Showing 3 results

Archival description
Edwards, Owen M. (Owen Morgan), 1858-1920 file
Print preview View:

Papurau wedi'u crynhoi

Ymhlith y papurau ceir llythyr, 1909, oddi wrth Cybi at 'Mr [O. M.] Edwards'; enghreifftiau o waith cwrs ei myfyrwyr drama gan gynnwys cyfieithiad Robert Wynne, 1951, o ddrama Saunders Lewis 'Amlyn ag Amig' i'r Saesneg gyda'r teitl 'The Christmas Candle' [fe'i darlledwyd gan y BBC yn 1948 a 1950]; drama am Ellis Wynne gan Janet B. Thomas; 'Ysgol Sir Tregaron a'r ddrama' gan Eirlys Morgan; 'Golygfa o fywyd Richard Wilson' gan ?; stori 'The adventures of Arabella Penn. "The ivory doll"' gan Tudur Watkins, 1954; 'By the waters of the Towy' gan Richard Vaughan, [1973]; llyfryddiaeth 'Wil Hopcyn and the Maid of Cefn Ydfa' gan Brinli [Brinley Richards], 1978; 'Marwnad Saunders Lewis' gan Alan Llwyd, [1985], mewn teipysgrif; a llungopi o bapur arholiad Cymraeg ar gyfer ysgoloriaeth y Frenhines, Coleg Hyfforddi Caerfyrddin, Mawrth 1849.

Cybi, 1871-1956

Llythyrau awduron at Hughes a'i Fab,

Llythyrau, 1909-1949, gan gynnwys rhai oddi wrth E. Tegla Davies, O. M. Edwards (12), T. Gwynn Jones (13), H. Elvet Lewis (2), Thomas Richards, 'Meuryn', 'Moelona' (4), J. Ellis Williams (3) a R[ichard] Hughes Williams (2).

Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967.

Ifan ab Owen Edwards

Rhannau mewn teipysgrif, gydag ychwanegiadau mewn llawysgrif, gan Norah Isaac o'i phortread o Syr Ifan ab Owen Edwards, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1972. Nid yw'r tudalennau yn dilyn. Ceir hefyd sgript deledu ar gyfer plant, 1958, ar 'O.M.', pan gafwyd cyfraniad gan Norah Isaac i'r rhaglen.