Showing 353 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Sub-fonds
Print preview View:

Rhodd Awst 1960

Papurau Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Awst 1960. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1960-61, tt. 31-32. Trefn: Gohebiaeth (B 1-308); Papurau llenyddol amrywiol (B 309-324); Cyfieithiadau (B 325-327); Deunydd mewn Gwyddeleg (B 328-331); Adysgrifau (B 332-339); Darlithiau ac anerchiadau (B 340-481); Sgriptiau radio ac adolygiadau ar lyfrau (B 482-494); Gwahanlithoedd a thoriadau o'r wasg (B 495-509); a Phapurau amrywiol (B 510-524).

Papurau ychwanegol a fu ym meddiant Dr David Jenkins

Papurau ychwanegol T. Gwynn Jones yn cynnwys llythyrau a dderbyniwyd ganddo, 1904-1948; llythyrau oddi wrtho, 1902-1948; llythyrau teuluol, 1935-1944; llythyrau a anfonodd at John Ballinger, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1908-1926; llungopïau o'i lythyrau a gedwir ym Mhrifysgol Cymru-Bangor, 1902-1944; papurau personol, 1899-1947; a phapurau amrywiol, 1904-1985.

Mrs Ethel Hilda Rhys Jones - Defnyddiau Bywgraffyddol.

Ganwyd 24 Chwef. 1875. Roedd yn ferch i Henry Hughes, Llangollen, yn wyres i'r Parch John Hughes, Dolhiryd, ac yn ddisgynnydd i Fleddyn ap Cynfyn. Priododd Y Parch W. Rhys Jones yn 1894. Bu farw 20 Mawrth 1930. Claddwyd ym mynwent Capel Calfaria, Tregatwg, 25 Mawrth 1930.

Gohebiaeth,

Glynwyd y mwyafrif o'r llythyrau hyn mewn llyfrynnau. Nid 'Gwenith Gwyn' oedd y derbynnydd ymhob achos.

Dau ddarlun.

Evan Robert Davies (N/1) a Walter Cradoc Davies (N/2), Pwllheli, meibion y Parch. David Evan Davies at ei wraig Ellen. Mae N/1 ac N/2 isod wedi eu trosglwyddo i Adran y Darluniau a'r Mapiau. Eu rhifau erbyn hyn yw PG3809 a PG3810.

Results 181 to 200 of 353