Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Brad

  • NLW ex 2795.
  • File
  • [1958]

Proflenni gali o ddrama Saunders Lewis gyda nodiadau, a nodyn yn llaw'r dramodydd yn gofyn am broflen ychwanegol.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Cyfrol o ysgrifau Kate Roberts : llythyrau

  • NLW ex 2516.
  • File
  • 1968-1979

Llythyrau, 1968-1979, yn ymwneud â pharatoi'r gyfrol Erthyglau ac ysgrifau llenyddol Kate Roberts (Abertawe, 1978) a olygwyd gan Dr David Jenkins, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Kate Roberts ac Alan Llwyd, Pennaeth yr Adran Gymraeg, Gwasg Christopher Davies, Abertawe.

Jenkins, David, 1912-2002.

Synnwyr a hiwmor

  • NLW ex 2457.
  • File
  • 2003.

Gwaith y rhoddwr, nith T. Gwynn Jones, mewn teipysgrif, a ysgrifennodd ar gais ei phlant ac sy’n cynnwys atgofion am y llenor, ynghyd â choeden deulu sy'n dangos y berthynas rhyngddynt.

Jones, Eirlys.

Serch yw'r doctor

  • NLW ex 2453.
  • File
  • 1958

Nodiadau cefndirol yn Saesneg i gyd-fynd gyda'r perfformiad cyntaf o'r opera Serch yw'r doctor (y geiriau gan Saunders Lewis a'r gerddoriaeth gan Arwel Hughes) ar Wasanaeth Cartref y BBC, 24 Chwefror 1958, ynghyd ag 'Opera ddigri Gymraeg newydd', erthygl Leslie Wynne Evans, Coleg y Brifysgol, Caerdydd.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Papurau'n ymwneud â T. Gwynn Jones,

  • NLW ex 2437.
  • File
  • [1958]-[1971].

Taflen gwasanaeth dadorchuddio carreg goffa T. Gwynn Jones, 25 Hydref 1958, a dathlu ei ganmlwyddiant, 9 Hydref 1971, yn Betws yn Rhos, ynghyd â llungopïau o lythyrau oddi wrth y llenor.

Articles by Rev. Brynmor Davies,

  • NLW Misc. Records 558.
  • File
  • 1979-1980.

Cuttings, 1979-1980, from the South Wales Guardian of articles by Rev. Brynmor Davies. = Toriadau, 1979-1980, o'r South Wales Guardian o ysgrifau gan y Parch. Brynmor Davies.

Cardiau post Cylch yr Orsedd, Eisteddfod Y Rhyl, 1904, ac arysgrif yn ymwneud â'r arwisgiad, 1911,

  • NLW Misc. Records 466.
  • File
  • 1904-1959.

Ceir hefyd tri cherdyn post yn dangos lluniau fel a ganlyn - (1) grŵp, yn cynnwys Olwen Silvester ar achlysur dathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas Cymmrodorion y Rhyl, 1959, (2) y Parchedig Rowland Williams ('Hwfa Mon; 1823-1905), a (3) golygfa yn ninas Caeredin, 1905 (gyda darn o farddoniaeth Gymraeg wedi ei ysgrifennu ar y cefn). Rhaglen gwasanaeth a gynhaliwyd yng Nghapel Clwyd Street, Rhyl, 22 Mehefin 1911, ar achlysur coroniad Sior V. Llythyr, 1931, oddi wrth Ifan ab Owen Edwards at y rhodddwr ynglŷn â phenillion a gynigiodd i'w cyhoeddi yn Cymru'r Plant.

Leaflet containing verses in memory of David Evan Rees, Llanelli,

  • NLW Misc. Records 463.
  • File
  • 1897.

Leaflet, printed in Welsh, containing verses by W. Walters (Talmai) Llanelli, in memory of David Evan, son of Mr. & Mrs. Wm. Rees of the 'Ship and Pilot', Llanelli, who died 22 July 1897 at the age of 12, after being crushed by a steel roll near Pantyffynon, which he was delivering by a waggon with his father.

Pamffledi etholiadol Plaid Cymru, plwyf Llangiwg,

  • NLW Misc. Records 309.
  • File
  • Mawrth 1934.

Pamffledi etholiadol (2), 1934, a ddosparthwyd ar ran y Parch H. Samuel pan oedd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyngor Plwyfol Llangiwg, Morgannwg. = Two election pamphlets, 1934, of the Rev. H. Samuel as a Plaid Cymru candidate in Llangiwg Parish Council Election.

Teulu Syr Ben Bowen Thomas,

  • NLW Misc. Records 288.
  • File
  • 1827-1838.

Tudalen o Feibl teulu yn cynnwys dyddiadau geni tad-cu a mam-gu Syr Ben Bowen Thomas. = Page from a family Bible giving dates of birth of Sir Ben Bowen Thomas's grandparents.

Untitled

Cwestiynau gan Dewi Z. Phillipps,

  • NLW Misc. Records 279.
  • File
  • 1974.

Cwestiynau a luniwyd yn Saesneg gan yr Athro Dewi Z. Phillipps, Coleg Prifysgol Cymru, Abertawe, mewn ateb i ddarlith ar y testun 'Beth yw pwrpas llenydda?' a draddodwyd gan y Dr. R. M. Jones, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin, Awst 1974. Am fersiwn Gymraeg o'r cwestiynau gan yr Athro Bedwyr Lewis Jones gweler Y Traethodydd, Ionawr 1975, tt. 10-44.

Cerddi, traethawd, a beirniadaethau H. Griffiths ('Hywel Myrddin'), Caerfyrddin,

  • NLW Misc. Records 274.
  • File
  • [1925-1943].

Copïau o gerddi ac o draethawd gan H. Griffiths ('Hywel Myrddin'), Caerfyrddin, ynghyd â llyfr nodiadau yn cynnwys ei feirniadaethau ar gyfansoddiadau llenyddol yn Eisteddfod Beulah, a llythyr ato oddi wrth J. Iorwerth Roberts, Llangollen. = Copies of poems and an essay by H. Griffiths ('Hywel Myrddin'), Carmarthen; a note-book containing his adjudications on literary compositions at Beulah Eisteddfod; and a letter to him from. J. Iorwerth Roberts, Llangollen.

Results 1 to 20 of 45762