Showing 8 results

Archival description
Papurau'r Athro Griffith John Williams File
Print preview View:

Torion papur

Torion papur amrywiol, 1934-1978, y mwyafrif yn cynnwys cyfeiriadau at genedlaetholdeb, addysg Gymraeg, a chrefydd a diwylliant Cymru. Ymddengys mai torion a grynhowyd gan Elizabeth Williams yw'r rhain, ac yn eu plith mae erthyglau ganddi hi a G. J. Williams ar yr iaith Gymraeg. Ceir hefyd nodiadau ar ddiwylliant, crefydd ac iaith, nifer gan ac yn llaw Elizabeth Williams.

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, 1915-1977, at Elizabeth Williams, nifer yn ymwneud â G. J. Williams a chyhoeddi ei waith; capel Bethesda'r Fro; dyfodol yr iaith Gymraeg; Undeb Cymru Fydd a Phlaid Cymru. Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae Glyn Ashton, Rachel Bromwich (2), D. Simon Evans (4), Aneirin Talfan Davies, Cassie Davies, Rachel Ellenborough (21, ynghyd â pheth o'i gwaith dan yr enw Rachel Law, a gwybodaeth yngŷn ag achau'r teulu (Iolo Morganwg)), Gwynfor Evans (2), Raymond Gower, Bedwyr Lewis Jones (2), Bobi Jones (2), D. Gwenallt Jones (3; ac 1 oddi wrth Nel Gwenallt ar farwolaeth ei gŵr), E. D. Jones (6), Ceri Lewis, Saunders Lewis (3; un oddi wrtho at ei wraig, Margaret, pan oedd yn y carchar; a 3 oddi wrth Margaret at Elizabeth Williams; ac 1 llythyr, 1931, at Saunders Lewis oddi wrth J. Alun Pugh), Timothy Lewis (2), T. J. Morgan, Rhys Nicholas, Iorwerth Peate, Eurys Rowlands, R. J. Thomas (6), a D. J. Williams (6).

Llythyrau teuluol

Gohebiaeth deuluol, 1882-[1963], gan gynnwys ychydig lythyrau a nifer o gardiau post, rhai ohonynt o Awstralia a Phatagonia. Yn eu plith ceir cardiau post at rieni a brawd Elizabeth Williams oddi wrth aelodau'r teulu; cardiau post at ei mam oddi wrth Elizabeth a G. J. Williams; cardiau post a llythyrau at Elizabeth oddi wrth deulu a ffrindiau; a dau lythyr a cherdyn pen blwydd (yn amgau cerdd) oddi wrth ei gŵr.

Personalia

Papurau personol amrywiol, gan gynnwys tystysgrif ac adroddiadau ysgol, 1904-1909; tystysgrif gradd a thyslythyrau'n ymwneud â'i gyrfa, 1914-1922; dyddiadur mis mêl, 1922, a rhestr anrhegion priodas; llyfr llofnodion, 1907-1910; llyfrau ysgrifennu (3) yn cynnwys 'Pert-ddywediadau hen gymeriadau yn ardal Ffestiniog a'r cylch', a ysgrifenwyd ar gyfer Eisteddfod Dydd Gŵyl Dewi, o bosibl gan Elizabeth Williams pan yn yr ysgol; a chardiau coffa, taflenni angladdol a thorion papur yn ymwneud ag aelodau'r teulu.

Undeb Cymru Fydd

Cofnodion, gohebiaeth a phapurau amrywiol, 1942-1945, perthynol i Undeb Cymru Fydd, a chysylltiad Elizabeth Williams â'r Undeb. Yn eu plith ceir nodiadau a darlith ar yr Undeb yn llaw G. J. Williams. Ceir hefyd ychydig bapurau, 1957 ac 1963, yn ymwneud ag ymgyrchoedd Cwm Tryweryn a Chlywedog; gohebiaeth, 1967-1969, yn ymwneud â chyflwr capel Bethesda'r Fro; llythyrau, 1972-1974, at Elizabeth Williams yn ymwneud â Chymdeithas Tai Gwynedd; a llyfr ysgrifennu, 1931-1935, yn cynnwys 'Adroddiad o waith Merched Gwaelod-y-Garth yn ystod diweithdra y tri-degau', yn cwiltio, nyddu, gweu, etc.