Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Hollalluog Dduw,

  • NLW ex 2528.
  • file
  • 1982 /

Llawysgrif gerddorol anthem 'Hollalluog Dduw' gan J. Raymond Williams, Rhiwabon, i eiriau Colect Dydd Gŵyl Dewi Sant, ar gyfer baritôn, côr ac organ. Fe'i perfformiwyd gan Gôr Coleg Sant Ioan, Caergrawnt, dan arweiniad George Guest, adeg dathlu pedwarcanmlwyddiant cyfieithu’r Beibl yn 1988, ynghyd â rhaglen o’r daith a drefnwyd. = Music manuscript of the anthem 'Hollalluog Dduw' [Almighty God] by J. Raymond Williams, Ruabon, set for baritone solo, choir and organ, performed by the Choir of St John’s College, Cambridge, conducted by George Guest, to celebrate the four hundredth centenary of the translation of the Bible into Welsh (1588-1988), together with a programme of the tour.

Williams, J. Raymond.

Eglwys yr Woodlands, Penbedw,

  • NLW ex 2548.
  • file
  • 1864-1983, 2001.

Cofnodion yn ymwneud ag Eglwys yr Woodlands, Penbedw, yn cynnwys llyfrau cofnodion, 1936-1983, llyfrau yn ymwneud â chasgliadau tuag at y genhadaeth, 1937-1982, ynghyd â rhestr deipiedig o'r rhai gafodd eu bedyddio, 1870-1957. = Records relating to the Welsh Baptist Church, the Woodlands, Birkenhead, comprising three minute books 1936-1983, two collectiont books of the Baptist Missionary Society, 1937-1982, together with a typescript list of baptisms, 1870-1957.

Cyfrol o bregethau Evan Williams, Morfa Nefyn,

  • Mân Adnau 1619.
  • file
  • [1846]-[1890].

Llyfr o bregethau Evan Williams (1808-1890), Morfa Nefyn, a roddwyd i Greirfa Bwrdd y Genhadaeth, Coleg y Bala, gan Mrs E. W. Jones, Porthaethwy (gweddw'r Athro Bedwyr Lewis Jones).

Cofnodion Capel Tabernacl (B), Caerfyrddin,

  • NLW ex 2889 (i) & (ii)
  • file
  • 2003-2011.

Copïau o gofnodion EglwysTabernacl (Bedyddwyr), Caerfyrddin, wedi eu casglu ynghyd gan yr ysgrifennydd Mr Ken Davies.

Tabernacl (Church : Carmarthen, Wales)

Papurau Tu Chwith,

  • NLW ex 2864.
  • file
  • 1992-1995.

Papurau’n ymwneud â Tu Chwith, cylchgrawn llenyddol cyfoes, a sefydlwyd yn 1993 o dan olygyddiaeth Simon Brooks ac Elin Llwyd Morgan, gyda thema arbennig i bob rhifyn. Ceir llythyrau oddi wrthynt a llenorion a chyfranwyr i’r cylchgrawn.

Brooks, Simon, 1971-

Perfformiad o'r ddrama Blodeuwedd,

  • NLW Facs 1017.
  • file
  • 2007.

Llungopi o raglen y ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Chwaraewyr Garthewin ar gyfer Undeb Drama’r Gogledd yn [1948].

Archif sioeau cerdd Cymru,

  • NLW ex 2863.
  • file

Casgliad o sgriptiau a geiriau sioeau cerdd, gwreiddiol ac addasiadau, a berfformiwyd yng Nghymru mewn eisteddfodau cenedlaethol a'r Urdd yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys 'Ffantasmagoria', 'Olifar', 'Streic!', 'Wilco', 'Inc yn y gwaed', 'Hersprê' a 'Y seren ddwyfol'. Aled Lloyd Davies a fu'n gyfrifol am lawer iawn o'r geiriau.

Davies, Aled Lloyd.

Papurau'n ymwneud â'r Hen Gapel, Llanbrynmair,

  • NLW ex 2850.
  • file
  • 1864-1919.

Casgliad bychan o bapurau yn ymwneud â'r Hen Gapel (Annibynwyr), Llanbrynmair, gan gynnwys rhestr testunau 'eisteddfod fawreddog' a gynhaliwyd yn ysgoldy'r eglwys yn 1874, a llythyr oddi wrth Abraham Thomas, Iowa, 1882, at John Brees, Brynderwen, Llanbrynmair.

