Showing 3701 results

Archival description
Papurau Thomas Gwynn Jones
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

(i) 'Barddonesau Cymreig' (in offprint), (ii) 'Cymru a'r Ddrama', published in Y Genhinen, Jan. 1920, (iii) 'Analysis of Welsh Bards' ...,

(i) 'Barddonesau Cymreig' (in offprint), (ii) 'Cymru a'r Ddrama', published in Y Genhinen, Jan. 1920, (iii) 'Analysis of Welsh Bards' prepared 1897-98, based upon printed books. It was not completed, and was later used for lectures. (iv) 'Lliw a Llun yn Llên Cymru', published in Y Genhinen, 11 Feb. 1901, (v) 'Llenyddiaeth Gymraeg', (vi) 'Tuedd Llenyddiaeth Gymraeg Heddiw' I and II, (vii) 'Beirniadaeth', (viii) 'Talhaiarn', (ix) 'Termau', (x) 'Para', (xi) 'Gwlad a Thref', (xii) 'Crwydro', (xiii) 'Llundain', (xiv) Dirywiad Ieithyddol, (xv) Englynion, (xvi) Social Life as reflected in the Laws, (xvii) Welsh Culture and Education, (xviii) Welsh Radicalism, (xix) Articles for publication, 'Le Pays de Galles', sent by request to the editor of L'Echo de la Belgie, who translated it into Flemish and published it. (xx) Part of Study for introduction to Daniel Rees' translation of Dante's Divina Commedia. Carnarvon, 1900-02. (xxi) Welsh Literature - Court Poets.

Papurau ychwanegol a fu ym meddiant Dr David Jenkins

Papurau ychwanegol T. Gwynn Jones yn cynnwys llythyrau a dderbyniwyd ganddo, 1904-1948; llythyrau oddi wrtho, 1902-1948; llythyrau teuluol, 1935-1944; llythyrau a anfonodd at John Ballinger, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1908-1926; llungopïau o'i lythyrau a gedwir ym Mhrifysgol Cymru-Bangor, 1902-1944; papurau personol, 1899-1947; a phapurau amrywiol, 1904-1985.

Y gweddill o gasgliad Thomas Gwynn Jones,

Yn y rhestr hon disgrifir y gweddill o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig. Rhifwyd yr eitemau hyn o D 1 i D 406. Ceir disgrifiadau bras o rai grwpiau yn Adroddiad Blynyddol 1947-48, t. 32; Adroddiad Blynyddol 1972-73, tt. 33, 35 a 41; Adroddiad Blynyddol 1973-74, t. 40 ac Adroddiad Blynyddol 1985-86, t. 55. Gweler hefyd Adroddiadau Blynyddol 1942-3, t. 22; 1959-60, t. 31; 1960-61, tt. 31-2; 1961-2, tt. 29-30.
Llyfryddiaeth T. Gwynn Jones: Gwynn ap Gwilym (gol.), Thomas Gwynn Jones, Cyfres y Meistri 3 (Llandybïe, 1982); W. Beynon Davies, Thomas Gwynn Jones, cyfres Writers of Wales (Caerdydd, 1970); David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973);. David Jenkins, Bro a Bywyd Thomas Gwynn Jones (Caerdydd: Cyngor Celfyddydau Cymru, 1984); D. Hywel E. Roberts (gol.), Llyfryddiaeth Thomas Gwynn Jones (Aberystwyth, 1981). Yn yr olaf y ceir y brif ffynhonnell o gyfeiriadau at weithiau TGJ.

Rhoddion Awst a Rhagfyr 1961

Y rhan o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Awst a Rhagfyr 1961. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1961-2, tt. 29-30. Trefn: Cerddi mewn llawysgrif (C 1-16); Cyfieithiadau (C 17-24); Deunydd academaidd, dramâu, cyfieithiadau ac ysgrifau etc. (C 25-37); Rhagymadroddion, gweithiau Gwyddelig ac adysgrifau (C 38-54); Amrywiol, darlithoedd ac anerchiadau (C 55-98); Adolygiadau o lyfrau (C 99-105); Barn ar draethodau MA a phapurau yn ymwneud â'i waith yn Adran y Gymraeg (C 106-120); Beirniadaethau eisteddfodol (C 121-133); Esperanto (C 134-140); Personalia ac amrywiol (C 141-161); Adysgrifau o weithiau mewn Gwyddeleg (C 162-170); Eitemau wedi'u trosglwyddo o Adran y Llyfrau. Printiedig (C 171-177).

