Dangos 42 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Dr Iorwerth Hughes Jones ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau D-F

Llythyrau oddi wrth Alun Oldfield Davies, Clement Davies, Ellis Davies, Pennar Davies, Rhys J. Davies, W. Anthony Davies, W. D. Davies, P[aul] Diverres, T. I. Ellis, Arthur Evans, Emrys Evans, Gwynfor Evans, Robert Evans, Cybi, Alun Oldfield Davies a Maxwell Fraser, 1934-1964.

Davies, Clement, 1884-1962

Papurau Vernon Watkins

Papurau yn ymwneud â'r bardd Vernon Watkins, 1941-1970, gan gynnwys llythyrau oddi wrtho ef a'i wraig at eu plant ac at Dr Iorwerth Hughes Jones a'i wraig, ynghyd â llythyr oddi wrth Miss J. McConnick at Mrs Iorwerth Hughes Jones, llythyr oddi wrth fam Vernon Watkins at Dr Iorwerth Hughes Jones ar ôl marwolaeth ei mab, a chardiau printiedig yn diolch am gydymdeimlad; torion papur newydd yn ymwneud â Vernon Watkins a'i waith, gan gynnwys adroddiadau ar ei farwolaeth a'r gwasanaethau coffa iddo, ynghyd â rhai ysgrifau coffa; a llun o Caswell Bay.

Watkins, Vernon Phillips, 1906-1967

Dwyieithrwydd yn Ysgolion Abertawe

Papurau y Pwyllgor Dwyieithrwydd yn Abertawe, yn ymwneud â dwyieithrwydd yn ysgolion Abertawe, 1953-1954, sef llyfryn Pwyllgor Addysg Abertawe Statistics Showing the Position of the Welsh Language in County and Voluntary Schools in Swansea at April 1953, ynghyd ag adroddiadau, llythyrau, agenda a chofnodion.

Llythyrau J-L

Llythyrau oddi wrth W. A. Jenkins, E[van] D[avid] Jones, Ebeneser Aman Jones, Gwyn Jones, Iorwerth Jones, J[ohn] E[dward] Jones, John W. Jones, William Glasnant Jones, T[homas] A[rthur] Levi a J. D. Lewis a'i Feibion (Gwasg Gomer), Harry [Liffy], [D.] Myrddin Lloyd, 1924-1972.

Jones, J. E. (John Edward), 1905-1970

Llythyrau Mrs Rachel Lewis

Llythyrau at Mrs. Rachel Lewis yn trafod y dollborth ym Mhentre Estyll, ynghyd â rhai tollbyrth eraill, a ffurflen i nodi faint o doll a gasglwyd mewn wythnos, [c.1865]-[c.1874].

Nodiadau Elfed

Llawysgrif fer yn ysgrifen y diweddar Parch. H. Elvet Lewis (Elfed), [c.1938], yn cynnwys ychydig o emynau Cymraeg a Saesneg, nodiadau ar gyfer pregethu a cherdd yn dechrau gyda'r geiriau 'Within Assisi's walls two evil flames of wrath'.

Lewis, H. Elvet (Howell Elvet)

Papurau o lyfrgell gweinidog Llanwrtyd

Papurau amrywiol a ddaeth o lyfrgell gweinidog Llanwrtyd, [1800]x[1900], yn cynnwys cofrestr o anerchiadau a draddodwyd gan William Rees (Gwilym Hiraethog) yn y Tabernacle, Great Crosshall Street, Lerpwl, 1843-1846; llyfr William Williams ('Willliam Williams's book of Rememberance'), Ionawr 1824, yn cynnwys tiwn gron a nodiadau pregethau; llyfr llawysgrif o donau emynau; nodiadau ar Gyngor Trent; llyfr rhifyddeg Miss (Mary) Elias (sydd yn cynnwys nodiadau pregethau ar y tudalennau gwag); llyfr nodiadau mathemateg sy'n cynnwys adysgrif o gerdd gan Philip Morgan, a gyhoeddwyd yn Seren, 1844; gweithred ('deed of gift') o chwarter acer i adeiladu ysgol a thŷ ysgol yn Llanwrtyd; rhestr o guradon Llanwrtyd, 1754-1771 a darnau allan o gofrestri plwyf Llanwrtyd 1772-1805; torion papur newydd; llyfrau nodiadau yn cynnwys darlithoedd a phregethau, a phregethau nifer ohonynt gan John Griffiths; ynghyd â dyddiadur y Parch Richard James, Llanwrtyd, yn ei law ei hun, [1874]-[1875].

