Showing 248 results

Archival description
Only top-level descriptions file
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cyfrol o bregethau Evan Williams, Morfa Nefyn,

  • Mân Adnau 1619.
  • file
  • [1846]-[1890].

Llyfr o bregethau Evan Williams (1808-1890), Morfa Nefyn, a roddwyd i Greirfa Bwrdd y Genhadaeth, Coleg y Bala, gan Mrs E. W. Jones, Porthaethwy (gweddw'r Athro Bedwyr Lewis Jones).

'Helynt y Goleuad',

  • Mân Adnau 1620.
  • file
  • 1913-1918.

Llythyrau a phapurau eraill, 1913-1918, sy'n cynnwys rhai'n ymwneud â'r anghydfod rhwng E. W. Evans a Chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd ynglŷn â phryniant a chyhoeddi'r Goleuad.

Nodau clustiau defaid = : Sheep earmarks,

  • Mân Adnau 1626 (i & ii)
  • file
  • 1888-2004.

Cyfrolau llawysgrif, eitemau printiedig a llungopïau o ddeunydd yn cynnwys enghreifftiau o nodau clustiau defaid a ddefnyddir ledled Cymru, gan gynnwys cyfrol John R. Thickens, Cwmystwyth, 1922, gydag ymylon y tudalennau wedi’u torri ar ffurf y nodau clust. Ceir crynodeb o’r cynnwys yn y bocs cyntaf. = Manuscript volumes, printed items and photocopies containing examples of sheep earmarks used across Wales, including a volume by John R. Thickens, Cwmystwyth, 1922, with its pages cut in the shape of earmarks. A summary of the contents is in the first box.

Cofnodion Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn,

  • NLW Facs 1000.
  • file
  • 2005.

Copi, wedi ei deipio gan y rhoddwr, 2005, o lyfr cofnodion cyfarfodydd, 1960-1965, Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach.

Llythyr o Wisconsin,

  • NLW Facs 1009.
  • file
  • [2006].

Llungopïau o lythyr, 1879, oddi wrth J. a W. James at eu teulu yn Nhalybont. Ymfudodd y pâr o Bontrhydfendigaid i Wisconsin yn 1847, ynghyd â throsiad i'r Saesneg. = Photocopies of a letter from J. and W. James, 1879, to their family in Talybont. The couple emigrated from Pontrhydfendigaid to Wisconsin in 1847, together with an English translation.

Gohebiaeth Dewi Watkin Powell correspondence: Tryweryn,

  • NLW Facs 1015.
  • file
  • [2006].

Llungopïau o ohebiaeth, 1956-1957, y Barnwr Dewi Watkin Powell ac E. M. Watkin Jones, ysgrifenyddes Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn, yn ymweud â’r ymgyrch yn erbyn boddi Cwm Tryweryn, gan gynnwys rhestr o gynghorau cefnogol, cefnogwyr eraill ac eglwysi ac achosion crefyddol . = Photocopies of the correspondence, 1956-1957, of Judge Dewi Watkin Powell and E. M. Watkin Jones, secretary of the Capel Celyn Defence Committee, relating to the campaign against drowning the Tryweryn Valley, including a list of supportive councils, other supporters and churches and religious causes.

Powell, Dewi Watkin

Perfformiad o'r ddrama Blodeuwedd,

  • NLW Facs 1017.
  • file
  • 2007.

Llungopi o raglen y ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Chwaraewyr Garthewin ar gyfer Undeb Drama’r Gogledd yn [1948].

Cerdd gan Niclas y Glais,

  • NLW Facs 1046.
  • file
  • 2011 /

Llungopi o benillion gan T. E. Nicholas ('Niclas y Glais', 1879-1971) i William Lewis, ffermwr cefnog a diacon yng nghapel y Glais. Mae'n bosib iddo ei ysgrifennu yn ystod ei gyfnod fel gweinidog yn y Glais rhwng 1904 1 1914.

Nicholas, T. E. (Thomas Evan)

Marwnad i'r diweddar Mrs E. Llewelyn,

  • NLW Facs 1059.
  • file
  • 2010 /

Copi o farwnad gan Myfyr Wyn i Mrs E. Llewelyn, priod Mr Rowland Llewelyn, Clungwyn, Blaenrhondda, a fu farw 24 Mai 1887 yn 64 mlwydd oed. Fe'i hargraffwyd gan I. Jones, Treherbert.

Myfyr Wyn, 1849-1900.

Garthewin, 12.9.48,

  • NLW Facs 1070.
  • file
  • [2012] /

Llungopi o ddau bennill a ysgrifennwyd yn llaw Saunders Lewis mewn copi o'i ddrama Blodeuwedd yn cyfeirio at Dad y rhoddwr 'Tom' yn chwyrnu. = A photocopy of two verses containing a cheerful reference to the donor's father 'Tom' snoring written on the endpapers of Saunders Lewis's copy of his drama Blodeuwedd.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Cyfarchiad priodasol,

  • NLW Facs 1076.
  • file
  • [2014] /

Llungopi o gyfarchiad Bryfdir i'r Parchedig E. Mornant Jones, gweinidog newydd Bethel, Nantymoel, ar achlysur ei briodas gyda Miss Lily Evans, Caerfyrddin, 15 Medi 1936, a hefyd copi o ffotograff o'r Parch. E. Mornant Jones.

