Showing 21 results

Archival description
Papurau Elinor Bennett File
Print preview View:

Day that I have loved

Sgôr Malcolm Williamson, Day that I have loved, 1992, symffoni mewn pedwar symudiad ar gyfer telyn unigol, geiriau gan Rupert Brooke. Ceir ffotograff o’r achlysur, nodiadau gan y cyfansoddwr a deunydd marchnata.

Cyngherddau amrywiol

Rhaglenni cyngherddau amrywiol iawn, 1964-2010, gan gynnwys cyngerdd yn Gruppe, Yr Almaen, 1964; Côr Poliffonig Caerdydd, 1970; Gŵyl Werin Corwen, 1972; a Gŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn, 1982.

Emyn i Gymro

Sgôr Pwyll ap Siôn, Emyn i Gymro /Hymn to a Welshman, 2001, In memoriam R. S. Thomas, geiriau gan Menna Elfyn ar gyfer telyn unigol.

Neuadd Wigmore

Poster a rhaglen cyngerdd cyntaf Elinor Bennett fel unawdydd. Fe'i cynhaliwyd yn Neuadd Wigmore, Llundain, 14 Mai 1970.

Y Gyngres Geltaidd, Aberystwyth

Ffotograff o'r Côr Telynau mewn cyngerdd a gynhaliwyd yn Neuadd y Brenin, Aberysrwyth, 10 Awst 1960, yn cynnwys chwech o delynorion, ynghyd â thoriad o'r Cymro. Nodwyd enwau'r telynorion ar gefn y ffotograff.

Ysgol y Delyn

Papurau'n ymwneud ag Ysgol y Delyn yn Pantybeiliau, Gilwern, Y Fenni, cartref y delynores Ann Griffiths a'i gŵr Dr Lloyd Davies, y trefnyddion, yn cynnwys ffotograffau o’r telynorion; ffotograff o Elinor Bennett yn cael gwers gydag Elis[z]abeth Fontan-Binoche [o'r Conservatoire, Paris]; ffotograff o'r ddwy chwaer Mari ac Ann Griffiths; adroddiad o'r Cymro, Gorffennaf 1961 a phenillion ‘Topicals’ gan Elinor Bennett am y profiad. [Mae cyfeiriad ‘Erw’r Llan, Llanbadarn Road’ wedi’i argraffu ar y papur ysgrifennu’]; ynghyd â rhaglen Ysgol y Delyn a gynhaliwyd ym Mangor yn 1971.

Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru

Rhaglenni Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn Galeri Caernarfon, 2006, 2010, 2014 a 2018. Dathlwyd pen-blwydd Osian Ellis yn 90 oed yn yr ŵyl a gynhaliwyd yn 2018.

Rhaglenni cyngherddau

Rhaglenni cyngherddau amrywiol y bu Elinor Bennett yn cymryd rhan ynddynt yng Nghymru, Lloegr, Ewrop, America a lleoliadau eraill, 1966-2003.

Eisteddfod yr Urdd, Y Bala

Ffotograff o barti deulais Adran Llanuwchllyn yn cynnwys Elinor Bennett a'r arweinydd, ei thad Emrys Bennett Owen, 1954. Mae enwau aelodau'r parti ar gefn y ffotograff.

Ffotograffau eraill

Ffotograff, [1984], o Elinor Bennett a Meinir Heulyn; Elinor Bennett yn canu’r delyn ym mhabell Colourscape, Clapham Common, [1995]; Auxerre, 1997; gyda Menna Elfyn yn Rhosygilwen (West Wales Arts); a seremoni agor y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, pan berfformiwyd gwaith comisiwn John Metcalf, ‘Castell Dolbadarn’, am y tro cyntaf gan Elinor Bennett, [2004].

Gwyliau cerdd

Music at Oxford, Christmas Festival 1991
Ewrosgol Cymru, 1991
Gŵyl Gregynog, 1991
Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru, 1993
Vale of Glamorgan, Festival, 1992, 1995, 2011
European Harp Symposium, Nuremberg, 1992
Hay-on-Wye festival of literature, 1992 – roedd Elinor Bennett yn cyfeilio i R. S. Thomas yn darllen ei farddoniaeth.
Gŵyl Telynau'r Byd, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, 1994
The Edinburgh harp festival, 1995
Colourscape music festival, Clapham Common, 1995
Wigmore Hall Wales Week, 1995, Jeremy Huw Williams ac Elinor Bennett

Cyngherddau

Rhaglenni cyngherddau yn deillio o gyfnod Elinor Bennett yn yr Academi Gerdd yn Llundain, 1965-1968; rhaglen cyngerdd mawreddog, 1967, a gynhaliwyd i agor Cronfa Eisteddfod [Yr Urdd] yn Aberystwyth yn 1969; rhaglen Cerddorfa Genedlaethol Cymru, 1967; adolygiad o’i pherfformiad o ‘Fantasy’ gan Alun Hoddinott; a chyngerdd i Gymdeithas Gymreig Sydney, 1985.

Panel asesu

Papurau, 1997-1998, yn ymwneud â rôl Elinor Bennett ar y Panel Asesu a fyddai’n dewis cynllun i adeilad newydd y Cynulliad yn 1998. Ceir cofnodion cyfarfodydd a llythyrau oddi wrth James Callaghan, y cadeirydd.

Results 1 to 20 of 21