Print preview Close

Showing 3783 results

Archival description
file
Advanced search options
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Achosion i'w clywed yn Gymraeg gan yr ynadon ym Mhwllheli,

  • NLW Misc. Records 305.
  • file
  • 1975.

Copi (teipiedig gydag ychwanegiadau yn llaw J. E. Roberts) o'r 'Rhestr o'r achosion i'w clywed gan yr ynadon ym Mhwllheli Medi 24, 1975', gyda'r dyfarniadau; a chopi ffotograffig o'r sylwadau a wnaed gan y rhoddwr, cadeirydd y llys, ar ddechrau'r cyfarfod. Dyma'r tro cyntaf i holl weithgareddau llys ynadol a'r trafodaethau yn y llys i gael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. = Typescript copy, with additions in the hand of J. E. Roberts, of the list of cases brought before the magistrates at Pwllheli, 24 September 1975, with the verdicts; together with a photocopy of the comments made at the beginning of the session by J. E. Roberts, chairman of the court. This was the first time that the proceedings in a magistrates court had been conducted through the Welsh language.

Papurau'r emynydd David Evans,

  • NLW ex 2705.
  • file
  • 1898-1959, 2010 /

Papurau David Evans, awdur yr emyn pobogaidd 'Côr Caersalem', 1898-1959, yn cynnwys llyfr o ddyfyniadau a dywediadau, llyfr lloffion yn cynnwys llawer o’i waith cyhoeddedig fel galargan a luniodd i’w dad-cu David Evans, Blaenpennal, 1898, tua’r un adeg ag yr ysgrifennodd 'Côr Caersalem', ynghyd ag amlen o bapurau rhydd gan gynnwys cyfieithiad Elfed o’r emyn. Ceir hefyd gopi o erthygl Rhidian Griffiths ac Alun Roberts, 'O ganu bendigedig', 2010, [Y Traethodydd, Gorffennaf 2011]. = Papers of the hymn-writer David Evans, author of the popular Welsh hymn 'Côr Caersalem', 1898-1959, comprising a commonplace book with assorted quotes and sayings; a scrapbook containing much of his published written works including his elegy to his grandfather, 1898, which he wrote about the same time as 'O ganu bendigedig' and loose manuscript verses and press cuttings including Elfed's translation of the hymn. A copy of an article by Rhidian Griffiths ac Alun Roberts, 'O ganu bendigedig', 2010, [Y Traethodydd, Gorffennaf 2011] is included.

Evans, David, 1879-1965.

Papurau Marian Pritchard (1918-2002),

  • NLW ex 2695.
  • file
  • 1945-1980 /

Papurau'r genhades Marian Pritchard, 1945-1980, a fu'n fetron yn Ysbyty Jowai, gogledd-ddwyrain yr India tan 1968, gan gynnwys nifer fawr o lythyrau oddi wrthi hi at ei theulu a llythyrau a dderbyniodd hi wedi dychwelyd i Gymru. Mae rhai o'r llythyrau wedi'u ysgrifennu mewn Khasi. Ceir llawysgrif ei llyfr Y weledigaeth. Hanes ysbyty cenhadol yn yr India [1975] a chyfieithiad teipysgrif i'r Saesneg 'The house of vision', ynghyd â'r cylchgrawn Y cenhadwr, 1967 a 1968, yn cynnwys erthyglau ganddi, a deunydd printiedig yn ymwneud yn bennaf â'r ysbyty. = Papers of the missionary Marian Pritchard, 1945-1980, who was a matron in Jowai Hospital in north-east India until 1968, including a number of letters written by her to her family and letters received by her on her return to Wales. Some of the letters are written in Khasi. A manuscript copy of her book Y weledigaeth. Hanes ysbyty cenhadol yn yr India [1975] is included and an English translation in typescript entitled 'The house of vision', together with Y cenhadwr (The missionary), 1967 a 1968, including articles by her and printed material relating mainly to the hospital.

Pritchard , Marian.

Papurau'r Parch. J. E. Davies,

  • NLW ex 2838 (i) & (ii)
  • file
  • 1903, 1940-2001.