Jones, Ebeneser Aman, 1873-1953

Papurau Edward Griffith Dolgellau

Cyfrolau, papurau a dogfennau a gasglwyd gan Edward Griffith, Y.H., 1691-1918, Springfield, Dolgellau, gan gynnwys cofrestr a oedd yn wreiddiol yn gofrestr o'r cytundebau adbryniadau o'r trethi tir yn Sir Feirionnydd, 1799-1804, ond a ddefnyddiwyd wedyn fel llyfr lloffion gan Edward Griffith; llawysgrif yn rhestru aelodau Cymdeithas Ddiwinyddol Capel Salem Dolgellau, a chofnodion o gyfarfodydd y Gymdeithas, 1854-1856 (defnyddiwyd tudalennau gwag y gyfrol gan Edward Griffith i gofnodi amrywiol bethau); dau gopi o ach wedi eu cymryd allan o Lyfr Pantphillip (Llawysgrif NLW 2691), ac achau teulu Cae'r Berllan, Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd; a phapurau rhydd yn cynnwys erthygl papur newydd, ymrwymiad, derbyneb, ewyllysiau, nodiadau, hanes ac ach teulu Rhys Lewis, cytundeb prentisiaeth, tystysgrifau, copi o achau'r Tuduriaid o Gefnrowen a gweithred.

Griffith, Edward, 1832-1918

Llyfr cofnodion

Llyfr cofnodion pwyllgor Cymdeithas Nyrsio Sgeti a'r ardal, 1930-1958. Yng nghefn y llyfr mae torion papur newydd a rhaglen ar gyfer cinio a gynhaliwyd gan y Gymdeithas.

Pamffledi

Papurau yn ymwneud â dyletswyddau cyhoeddus Dr Iorwerth Hughes Jones, 1947-1960, gan gynnwys pamffled a gwahoddiad i agoriad swyddogol llyfrgelloedd ym Mrynmill, Cila, Dunvant a Blaenymaes; llythyr yn trafod materion yn ymwneud â Dunvant; rhaglen a gwahoddiad i agoriad neuadd Ysgol Uwchradd Sir Dunvant; llythyr yn trafod y llewod ar giatiau parc Sgeti; a rhaglen cinio Gŵyl Ddewi Cymmrodorion Abertawe, sydd â chopïau o gerddi y tu fewn iddi.

Dunvant

Papurau yn ymwneud â newid yr enw Dunvant i Dyfnant, 1938-1939, gan gynnwys llythyrau yn trafod y pwnc, copïau teipiedig a llawysgrif o ddeiseb, torion papur newydd a nodiadau.

Castell Abertawe

Papurau yn ymwneud â'r ymgyrch i achub Castell Abertawe, [c.1930]-1958, gan gynnwys llythyrau, papurau teipiedig, cofnodion, nodiadau a thorion papur newydd. Mae yma hefyd dri llyfryn, The Bishop's Palace, St. David's, Pembrokeshire a The Bishop's Palace at Lamphey, Pembrokeshire gan C. A. Ralegh Radford, sydd wedi eu cynnwys oherwydd eu cysylltiad pensaernïol â Chastell Abertawe, a llyfryn Galwadau Cyngor, sy'n cynnwys paragraff am Gastell Abertawe.

Taflenni a llythyrau

Papurau'n ymwneud ag ymgyrchoedd etholiadol Dr Iorwerth Hughes Jones, rhwng 1947 a 1955 yn Ward Sgeti, ac yn cynnwys llythyrau yn ei longyfarch ar ei lwyddiant yn etholiad 1947, yn eu plith llythyrau oddi wrth John Jenkyn Morgan a D. Rhys Phillips; pamffledi ymgyrchu; torion papur newydd; papurau yn ymwneud â chostau; ac anerchiad etholiad, dyddiedig 17 Tachwedd 1923, er nad yw yn glir os mai ysgrifen Dr. Iorwerth Hughes Jones yw hwn.

Phillips, D. Rhys (David Rhys), 1862-1952

Canlyniadau 1 i 20 o 42