Bryfdir, 1867-1947

Papurau'n ymwneud â chapeli Patatagonia,

  • NLW Facs 1082.
  • file
  • 1981-1982.

Llungopïau o gofnodion Eglwysi Bethel, Cwmhyfryd, 1924-48, Seion, Esquel, 1904-82, a Moriah, Trelew, 1917-65, ynghyd ag englynion a gopïwyd oddi ar gerrig beddau yn Y Wladfa. Casglwyd y deunydd ynghyd gan y rhoddwr pan dreuliodd chwe mis yn weinidog ym Mhatagonia yn 1982 a cheir gohebiaeth yn ymwneud ag ariannu a threfnu’r daith.

Owen, Goronwy Prys.

Llythyrau at Robert Roberts,

  • NLW MS 14119D.
  • file
  • 1806-1822 /

Dau lythyr ar hugain, 1806-1822, at Robert Roberts, Caergybi, yn cynnwys deunaw, 1810-1822, oddi wrth y llenor John William Prichard, nifer ohonynt yn cyfeirio at gasglu tanysgrifwyr a chyhoeddi gwaith Robert Roberts, Daearyddiaeth yn rhoddi hanes am yr holl wledydd, teyrnasoedd ac ardaloedd y sydd yn Ewrop, Asia, Affrica ac America ... (Caer, 1816). = Twenty-two letters, 1806-1822, to Robert Roberts, Holyhead, including eighteen, 1810-1822, from John William Prichard, man of letters, many referring to collecting subscribers and publishing Robert Roberts's work, Daearyddiaeth yn rhoddi hanes am yr holl wledydd, teyrnasoedd ac ardaloedd y sydd yn Ewrop, Asia, Affrica ac America ... (Chester, 1816).

Prichard, John William, 1749-1829

Nodiadau pregethau,

  • NLW MS 16079A.
  • file
  • 1821 /

Cyfrol yn cynnwys nodiadau pregethau, 1821, yn llaw y Parch. Daniel Evan Owen, Trefdraeth, sir Benfro. = A volume of sermon notes, 1821, in the hand of the Rev. Daniel Evan Owen, Newport, Pembrokeshire.

Owen, Daniel E. (Daniel Evan), 1803-1830.

Emynwyr ac Emynyddiaeth yr Hen Ymneilltuwyr Cymreig,

  • NLW MS 16080C.
  • file
  • 1945.

Teipysgrif traethawd gan awdur anhysbys, 1945, yn dwyn y teitl 'Emynwyr ac Emynyddiaeth yr Hen Ymneilltuwyr Cymreig (Annibynwyr, Bedyddwyr, Undodiaid) hyd at 1811', wedi ei ysgrifennu o dan y ffug-enw 'Piwritan' ar gyfer cystadleuaeth Gwobr Goffa Ieuan o Leyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog, 1945. = Typescript essay by an unnamed author, 1945, on the hymns and hymn writers of the Congregationalist, Baptist and Unitarian denominations in Wales to 1811, written under the pen-name 'Piwritan' for the 1945 National Eisteddfod in Rhosllannerchrugog.
Rhestrir y cynnwys ar ff. iv-v. Mae llythyr cyflwyno, [1956], oddi wrth y gwerthwr wedi ei bastio tu mewn i'r clawr blaen. = The contents are listed on ff. iv-v. A covering letter, [1956], from the seller is pasted in on the inside front cover.

Llyfr tonau,

  • NLW MS 16117A.
  • file
  • [1796x1812].

Llyfr tonau, [1796x1812], o eiddo Thomas Owens, yn cynnwys anthemau a salm-donau gan Griffith Griffiths, Edward Pugh, David Harries [?David Harris, Carno], John Williams, Dolgellau, William Wilson ac eraill. = The tune book, [1796x1812], of Thomas Owens, containing anthems and psalm-tunes by Griffith Griffiths, Edward Pugh, David Harries [?David Harris, Carno], John Williams, Dolgellau, William Wilson and others.

Llyfr tonau,

  • NLW MS 16118A.
  • file
  • 1857.

Llyfr tonau, 1857, o eiddo William Peat, yn cynnwys emyn-donau ac anthemau heb eu priodoli. = Tune book, 1857, of William Peat, containing unattributed hymn-tunes and anthems.
Ceir fersiwn o'r dôn 'Y Delyn Aur', ynghyd â'r geiriau, ar f. 19 verso. = A version of the tune 'Y Delyn Aur', with words, is on f. 19 verso.

Results 1 to 20 of 248