Showing 2960 results

Archival description
Series
Advanced search options
Print preview View:

Llyfrau Lloffion.

Deuddeg o lyfrau lloffion trwchus, yn cynnwys, yn bennaf, lythyrau, lluniau (cardiau post, gan mwyaf), toriadau o bapur newydd, rhaglenni, tocynnau ac ychydig gerddi a nodiadau gan Gwenith Gwyn. Glynwyd y cyfan yn daclus â glyd. Ar gyfartaledd ceir oddeutu tair neu bedair eitem ar bob tudalen. Cedwir rhai o'r llythyrau yn yr amlenni gwreiddiol; plygwyd y gweddill i le bychan a'u glynu heb yr amlenni. Nid oes fynegai i'r llyfrau lloffion ac amcan yn unig a roddir isod o gynnwys amrywiol a gwerthfawr pob cyfrol. Rhifwyd y tudalennau er mwyn hwylustod wrth gyfeirio at yr eitemau.

'Trafodion Urdd Gobaith Cymru' (cyfrolau rhwymedig),

Yng Nghyfarfodydd Blynyddol Cymru UGC a gynhaliwyd yn Aberystwyth, 21 Hydref 1939, canfuwyd y buasai'n amhosibl galw Cyngor y Cwmni ynghyd yn fynych oherwydd anawsterau a ddaeth i fod gyda'r rhyfel. Fe benderfynodd y Cyfarfod ethol Y Pwyllgor, gydag aelodaeth o gyffiniau Aberystwyth, i fod yn gefn i'r Swyddfa yn yr argyfwng. O fewn y 'Trafodion' ceir papurau amrywiol a ddeilliai o'r Pwyllgor - agenda, cofnodion, memoranda, cylchlythyrau a rhai papurau ariannol - ac a gesglid ynghyd gan William Williams, Bronallt, Caradog Road, Aberystwyth, aelod o'r pwyllgor. Mae'r trafodion hefyd yn cynnwys papurau'n ymwneud â nifer fawr o is-bwyllgorau UGC.

Results 2641 to 2660 of 2960