Dangos 42 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Dr Iorwerth Hughes Jones ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau Evan Walters

Papurau yn ymwneud â'r arlunydd Evan Walters, 1926-1971, gan gynnwys llythyrau oddi wrth ac at Evan Walters; brasluniau inc a phensil; torion papur newydd yn ymwneud yn bennaf â'i farwolaeth; deunydd printiedig, megis rhaglenni arddangosfeydd, cerdyn aelodaeth ei dad i'r 'Amalgamated Society of Woodworkers' a'i gerdyn yn nodi cyfraniadau i'r 'Loyal Treboeth Lodge'; mae yma hefyd ffotograff o un o luniau Evan Walters.

Walters, Evan, 1893-1951

Papurau Ceri Richards

Papurau'n ymwneud â'r arlunydd Ceri Richards, 1938-1972, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Ceri Richards a Frances Richards at Dr Iorwerth Hughes Jones, ei wraig Elizabeth a'i dad W. Glasnant Hughes Jones, ynghyd â llythyrau gan bobl eraill at Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymwneud â Ceri Richards; cardiau nadolig gwreiddiol oddi wrth Ceri a Frances Richards at Dr Iorwerth Hughes Jones a'i wraig; gwahoddiadau i arddangosfeydd; nodiadau ar hanes Ceri Richards a'i deulu; a negatif o lun o Ceri Richards yn Rhoshili.

Richards, Ceri, 1903-1971

Torion papur newydd

Llyfr torion yn cynnwys torion papur newydd a rhai llythyrau yn ymwneud â'r artist Ceri Richards, ei weithiau a'i arddangosfeydd, [1946]-[1971].

Papurau Edward Griffith Dolgellau

Cyfrolau, papurau a dogfennau a gasglwyd gan Edward Griffith, Y.H., 1691-1918, Springfield, Dolgellau, gan gynnwys cofrestr a oedd yn wreiddiol yn gofrestr o'r cytundebau adbryniadau o'r trethi tir yn Sir Feirionnydd, 1799-1804, ond a ddefnyddiwyd wedyn fel llyfr lloffion gan Edward Griffith; llawysgrif yn rhestru aelodau Cymdeithas Ddiwinyddol Capel Salem Dolgellau, a chofnodion o gyfarfodydd y Gymdeithas, 1854-1856 (defnyddiwyd tudalennau gwag y gyfrol gan Edward Griffith i gofnodi amrywiol bethau); dau gopi o ach wedi eu cymryd allan o Lyfr Pantphillip (Llawysgrif NLW 2691), ac achau teulu Cae'r Berllan, Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd; a phapurau rhydd yn cynnwys erthygl papur newydd, ymrwymiad, derbyneb, ewyllysiau, nodiadau, hanes ac ach teulu Rhys Lewis, cytundeb prentisiaeth, tystysgrifau, copi o achau'r Tuduriaid o Gefnrowen a gweithred.

Griffith, Edward, 1832-1918

Papurau Vernon Watkins

Papurau yn ymwneud â'r bardd Vernon Watkins, 1941-1970, gan gynnwys llythyrau oddi wrtho ef a'i wraig at eu plant ac at Dr Iorwerth Hughes Jones a'i wraig, ynghyd â llythyr oddi wrth Miss J. McConnick at Mrs Iorwerth Hughes Jones, llythyr oddi wrth fam Vernon Watkins at Dr Iorwerth Hughes Jones ar ôl marwolaeth ei mab, a chardiau printiedig yn diolch am gydymdeimlad; torion papur newydd yn ymwneud â Vernon Watkins a'i waith, gan gynnwys adroddiadau ar ei farwolaeth a'r gwasanaethau coffa iddo, ynghyd â rhai ysgrifau coffa; a llun o Caswell Bay.

Watkins, Vernon Phillips, 1906-1967

Llythyrau T-W

Llythyrau oddi wrth Ceinwen Thomas, I. R. Thomas, John Ormond Thomas (at y Parch. W. Glasnant Jones), D. J. Williams, Gwilym Owen Williams, Ifor Williams, John L. Cecil Williams a Stephen J. Williams, 1933-1971.

