Showing 3 results

Archival description
Papurau T. J. Morgan, sub-fonds
Print preview View:

Y Llenor

Mae'r grŵp yn cynnwys llythyrau a drafftiau rhyddiaith a barddoniaeth a anfonwyd at W. J. Gruffydd a T. J. Morgan ar gyfer eu cyhoeddi yn Y Llenor, 1925-1955, cyfraniadau i'r ddau rifyn coffa ar T. Gwynn Jones, 1949, a W. J. Gruffydd, 1955. Mae'n cynnwys, hefyd, bapurau a llythyrau yn ymwneud ag erthygl Prys Morgan ar R. Williams Parry yn Y Genhinen 22, 1972, a chopïau o lawysgrif gan Richard D. Williams (Gwydderig), heb eu dyddio, a llythyr yn ymwneud â'r copïau, 1975.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Papurau Llewellyn Llewellyn

Mae'r grŵp yn cynnwys llythyrau, gan mwyaf at Llewellyn Llewellyn a'i wraig Priscilla, oddi wrth eu teulu, ac hefyd, oddi wrth ffrindiau a chydnabod, 1880-1926. Mae'r ohebiaeth, gan mwyaf, yn ymwneud â Llewellyn Llewellyn a'i deulu. Ceir hefyd rai dogfennau personol ac amrywiol, cardiau post a phrisiadau tir, 1892-1921.

Llewellyn, Llewellyn, 1843-1927

Papurau Ben Davies

Mae'r grŵp yn cynnwys dyddiaduron o fyfyrdodau ac emynau, 1900-1932; cerddi, pregethau, nodiadau darlithiau, areithiau, ac eitemau a gasglwyd gan Ben Davies 1862 - [1937]; casgliad o erthyglau a cherddi a gyhoeddwyd mewn cylchgronau, 1896-1931; papurau a nodiadau yn ymwneud â'r Wladfa, 1923 - [1937]; ychydig nodiadau ar Ddiwygiad 1904, pryddestau eisteddfodol, 1889-1891; a drafftiau o ddramâu, heb eu dyddio. Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys dwy eitem nad ydynt yn ymwneud â Ben Davies, 1945, 1964.

Davies, Ben, 1864-1937