Showing 3783 results

Archival description
file
Advanced search options
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Cerddi,

Llyfr nodiadau'n cynnwys cerddi 'Broliant i brifardd', a 'Gwreichion', awdl (dilyniant o gerddi) ar gyfer Eisteddfod Caernarfon 1984.

Cerddi eisteddfodol,

Cerddi a anfonwyd ganddo i gystadleuaeth y goron yn eisteddfodau lleol, gan gynnwys 'Darluniau' ac 'Ynysoedd' yn Eisteddfod Môn 1985 a 2005; 'Cymuned' a 'Dagrau' yn Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid 2003 a 2005; a 'Ffin' yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988.

Gweithgor yr Is-Banel,

Cofnodion cyfarfodydd yr Is-Banel ynghyd â chynnyrch diweddar y prosiect, ac hefyd adroddiad y Cadeirydd am waith y Gweithgor, yn cynnwys copïau o destun yr Atlas gyda nodiadau, problemau, cwestiynau, cywiriadau, diweddariadau, penderfyniadau ac amgymhellion ynglŷn â chynnwys, arddull, argraffu a chyhoeddi'r Atlas, a manylion gwaith y Gweithgor, yn arbennig o ran cyfieithiadau, orgraff a materion yn gysylltiedig â ffurfiau enwau lleoedd, arweddion ffisegol, termau daearyddol a byrfoddau, a llif gwaith y prosiect, gyda phwylais ar gyfraniadau at destun yr Atlas gan aelodau'r Gweithgor a olygwyd gan yr Is-Banel. Ceir hefyd llungopïau o dudalennau Philips' Certificate Atlas.

Gohebiaeth a thaflenni,

Gohebiaeth rhwng aelodau'r Is-Banel, ysgolheigion, llysgenhadon gwledydd tramor, argraffwyr ac eraill yn ymwneud â chwestiynau manwl ynghylch cynnwys, arddull a chyhoeddi'r Atlas, yn cynnwys materion fel orgraff enwau lleoedd a phroblemau ieithyddol a golygyddol, ynghyd â thaflenni oddi wrth Comisiwn Cymunedau Ewrop ac eraill ynglŷn â gwahanol agweddau ar y Gymuned Ewropeaidd.

Gweithgor yr Is-Banel,

Agendau a chofnodion cyfarfodydd yr Is-Banel, a gohebiaeth gysylltiedig, ynghyd â chynnyrch diweddar y prosiect, yn cynnwys drafftiau o destun yr Atlas gyda nodiadau, problemau, cwestiynau, cywiriadau, diweddariadau, penderfyniadau ac amgymhellion ynglŷn â chynnwys ac arddull yr Atlas, a manylion gwaith y Gweithgor, yn arbennig o ran cyfieithiadau, orgraff a materion yn gysylltiedig â ffurfiau enwau lleoedd, arweddion ffisegol, termau daearyddol, a llif gwaith y prosiect, gyda phwylais ar gyfraniadau at destun yr Atlas gan aelodau'r Gweithgor a olygwyd gan yr Is-Banel.

Drafft o gynnwys testunol yr Atlas (tudalennau 30-70),

Ffeil bocs yn cynnwys yr ail ddarn o ddrafft deipysgrif o'r Atlas, gyda chywiriadau mewn llawysgrifen at sylw staff olygyddol ac argraffwyr, yn cynnwys nodiadau, enwau lleoedd, termau daearyddol, tablau a mynegeion, wedi'u trefnu yn ôl eu lleoliad yn yr Atlas fesul tudalen; nid yw'r ddrafft yn cynnwys y testun yn llawn, nac yn cynnwys mapiau, lluniau, siartiau na diagramau.

Diddordeb ieithyddol a gramadegol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau'n ymwneud â gwaith yr Athro Stephen J. Williams fel ieithydd a gramadegydd, [1921-1992], gan gynnwys llythyrau oddi wrth y BBC yn holi am gyngor am ba eiriau Cymraeg i'w defnyddio mewn chwaraeon, ynghyd â rhestr o dermau criced a rhestr o dermau chwaraeon; copi o gyfieithiad Brythoneg o Welsh made Easy; a rhestr o enwau lleoedd.

Cerddi

Mae'r ffeil hon yn cynnwys cerddi amrywiol yn ei feddiant neu wedi eu hysgrifennu neu eu copïo ganddo, [1921]-[1992].

Papurau llenyddol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau'n ymwneud â'i weithiau llenyddol, [1921]-[1992], yn bennaf Ystorya de Carolo Magno, The Book of Blegored a Beginner's Welsh.

Results 3581 to 3600 of 3783