Thomas, Ceinwen H. (Ceinwen Hannah)

Hanes lleol

Papurau yn ymwneud ag ymchwil ar hanes lleol, [1919]-1970, gan gynnwys nodiadau amrywiol ar bynciau a phobl lleol; cerdyn â darlun o dad Ceri Richards arno; nodiadau a llythyr ar y Parch. Isaac Williams; nodiadau ar academi Crwys; nodiadau ar gyfer anerchiad ar hen lyfr eglwys Cilfwnwr (nid yn llaw y Dr Iorwerth Hughes Jones); rhaglen cyfarfodydd sefydlu yn Eglwys Annibynnol y Crwys; llyfr nodiadau ar wahanol gapeli yn cynnwys Ebeneser, Dunvant, yn llaw y Parch. W. Glasnant Jones o bosibl; pennill traddodiadol ar Gastell Ystumllwynarth; nodiadau ar y teulu Mansel; nodiadau ar Cila a'r enw Cila; llun o deulu Lewis, Cila; nodiadau ar Wernllath; nodiadau ar, a lluniau o, Gellihir; cynllun o Gellihir; bwndel o achau teulu; hanes y diwidiant copr yn Abertawe; erthygl papur newydd ar hanes Abertawe wedi'i hysgrifennu gan y Dr Iorwerth Hughes Jones; llyfrau nodiadau, un â nodiadau wedi eu cymryd o lyfr R. Rees, hen ysgolfeistr y Crwys ac un ar hanes achos yr Annibynnwyr yn y Crwys; lluniau o Ysgol John Evans y Crwys; amlenni yn cynnwys lluniau a nodiadau ar, a gan, R. Lewis John; lluniau o Sgwd Gwladys; a thorion papur newydd yn ymwneud â hanes lleol.

Hanes Lady Barham a'i theulu

Papurau yn ymwneud â hanes Lady Barham (Diana Noel, 1762-1923) a'i theulu, 1823-1971, gan gynnwys llythyrau oddi wrth amrywiol ohebwyr, deunydd ymchwil, nodiadau amrywiol, nodiadau sydd ddim yn llaw y Dr Iorwerth Hughes Jones, copïau teipysgrif a llawysgrif o hen lythyrau, ffotogopïau o hen lythyrau, llythyr gwreiddiol at Julia Noel, 1823, a lluniau o wrthrychau yn ymwneud â hanes y teulu Barham.

Llythyrau

Llythyrau oddi wrth R. E. Griffith a Syr Ifan ab Owen Edwards yn trafod materion yn ymwneud â'r Urdd yn bennaf, 1952-1962, er bod naws bersonol i rai o'r llythyrau hefyd. Yn ogystal ceir pamffledi ar gyfer cyfarfod anrhydeddu Syr Ifan ab Owen Edwards.

Griffith, R. E. (Robert Emrys), 1911-1975

Dwyieithrwydd yn Ysgolion Abertawe

Papurau y Pwyllgor Dwyieithrwydd yn Abertawe, yn ymwneud â dwyieithrwydd yn ysgolion Abertawe, 1953-1954, sef llyfryn Pwyllgor Addysg Abertawe Statistics Showing the Position of the Welsh Language in County and Voluntary Schools in Swansea at April 1953, ynghyd ag adroddiadau, llythyrau, agenda a chofnodion.

Llythyrau Mrs Rachel Lewis

Llythyrau at Mrs. Rachel Lewis yn trafod y dollborth ym Mhentre Estyll, ynghyd â rhai tollbyrth eraill, a ffurflen i nodi faint o doll a gasglwyd mewn wythnos, [c.1865]-[c.1874].

Llythyrau Saunders Lewis

Llythyrau gyda nifer o ohebwyr gwahanol yn trafod carchariad Saunders Lewis a'i iechyd tra yn y carchar, ynghyd â chopi o gwestiynau a holwyd iddo mewn cyfarfod yn Nhŷ Cyfarfod y Crynwyr, yn Heol Fawr, Abertawe, yng nghanol y 1930au, [1935]-[1937].

Canlyniadau 1 i 20 o 42