Traethawd yn olrhain hanes a datblygiad unrhyw agwedd ar y diwydiant amaethyddol (Gwobr Beatrice Grenfell) a nofelau a anfonwyd i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen.
Dramâu hir (Tlws y Ddrama); drama fer; drama fer i ferched; cyflwyniad dramatig ar gyfer plant ysgolion cynradd; drama fer ar gyfer plant 11-15 oed; drama fer ar gyfer ieuenctid 15-19 oed; comedi neu ffars; llyfryn o sgetsus addas i'w perfformio gan bobl ifanc a sgript ffilm ddramatig.
Alawon cerdd dant; unawdau ar gyfer unrhyw lais gyda chyfeiliant piano neu delyn, ar gerdd gan unrhyw fardd Cymraeg cyfoes; casgliad o drefniadau o alawon addas ar gyfer grŵp o offerynau mewn ysgol gynradd wledig; trefniant o ddwy alaw werin gyferbyniol ac emyn-donau.
Llyfr taith trwy Gymru; drama fer ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg; cyfres o chwech o sgyrsiau; cywaith grŵp : paratoi papur ar lun Papur Bro; cyfansoddi dawns yn y traddodiad Morris Cymreig; llyfryn o weithgareddau mathemategol; tair erthygl ar unrhyw agwedd o fyd natur; dwy erthygl ar bynciau meddygol yn addas i'w cyhoeddi.
Dyddiaduron yn cofnodi treigl y tymhorau (y fedal ryddiaith); tair stori yn edrych ar un digwyddiad o dri safbwynt gwahanol; ysgrifau : 'Mynydd'; golwg ddychanol ar yr 20fed ganrif yn null un o weledigaethau Ellis Wynne; ysgrifau newyddiadurol; cyfrolau o storïau crefyddol ... i blant dan 6 oed; casgliad o eiriau a dywediadau tafodieithol o unrhyw ardal; stori fer hir; cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy'n dal i fyw yno : 'Dylanwadau' a llyfr erchwyn gwely.
Cynllunio cloriau recordiau; cystadlaethau i ddysgwyr; cyfansoddi dawns ffair; erthyglau ar unrhyw agwedd o fyd natur; erthyglau addas i'w cynnwys yn Y Gwyddonydd; paratoi rhaglen antur ar gyfrifiadur BBC ar gyfer plant 7-11 oed (Y daith i Dir Na N'og)
Dwy stori fer wrthgyferbyniol i'w gilydd mewn crefft a/neu gynnwys; tair ysgrif fer gan yr un person : 'Gwanwyn'; pigion dyddiadur mis yn croniclo digwyddiadau doniol gŵr neu wraig wrth ei (g)waith; casgliad o straeon yn cyflwyno rhai o chwedlau Arthur ar gyfer plant 9 i 12 oed; portread o ardal neu bentref; nofel gyffrous neu arswyd i oedolion a chyfrol o hyd at ddeg o straeon doniol i blant cynradd.
Addasiad, nas cyhoeddwyd, ar gyfer llwyfan, o un o nofelau Islwyn Ffowc Elis; drama fer i ferched; rhaglen lwyfan ar gyfer plant ysgolion uwchradd; gwaith ymchwil ar gyfer rhaglen ddogfen deledu ... un o enwogion bro'r Eisteddfod; sgript ar gyfer cyflwyniad dramatig fyddai'n denu plant i ddarllen llyfrau Cymraeg; trosi sgript deledu o'r Saesneg ar gyfer trosleisio; trosiad o ddrama ias a chyffro (thriller), sydd wedi ei chyfansoddi ers 1950 a throsiad o ddrama Saesneg ar gyfer gwyliau drama ieuenctid ....
Awdlau : 'Gwythiennau'; casgliad o gerddi : 'Gwreichion'; englynion : 'Brawd'; englyion ysgafn : 'Barddas'; cywyddau gofyn : 'Sefydlu ysgol'; cywyddau coffa i John Gwilym Jones; hir a thoddeidiau : 'Bryniau'; cerddi rhydd heb fod dros 100 llinell : 'Y tir du'; dilyniant o dair telyneg : 'Creithiau'; cyfres o dribannau : 'Dyddiau'r wythnos' a baled : Trychineb Senghenydd 1913.
Cyfiiethiadau o ddramâu Saesneg; sgriptiau ar gyfer cyfres deledu; sgript sioe lwyfan i'w chyflwyno i blant ysgolion meithrin a sgriptiau rhaglenni radio.
Cystadlaethau i ddysgwyr ac i lunio deunydd ar eu cyfer; taithlyfr i gysawd yr haul; erthyglau addas i'w cynnwys yn Y Gwyddonydd ac erthygl addas i'w chynnwys yn Cennad.
Awdlau : 'Chwyldro'; pryddest neu ddilyniant o gerddi : 'Dolenni'; cywyddau : 'Lleisiau'; englynion : 'Cyfrifiadur'; englynion ysgafn : 'Bwgan'; hir a thoddeidiau : 'Aberpergwm'; telynegion : 'Cymod'; deg o gyfarchion ar ffurf penillion telyn; carol Nadolig; cerdd y gellir ei defnyddio ar gyfer côr cerdd dant; baled ysgafn : 'Y gêm' a cherdd yn y vers libre : 'Gwastraff'.
Cyfansoddi dawns ffair i'w henwi : 'Ffair Castell-nedd'; astudiaeth wyddonol/dechnolegol ar ailgylchu (blynyddoedd 7-9); erthygl feddygol addas i'w chyhoeddi yn Cennad a thraethawd ar y sgiliau gwyddonol a thechnolegol y bydd eu hangen ar Gymru'r dyfodol.
Nofel heb ei chyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); stori ddeng munud addas i'r radio ar y thema celwydd golau; erthyglau ar waith unrhyw fardd neu lenor o fro'r eisteddfod; portread o wleidydd; casgliad o straaeon yn ymwneud â chwarae triciau (cystadleuaeth i'r rhai sydd wedi cael eu geni yn y Wladfa ac yn dal i fyw yno); pigion o ddyddiadur mis person ifanc yng Nghymru Fu neu yng Nghymru Fydd; casgliad o hanesion unrhyw fro ar un thema a llawlyfr i ddarpar rieni neu lawlyfr priodas.