Showing 26 results

Archival description
Papurau Angharad Tomos file
Print preview View:

Titrwm - llawysgrifau

Mae'r ffeil yn cynnwys dau lyfr nodiadau sy'n cynnwys drafftiau llawysgrif cynnar o Titrwm (1994), ynghyd â nodiadau a phytiau o ddyddiadur, 1992-1993.

'Cyffes' - teipysgrif

Mae'r ffeil yn cynnwys amlen ac ynddi sgript deipysgrif a rhai nodiadau llawysgrif ar gyfer darn byr o ddeialog ar gyfer dwy ferch, yn dwyn y teitl 'Cyffes', a gomisiynwyd ym 1993 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau, 1994.

'Si Hei Lwli'

Mae'r ffeil yn cynnwys llawysgrif nofel anorffenedig yn dwyn y teitl 'Si Hei Lwli' a ysgrifennwyd yn ystod diwedd 1989 a dyddiau cynnar 1990. Er bod y gwaith hwn yn dwyn yr un teitl â gwaith diweddarach gan Angharad Tomos nid oes unrhyw berthynas rhwng y cynnwys.

'Fel paent yn sychu' - teipysgrif

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif sgript 'Fel paent yn sychu', drama lwyfan gyntaf Angharad Tomos, a ysgrifennwyd ganddi ar y cyd â Chwmni Theatr Crwban, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, 1988.

'Diffinia' - sgript a phecyn addysg

Mae'r ffeil yn cynnwys copi o'r sgript a'r pecyn addysg a baratowyd i gyd-fynd â'r cynhyrchiad o 'Diffinia', sioe am Wlad y Basg, ynghyd â pheth gohebiaeth berthynol, 1991. Hon oedd un o'r dramâu a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r flwyddyn a dreuliodd Angharad Tomos yn Awdur Preswyl gyda thri chwmni Theatr Mewn Addysg yn ystod 1991, y tro hwn ar gyfer Cwmni'r Frân Wen.

'Tanddaearol' - sgript a deunydd perthynol

Mae'r ffeil yn cynnwys drafft o sgript 'Tanddaearol' sy'n cynnwys newidiadau sylweddol yn llaw'r awdur, ynghyd â nodiadau, syniadau am y set, copïau o adolygiadau a deunydd hysbysebu, 1991. Hon oedd un o'r dramâu a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r flwyddyn a dreuliodd Angharad Tomos yn Awdur Preswyl gyda thri chwmni Theatr Mewn Addysg yn ystod 1991, y tro hwn ar gyfer Cwmni Hwyl a Fflag.

'Dawns atgo' - teipysgrif

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif 'Dawns atgo', cyfieithiad Cymraeg Angharad Tomos o Brian Friel, Dancing at Lughnasa (Llundain, 1990); ynghyd â rhai nodiadau a dau gopi o'r rhaglen ar gyfer perfformiad Saesneg o'r ddrama yn yr Abbey Theatre, Dulyn, ym mis Ionawr 1991.

Titrwm - nodiadau

Mae'r ffeil hon yn cynnwys nodiadau yn llaw Angharad Tomos a'i thad, Ariel Thomas, ynghyd â gohebiaeth gyda Gwasg y Lolfa ynglŷn â chyhoeddi'r gwaith ym 1994.

'Dyn mawr, dyn bach, dewin a doctor' - teipysgrif

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif 'Dyn mawr, dyn bach, dewin a doctor', ynghyd â rhai nodiadau cefndir a pheth gohebiaeth berthynol, 1991. Hon oedd un o'r dramâu a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r flwyddyn a dreuliodd Angharad Tomos yn Awdur Preswyl gyda thri chwmni Theatr Mewn Addysg yn ystod 1991, y tro hwn ar gyfer Arad Goch - Cwmni Theatr Dyfed.

Results 1 to 20 of 26