Rhodd Awst 1960

Papurau Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Awst 1960. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1960-61, tt. 31-32. Trefn: Gohebiaeth (B 1-308); Papurau llenyddol amrywiol (B 309-324); Cyfieithiadau (B 325-327); Deunydd mewn Gwyddeleg (B 328-331); Adysgrifau (B 332-339); Darlithiau ac anerchiadau (B 340-481); Sgriptiau radio ac adolygiadau ar lyfrau (B 482-494); Gwahanlithoedd a thoriadau o'r wasg (B 495-509); a Phapurau amrywiol (B 510-524).

Rhodd Chwefror 1960

Y rhan o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Chwefror 1960. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1959-60, tt. 31-2. Trefn: Gohebiaeth (A 1-1818); Papurau llenyddol amrywiol (A 1819-1857); Darlithiau ac anerchiadau (A 1858-2134); Deunydd printiedig (A 2135-2136).

Yr hyn a oedd yn weddill o'r casgliad cyntaf

Yn y rhestr hon fe ddisgrifir yr hyn a oedd yn weddill o'r casgliad cyntaf o bapurau Thomas Gwynn Jones (1871-1949), sef yr eitemau a hepgorwyd o restr Miss Norma G. Davies yn 1949, "A Schedule of Manuscripts and Correspondence presented by Dr Thomas Gwynn Jones, C.B.E.". Cyflwynwyd y casgliad gwreiddiol hwn o bapurau, llawysgrifau a gohebiaeth gan y bardd a'r ysgolhaig ei hun yn ystod 1943 a cheir disgrifiad ohonynt yn Adroddiad Blynyddol 1942-43, t. 22. Rhifwyd yr eitemau yn rhestr 1949 o G1 hyd G6892 a pharheir â'r gyfres rifau honno yma yn y rhestr hon.

Papurau Thomas Gwynn Jones

  • GB 0210 TGWYNNJON
  • Fonds
  • 1621-1985 (crynhowyd 1871-1985)

Papurau T. Gwynn Jones, 1871-1949, yn cynnwys: gohebiaeth, gan gynnwys llythyrau oddi wrth amrywiaeth eang o ffigurau llenyddol ac academaidd; cerddi a phapurau llenyddol eraill, yn cynnwys adysgrifau ac arnodiadau gan T. Gwynn Jones o waith gan awduron canoloesol a modern, a deunydd, [17 gan.]-[20 gan.], a gasglwyd ganddo neu a roddwyd iddo; papurau academaidd, yn cynnwys nodiadau ar gyfer ei lyfrau ac erthyglau, cofiannau a mynegeion i'w waith ei hun a gwaith pobl eraill, a nodiadau bywgraffyddol ar lawer o ffigurau llenyddol; cyfieithiadau; darlithoedd ac anerchiadau, yn cynnwys nodiadau; sgriptiau radio; adolygiadau llyfrau; gwahanlithiau; torion o'r wasg; dramâu, beirniadaethau eisteddfodol, deunydd yn ymwneud â'i Dysteb yn 1944; llongyfarchiadau ar ei CBE yn 1937; a dyddiaduron, 1927-1947, a phersonalia arall; ceir hefyd papurau teuluol, 1621-1871, gan gynnwys gohebiaeth, dau Feibl teuluol, a llythyrau, 1949-1985, at deulu Jones, yn ymwneud yn enwedig â'i fywyd a'i waith, a chofiannau iddo. = Papers of T. Gwynn Jones, 1871-1949, comprising: correspondence, including letters from a wide variety of literary and academic figures; poems and other literary papers, including transcripts and annotations by T. Gwynn Jones of works by medieval and modern authors, and material, [17 cent.]-[20 cent.], collected by him or given to him; academic papers, including notes for his books and articles, bibliographies and indexes for his own and other works, and biographical notes on many literary figures; translations; lectures and addresses, including notes; radio scripts; book reviews; offprints; press cuttings; plays; eisteddfod adjudications; material relating to his Testimonial in 1944; congratulations on his CBE in 1937; and diaries, 1927-1947, and other personalia; also included are family papers, 1621-1871, including correspondence, two family bibles, and letters, 1949-1985, to Jones's family, especially concerning his life and work, and memorials to him.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Llyfr yn cynnwys drafft o 'Gwlad y Bryniau'

