 1910-1964, yn trafod materion fel ei swydd fel athrawes a phrifathrawes.