Papurau'r diweddar Barchedig J. E. Davies, gweinidog gyda'r Eglwys Bresbyteraidd, a ffigwr amlwg yng Nghymdeithas y Cymod yng Nghymru. Ef oedd ysgrifennydd Cangen Rhydaman o Gymdeithas y Cymod a bu'n gadeirydd cenedlaethol y mudiad.

Davies, J. E.

Papurau Richie Thomas papers,

  • NLW ex 2837 i & ii.
  • file
  • 1946-1977.

Rhaglenni cyngherddau y bu'r tenor enwog Richie Thomas (1906-1988), Penmachno, yn perfformio ynddynt, ynghyd â pheth gohebiaeth. = Concert programmes featuring the well-known tenor Richie Thomas (1906-1988), of Penmachno, together with some correspondence.

Llythyrau Richard Bennett,

  • NLW ex 2823.
  • file
  • 1872, 1908-1935.

Llythyrau personol yr hanesydd Richard Bennett, Hendre, Pennant, Llanbryn-mair, a ysgrifennodd yn bennaf at ei gefnder Richard Jones, Pertheirin, Caersws, ac oddi wrtho yntau, a llythyrau oddi wrth aelodau eraill o'r teulu; ynghyd â dyddiadur Laura Pryce, Castellfawr, [Rhoslefain], 1872.

Bennett, Richard, 1860-1937

Dyddiadur D. Cynddelw Williams,

  • NLW ex 2789.
  • file
  • 1881-1943.

Dyddiadur y Parchedig D. Cynddelw Williams, a oedd yn enedigol o Aberystwyth, a gadwyd ganddo fel caplan i'r Fyddin yn Ffrainc, 12 Hydref 1914 - 6 Medi 1920. Ceir torion o'r wasg wedi eu pastio ar glawr blaen ac ôl y gyfrol yn ymwneud â'r Groes Filwrol a ddyfarnwyd iddo yn 1917 am ei ddewrder neilltuol wrth gyflawni'i ddyletswyddau ar faes y gad ac ysgrif goffa iddo, 1943. Ceir hefyd gytundeb prentisiaeth William Williams gyda Williams a Metcalfe, Aberystwyth, 11 Chwefror 1889; ei dystlythyrau a'i dystysgrifau dadlwytho fel morwr, 1895-8, a'i dystysgrif fel peiriannydd, 20 Ebrill 1897; a nodiadau mam y rhoddwr o bregethau a glywodd yn Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Llandudno. = A diary kept by Reverend D. Cynddelw Williams, originally from Aberystwyth, as chaplain to the Forces in France, 12 October 1914 - 6 September 1920. Press cuttings have been pasted on the front and back cover of the volume relating to awarding him the Military Cross in 1917 'for conspicuous gallantry and devotion to duty', and his obituary, 1943. Also included is an indenture of apprenticeship of William Williams to Messrs Williams and Metcalfe, Aberystwyth, 11 February 1889; testimonials and certificates of discharge, 1895-8, and his certificate as second engineer, 20 April 1897; and notes, taken by the donor's mother, of sermons preached at the Calvinistic Methodist Church, Llandudno.

Williams, David Cynddelw, 1870-1942.

Sgript ffilm Hedd Wyn screenplay,

  • NLW ex 2861 (i & ii)
  • file
  • 1991-1992.

Copi o sgript y ffilm 'Hedd Wyn' a luniwyd gan Alan Llwyd a'i gyfarwyddo gan Paul Turner, 1991-1992. Collodd Hedd Wyn ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym mrwydr Cefn Pilkem, Gwlad Belg. = A copy of the film script 'Hedd Wyn' by Alan Llwyd directed by Paul Turner, 1991-1992. Hedd Wyn was killed in the First World War at the battle of Pilkem Ridge, Belgium.

Llwyd, Alan.

Gohebiaeth Pwyllgor Sir Gaernarfon

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau, y mwyafrif yn lythyron, a hefyd cofnodion pwyllgor a phapurau amrywiol eraill, 1992-1994, Cangen Sir Gaernarfon o Gronfa Goffa Saunders Lewis. Sefydlwyd y gangen yn sgil y cais a gafwyd gan Bwyllgor Rheoli Canolog y gronfa am gefnogaeth gan bwyllgorau sirol i gasglu arian tuag at yr apêl.

Results 3621 to 3640 of 3783