Gosodiad o Salm 100 (SATB); gododiadau mewn idiom ysgafn fodern ar gyfer llais unigol o ran o 'Yr hen Gwm' gan Amanwy; gwaith siambr mewn un symudiad ar gyfer pedwarawd llinynnol; ymdeithgan i gerddorfa ysgol, ar gyfer diwrnod rhannu gwobrau; a chylchoedd o chwe chân unsain ar gyfer ysgolion cynradd.
Cyfrol addas i blant ysgol 15-18 oed ar unrhyw ddiwydiant yng Nghymru (Gwobr Beatrice Grenfell) a chasgliad o ddywediadau cymeriadau cefn gwlad (Gwobr Llandybïe).
Traethawd : 'Datblygu diwydiannau ar gyfer Cymru Wledig' (Gwobr Beatrice Grenfell) a 'Casgliad o idiomau Cymraeg gyda nodiadau arnynt' (Gwobr Llandybïe).
Chwech o alawon gosod wedi'u trefnu i'r delyn; ffanfer i offerynnau pres yn addas i achlysur seremonïol; sonatina i'r piano; anthemau ar gyfer unrhyw gyfuniad o bedwar llais a chyfeiliant piano ac unawd ar gyfer unrhyw lais, gyda chyfeiliant piano ar y geiriau 'Bro Hiraethog'.
Nofelau hanesyddol (y fedal ryddiaith); straeon byrion; chwech o ysgrifau gwyddonol; nofel ysbiwyr i blant (dan 13 oed); casgliad o ddywediadau Llŷn ac Eifionydd; dwy erthygl i'r Gwyddonydd a thraethodau ar ddyfyniad U Thant.
Detholiad o waith R. G. Berry; rhaglen deledu hanner awr; portreadau o unrhyw un o'r byd darlledu a dyddiaduron gwyliau dysgwyr, ynghyd â thraethodau : 'Ai melltith yw gwyddoniaeth?' a chynllunio clawr i'r Gwyddonydd.
Dramâu hir; dramâu byrion; drama i'w chyflwyno gan actorion profiadol; tair drama 15 munud; tair dramodig; pantomeim; cyfieithiadau o ddrama hir Saesneg; cyfieithiad o ddrama hir o unrhyw iaith Ewropeaidd ac o unrhyw ddrama un act.
Dwy gainc fer; unawdau i unrhyw lais gyda chyfeiliant piano; unawdau i'r rhai dan 15 oed gyda chyfeiliant piano; cyfansoddiadau cerddorol; deuawdau gwreiddiol; emyn-donau; caneuon yn y dull modern; dwy gân werin wedi'u trefnu ar gyfer côr S.A.T.B. a dawns werin yn y dull traddodiadol Cymreig.
Unawdau i unrhyw lais gyda chyfeiliant, ar gerdd gan unrhyw fardd Cymraeg cyfoes; anthem S.A.T.B gyda chyfeiliant organ; cylch o ganeuon unsain; emyn-donau; gwaith ar gyfer grŵp siambr a threfniannau o ddwy alaw draddodiadol ar gyfer gwahanol leisiau, un ohonynt ar gyfer T.T.B.B.