Showing 14 results

Archival description
Papurau Gwilym R. Jones File
Print preview View:

Cyfansoddiadau

Pryddest ‘Y gorwel’, Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1934; pryddest fuddugol ‘Ynys Enlli’, Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1935; awdl ‘Y ffin’, awdl anfuddugol Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937; a 'Rwy'n edrych dros y bryniau pell', awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1938.

Cerddi

Ymhlith y cerddi mae ‘Hiraeth am Ddyffryn Nantlle’, englynion 'Dathlu chwarter canrif o Chwyldro Ciwba' yn 1984 a chyfieithiad i'r Saesneg, ac englyn i Robert Owen (y dewin orthopaedig).

Cerddi

Cerddi gan gynnwys englyn sydd ar gofeb rhyfel Ysgol Ramadeg Pen-y-groes a cherddi i'r Fam Teresa a 'Geldof a Theresa'.

Sgriptiau radio

Dwy bennod o’r gyfres ‘Sion y Bodiau’; pryddest radio ‘Y Ffatri atomig’ sef egin Cwm Tawelwch’; ‘Dyffryn Clwyd’; ‘Chwilio gem’, hanes pererindod ddiweddar i Ynys Enlli’; adolygiad o’r gyfrol Eples gan Gwenallt, ynghyd â sgriptiau yn y cyfresi ‘Rhwng Gŵyl a Gwaith’, 'Trem’ ac 'Yn ôl y dydd'.

Barddas

Rhai rhifynnau o’r cylchgrawn Barddas, 1986-1990, yn cynnwys ‘Colofn Gwilym R.’ a cherddi ganddo.

Cyfansoddiadau

Pryddest ‘A ddioddefws a orfu’ gan ‘Pentewyn’, Eisteddfod Genedlaethol Aberafan - Port Talbot, 1932 (proflen) ac adysgrif o feirniadaeth T. Rowland Hughes ar ‘Nofel y Rhyfel Mawr’, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1933. [Ni ddyfarnwyd y wobr ond rhoddwyd deg punt yr un i Gwilym R. Jones a J. Rees Jones].

Sgriptiau teledu

Sgriptiau gan gynnwys ‘Gwylnos Guto Puw’, drama arswyd a anfonwyd at HTV Cymru yn 1983 ond nad ‘oedd yn addas at ein dibenion presennol’; ‘Ffordd y doluriau’ a chanllawiau gan BBC Cymru ar gystadleuaeth ysgrifennu drama deledu Gymraeg.

Straeon byrion

Chwe stori fer y gobeithid eu cyhoeddi yn gyfrol, ynghyd â llythyr oddi wrth Gerallt [Lloyd Owen] at Berwyn [mab yng nghyfraith Gwilym R. Jones] yn dweud 'nad oes digon o unoliaeth i wneud cyfrol deilwng o Gwilym R. ... ac mae'r cwbwl wedi dyddio rhywfaint erbyn hyn'.
Ceir tair stori fer Saesneg hefyd – ‘The ring’, ‘Ne’er the twain shall meet’ or ‘They were created male and female’ a ‘The proposal’, ynghyd ag 'egin storïau' a chanllawiau ar lunio stori fer.

Owen, Gerallt Lloyd, 1944-2014

Darlithiau

Ymhlith y darlithiau mae darlith (Saesneg) ar Betsi Cadwaladr, 'Dramâu Huw Lloyd Edwards a'i ddatblygiad fel dramodydd' a 'Pedr Fardd'.

Atgofion am wyliau yn y Cotswolds

Llungopi o lythyr oddi wrth Ifor Rees, 1996, at fab y llenor yn ymwneud â chynnwys yr atgofion am wyliau yn y Cotswolds yn y gyfrol yng nghyfres Bro a bywyd a gyhoeddwyd yn 2001, ynghyd â sgript y rhaglen deledu a ddarlledwyd yn y gyfres ‘Arall fyd’, [1972].

Rees, Ifor