Llyfr poced yn cynnwys rhannau o ddrafft, [1909], yn llaw T. Gwynn Jones, o'i awdl 'Gwlad y Bryniau'.
Tynnwyd nifer fawr o ddalennau allan o'r gyfrol gan y bardd a'u cyfuno gyda dalennau newydd i greu'r drafft gorffenedig, sydd nawr yn NLW MS 24054A. Er mwyn gweld y drafft cynharach yn ei chyfanrwydd dylid felly astudio'r ddwy gyfrol ochr wrth ochr.

Ffotograffau a ddefnyddiwyd yn Thomas Gwynn Jones. Cofiant (Dinbych, 1973) a Bro a Bywyd (Caerdydd; Cyngor Celfyddydau Cymru, 1984); ynghyd ...,

Ffotograffau a ddefnyddiwyd yn Thomas Gwynn Jones. Cofiant (Dinbych, 1973) a Bro a Bywyd (Caerdydd; Cyngor Celfyddydau Cymru, 1984); ynghyd â llythyr, 1985, oddi wrth swyddog golygyddol Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru yn dychwelyd ffotograff o T. Gwynn Jones a oedd i'w gynnwys yn y gwyddoniadur Chwilota (cyfrol 4) [penderfynwyd defnyddio llun olew Evan Walters yn ddiweddarach].

Nodiadau, [1939], T. Gwynn Jones tuag at raglen radio ar Dic Tryfan [Richard Hughes Williams] (gweler Papurau T. Gwynn Jones ...,

Nodiadau, [1939], T. Gwynn Jones tuag at raglen radio ar Dic Tryfan [Richard Hughes Williams] (gweler Papurau T. Gwynn Jones G15/10 am y sgript hon); copïau teipiedig o ddau lythyr oddi wrth T. Gwynn Jones at T. J. Jenkin, 1916; ynghyd â llythyr, 1963, oddi wrth Francis Wynn Jones yn dangos y ceir tystiolaeth yn y ddau lythyr hyn ei fod yn casglu llên gwerin flynyddoedd lawer cyn cyhoeddi ei lyfr [Welsh folklore and and folk custom (Llundain, 1930)].

Adysgrif o lythyr, 1915, oddi wrth T. Gwynn Jones at Isaac Davies, Penbedw (gweler llawysgrif LlGC 17741D); ynghyd â chopi ...,

Adysgrif o lythyr, 1915, oddi wrth T. Gwynn Jones at Isaac Davies, Penbedw (gweler llawysgrif LlGC 17741D); ynghyd â chopi o nodyn a ysgrifennwyd ganddo er cof am Henry Williams, Gwynfryn, Abergele, mewn cyfrol gan J. R. Kilsby Jones, Holl weithiau prydyddawl a rhyddieithol y diweddar Barch. William Williams, Pant-y-celyn (Llundain, [1867]) (gweler Papurau T. Gwynn Jones D406 am y gyfrol hon).

Adysgrifiadau o gyfansoddiadau T. Gwynn Jones a ymddangosodd yn Y Faner, 1883-92, gan ei fab-yng-nghyfraith Francis Wynn Jones; ynghyd â ...,

Adysgrifiadau o gyfansoddiadau T. Gwynn Jones a ymddangosodd yn Y Faner, 1883-92, gan ei fab-yng-nghyfraith Francis Wynn Jones; ynghyd â throsiad, 1941, T. Gwynn Jones o'r Saesneg o emyn Katharina Von Schlegel, 'Stille, mein Wille, sein Jesus hilft siegen', a gyflwynodd 'i'm cyfaill J. W. T'.

Results 1 to 20 of 3701