Print preview Close

Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions file
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Llŷn ac America,

  • NLW ex 2778.
  • file
  • 2011 /

Traethawd gan W. Arvon Roberts ar ymfudo o Lŷn i'r Amerig, 2011.

Roberts, W. Arvon.

Yr oes oleu hon,

  • NLW ex 2739.
  • file
  • 1938.

Sgript drama a anfonwyd at Sarah E[len] Griffiths, mam y rhoddwyr, gan y BBC yn Abertawe i'w darlledu o Stiwdio Aberystwyth, 28ain Mawrth 1938, gyda Judith Jones, Sarah E[len] Griffiths, Thomas Evans a David Phillips yn actio ynddi. Roedd y pedwar actor yn byw yn ardal Tynygraig, [Ystrad Meurig, Ceredigion].

Llythyrau o'r Wladfa,

  • NLW ex 2696.
  • file
  • 1965-2010.

Papurau, 1965-2010, gan gynnwys casgliad o lythyrau a chardiau post o'r Wladfa, yn bennaf oddi wrth Mrs Elisa Dimol de Davies, Trelew, at y rhoddwr a'i deulu.

Cerddi David Thomas ('Llwydiarth Môn'),

  • NLW Misc. Records 415.
  • file
  • 1933.

Cerddi (printiedig a llawysgrif) yn Gymraeg, gan gynnwys rhai gan David Thomas ('Llwydiarth Môn'). = Items of Welsh verse (ms. and printed) including poems by David Thomas ('Llwydiarth Môn').

Owen Williams, Eglwysbach, cerddor,

  • NLW Misc. Records 405.
  • file
  • [1900x1977].

Geiriau (Cymraeg a Saesneg) a cherddoriaeth cân yn dwyn y teitl 'Nadolig? Pwy a wyr', ynghyd â sgript rhaglen ar fywyd Owen Williams, Eglwysbach, cerddor a chyfansoddwr. = Copy of the words (Welsh and English) and music of a song entitled 'Christmas maybe?'; and a copy of the script of a programme on the life of Owen Williams of Eglwysbach, musician, composer.

Papurau amrywiol,

  • NLW ex 2545.
  • file
  • [1863]-[1948].

'Llythyr agored at Mr Bob Owen, Croesor', 1935, oddi wrth W. G. Jones; cerdd 'Pen blwydd Mai. Cyflwynedig i Mr a Mrs Griffith Williams, Tresaethon, Croesor' gan Ioan Brothen; rhaglenni gwyliau llenyddol, 1863-1881, yn Nhalysarn yn bennaf; cyfieithiad o 'Wealth' gan Emerson i'r Gymraeg, Eisteddfod Dalaethol [sic], Pwllheli. 1895; 'Penillion' gan 'Berw', 1910, i'w darllen mewn cyfarfod tysteb i'r Parch. D. L. Williams, Ficer Llanwnda a Llanfaglan am hanner can mlynedd, ynghyd â cheisiadau am swydd Swyddog Meddygol yn siroedd Caernarfon a Môn, 1876. = Miscellaneous papers including an open letter to Bob Owen, Croesor, 1935, from W. G. Jones; a poem 'Mai's birthday', presented to Mr and Mrs Griffith Williams, Tresaethon, Croesor; programmes of literary festivals held mainly in Talysarn, 1863-1881; a translation of Emerson’s 'Wealth' into Welsh, Pwllheli provincial eisteddfod, 1895; verses by Berw to be read at a testimonial meeting for the Rev. D. L. Williams, Vicar of Llanwnda and Llanfaglan for fifty years, together with applications for the post of Medical Officer in the counties of Caernarfon and Anglesea, 1876.

Ioan Brothen, 1868-1940.

Gradd DLitt John Elwyn,

  • NLW ex 2578.
  • file
  • 1996.

Tystysgrif Doethur mewn Llên er anrhydedd a dderbyniodd yr artist John Elwyn gan Brifysgol Cymru mewn cynulliad o'r Brifysgol, 20 Ebrill 1996, ynghyd â chyfieithiad i'r Saesneg. = Certificate awarded to the artist John Elwyn as Honorary Doctor of Letters at a congregation of the University of Wales held on 20 April 1996, together with an English translation.

Papurau Ymgyrch Senedd i Gymru,

  • NLW ex 2607.
  • file
  • [1951]-[1956], 1984.

Papurau, [1951]-[1956], 1984, yn ymwneud â'r ymgyrch i gael Senedd i Gymru. = Papers, [1951]-[1956], 1984, relating to the Parliament for Wales campaign.

Darlithiau Meurig Owen, Lewisham,

  • NLW ex 2602.
  • file
  • [1993]-2006.

Darlithiau a draddodwyd gan Meurig Owen, gan gynnwys 'Anthropos', 1993; 'Nodiadau ar y cofebion yn Southwark i’r merthyr John Penri', 1994; 'Emynwyr Henaduriaeth Llundain', 2000; 'David Jones, (1895-1974), a Brockley artist and poet', Cymdeithas Hanes Lleol Lewisham, 2002; 'Yr achos yn Woolwich', 2006 a 'The Welsh church in Woolwich'; a 'Hanes Cymanfa’r Pasg, Henaduriaeth Llundain', 2006. = Lectures delivered by Meurig Owen, including Anthropos, 1993; notes on the memorials to the martyr John Penry in Southwark, 1994; Hymnists in the London presbytery, 2000; 'David Jones, (1895-1974), a Brockley artist and poet', Lewisham Local History Society, 2002; the cause in Woolwich and the Welsh church in Woolwich; and the history of the Easter singing festival in the London presbytery.

Owen, Meurig, 1919-

Papurau'n ymwneud â chapeli Patatagonia,

  • NLW Facs 1082.
  • file
  • 1981-1982.

Llungopïau o gofnodion Eglwysi Bethel, Cwmhyfryd, 1924-48, Seion, Esquel, 1904-82, a Moriah, Trelew, 1917-65, ynghyd ag englynion a gopïwyd oddi ar gerrig beddau yn Y Wladfa. Casglwyd y deunydd ynghyd gan y rhoddwr pan dreuliodd chwe mis yn weinidog ym Mhatagonia yn 1982 a cheir gohebiaeth yn ymwneud ag ariannu a threfnu’r daith.

Owen, Goronwy Prys.

Cyfrol o bregethau,

  • NLW ex 2809.
  • file
  • [1900].

Cyfrol fechan o bregethau gan awdur anhysbys.

Llythyron teipiedig gan Thomas Parry,

  • NLW ex 2666.
  • file
  • 1953.

Dau lythyr teipiedig yn cydnabod rhodd o ddau lyfr i'r Llyfrgell Genedlaethol gan Mr J. W. Jones, Blaenau Ffestiniog, wedi eu llofnodi gan Thomas Parry, y Llyfrgellydd.

Papurau cerddorol Haf Morris,

  • NLW ex 2853 (i) & (ii)
  • file
  • [1946]-[2005].

Llyfrau nodiadau Haf Morris (1933-2012) a'i mam Mrs Laura Morris, Eirianfa, Trawsfynydd, yn cynnwys gosodiadau cerdd dant niferus ar ffurf sol-ffa yn bennaf ar gyfer cystadlaethau mewn eisteddfodau, a gosodiadau cyntaf Haf Morris. Bu'r ddwy yn hyfforddi llu o blant ac ieuenctid yn ardaloedd Trawsfynydd ac Ynys Môn dros gyfnod maith mewn cerddoriaeth werin a cherdd dant.

Morris, Haf.

Results 161 to 180 of 246