Cyfarchiad priodasol,

  • NLW Facs 1076.
  • file
  • [2014] /

Llungopi o gyfarchiad Bryfdir i'r Parchedig E. Mornant Jones, gweinidog newydd Bethel, Nantymoel, ar achlysur ei briodas gyda Miss Lily Evans, Caerfyrddin, 15 Medi 1936, a hefyd copi o ffotograff o'r Parch. E. Mornant Jones.

Bryfdir, 1867-1947

Diwydiannau coll,

  • NLW ex 2843.
  • file
  • [1943] /

Teipysgrif o lyfr gan Bob Owen, Croesor, a gyhoeddwyd ym 1943, gydag olion cywiro drwyddo yn llaw Iorwerth Peate a Thomas Parry. [Ceir hanes ysgrifennu'r llyfr yn Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Lenyddol 1941 (Hen Golwyn), tud. 141, a hefyd yn Rhagair T[homas] Parry i'r llyfr].

Owen, Bob, 1885-1962.

Llyfrau darllen bychan,

  • NLW ex 2772.
  • file
  • 1950.

Naw llyfrau darllen bychan: 'Sam a Ben' (I-iii); 'Sam a Ben a Tomi' gan Miss Megan Thomas, Abersoch; 'Lipti Lop yn y bocs'; 'Lipti Lop yn y bath'; 'Lipti Lop yn mynd I'r gwely'; 'Y Llygoden Fach Wen'; 'Dilys a'r Dewin' gan Mrs C. Grainger Smith.

Thomas, Megan.

Bocs Pen-blwydd Arad Goch,

  • NLW ex 2746.
  • file
  • 2010.

Bocs Pen-blwydd Cwmni Theatr Arad Goch yn Ugain Oed. Bocs mawr lliwgar yn cynnwys deunyddiau amrywiol i ddathlu pen-blwydd Arad Goch yn 20 oed.

Cwmni Theatr Arad Goch.

Pregethau cynnar,

  • NLW ex 2744.
  • file
  • 1746-1786.

Pregethau cynnar, 1746-1786, gan awdur anhysbys. = Early sermons, 1746-1786, by an unknown author.

Erthygl ar 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr' gan Glyn Ashton,

  • NLW Misc. Records 536.
  • file
  • [1980].

Copi holograff o erthygl Dr Glyn Ashton, 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr (1761-1831)' a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd, Ebrill 1980, tt. 97-112. = Holograph copy of article on 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr (1761-1831)' by Glyn Ashton, published in Y Traethodydd, April 1980, pp. 97-112.

Torion papur newydd Clwb yr Efail, Llanrwst,

  • NLW Misc. Records 514.
  • file
  • 1951-1953.

Llyfr nodiadau yn cynnwys torion papur newydd wedi'u pastio mewn i'r gyfrol, rhaglenni, ayb, yn ymwneud â gweithgareddau Clwb yr Efail, Llanrwst, sir Ddinbych, 1951-1953. = A notebook containing pasted-in newspaper cuttings, printed programmes, etc., relating to the activities of Clwb yr Efail, Llanrwst, Denbighshire, 1951-1953.

Copïau teipysgrif o'r gerdd 'Peiriannau' gan J. M. Edwards,

  • NLW Misc. Records 416-417.
  • file
  • 1941.

Copïau teipysgrif (2) o'r gerdd 'Peiriannau' gan J. M. Edwards, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol 1941. = Two typewritten copies of 'Peiriannau' by J. M. Edwards, the crown poem of the 1941 National Eisteddfod.

Nodiadau Syr Ben Bowen Thomas ar faledi,

  • NLW ex 2726.
  • file
  • [1949]-[1950].

Nodiadau, [1949]-[1950], ar ffynonellau baledi ar slipiau o bapur mewn amlenni wedi'u trefnu yn ôl thema [ar gyfer ei gyhoeddiad Drych y baledwr (Aberystwyth, 1958)], gan gynnwys llythyrau a dderbyniodd yn ymwneud â'i ymchwil.

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977.

Results 101 to 120 of 246