Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 3784 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Yswiriant,

Polisi yswiriant dyledion ('liability insurance'), gyda nodiadau, a gohebiaeth yn ei gylch rhwng y Gymdeithas a'r gwerthwyr.

Ystadegau Cronfa Ad-drefnu Undeb y Bedyddwyr,

  • NLW Misc. Records 556.
  • ffeil
  • 1945.

Ystadegau ynglŷn â gwahanol gylchoedd mewn cyswllt â Chronfa Ad-drefnu Undeb y Bedyddwyr. = Statistics relating to various areas in connection with the Baptist Union Reconstruction Fund.

Ystadegau

Taflenni pwrpasol ar gyfer cofnodi ystadegau blynyddol am yr Eglwys, 1938-[1993]. Cedwid un copi gan yr Eglwys ac anfonwyd copi arall at yr Henaduriaeth.

Ysgrifau, areithiau ac anerchiadau,

'Cofio W. R. James, India', 1943, araith 'Crist a’r Hwmanydd', 1968, adroddiad 'Cyngres ym Moscow', [1960], 'Albwm Cylch Cadwgan', 'Oriel Gymreig Emyr Humphreys', [1965x1972] a nifer o gyfansoddiadau eraill ganddo.

Ysgrifau wedi'u cyhoeddi

Yn eu plith ceir 'The secondary school in Wales', The Welsh Outlook, 1923 (llawysgrif a theipysgrif); 'Compulsory Welsh for matriculation', The Welsh Outlook, 1925 (drafftiau); 'Marw arwr ifanc (Gair o goffa am Mr H. R. Jones, Trefnydd cyntaf y Blaid Genedlaethol a fu farw'n ddiweddar yn 36 oed)' yn [1930], [Y Ddraig Goch, Awst 1930]; 'Dau ddehonglydd Cymru' [cyhoeddwyd dan y teitl 'Y ddau ddewis' yn W. T. Pennar Davies, Saunders Lewis: ei feddwl a'i waith (Dinbych, 1950)]; ynghyd â theipysgrifau erthyglau a gyhoeddwyd mewn papurau newydd a 'Neges D. J. Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli', [Y Ddraig Goch, Medi 1962].

Ysgrifau crefyddol

Mae'r ffeil yn cynnwys ysgrifau crefyddol ar destunau yn cynnwys 'Cymundeb', 'Cymundeb Rhydd', a 'Spinther' sef amddiffyniad o'i erthygl wreiddiol ar y cymundeb a ysgrifennwyd yn Lisbon, Portiwgal, Gorffennaf 1902. Cyhoeddwyd yr atodiad i'r amddiffyniad yn Rhyddiaith Ben Bowen fel 'Cwestiwn yr Atgyfodiad'.

Ysgrifau coffa,

Torion o ysgrifau coffa, 1963-1992, a gyhoeddwyd ym mhapurau newydd Y Cyfnod a'r Corwen Times gan mwyaf, gan gynnwys teyrnged i Maurice James, 1968, ac i Ann Lloyd, ei lysfam, 1986.

Ysgrifau ar thema cenedlaethol

Ceir llythyr, 1944, oddi wrth D. J. Williams at Prosser Rhys yn amgau yr ysgrifau y bwriadwyd eu cyhoeddi yn un gyfrol, a llythyr, 1946, oddi wrth J. D. Lewis a'i Feibion yn eu dychwelyd ato wedi iddynt brynu Gwasg Aberystwyth yn dilyn marwolaeth Prosser Rhys. Yn eu plith ceir 'Teyrnas Dduw' a 'Y Mawr a'r Bach yn y Greadigaeth', Yr Efrydydd, 1924; 'De Valera', Y Darian, Ebrill 1924; 'Ffantasi ar Oronwy Owen' [yn wreiddiol sgript radio 'Beth petasai Goronwy Owen wedi ei wneud yn Esgob?', 1938, a gyhoeddwyd yn Heddiw, Rhagfyr 1938]; 'Beth sy'n bod ar yr Hen Gorff?', Y Faner, Ionawr 1941; 'Sir Gaerfyrddin-ar ddiwrnod garw', Heddiw, Hydref-Tachwedd 1941; a 'Y ddau genedlaetholdeb yng Nghymru', [Y Llenor, 1944].

Ysgrifau amrywiol,

Teipysgrifau erthyglau 'Pennar Davies: more than a poeta doctus', (Triskel Two (Llandybïe, 1973)) gyda llythyr oddi wrth Pennar Davies, 'Eschatoleg T. Gwynn Jones' (Barn, 1981), 'Catwlws o Ferona' (Taliesin, 1982) ac eraill, ynghyd â rhai adolygiadau.

Davies, Pennar

Ysgrifau a beirniadaethau,

Ysgrifau : 'Pwy?' a 'Pam' a chyfrol yn dehongli unrhyw chwech o gerddi o waith beirdd Cymraeg cyfoes a beirniadaethau, ynghyd â beirniadaethau chwe erthygl i'r wasg ar bynciau'r dydd, portreadau personol, y cyfrolau : 'Nofelwyr mawr y byd' a gwasanaethau a thraethawd ar broblemau traffig (rhifau 26-320 yn y Rhestr Testunau).

Ysgrifau - amrywiol

Ysgrifau amrywiol mewn llawysgrif, ac un wedi ei theipio, gan y Parch. W. Glasnant Jones, [1889x1951], gan gynnwys un ysgrif ar David Lloyd George, a oedd yn brif weinidog pryd yr ysgrifennwyd y darn.

Canlyniadau 1 i 20 o 3784