Showing 24 results

Archival description
Parry, Thomas, 1904-1985 English
Advanced search options
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1959

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys, trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Alun Llywelyn-Williams, Emyr Humphreys, R. Gerallt Jones, T. H. Parry-Williams, R. T. Jenkins, E. Tegla Davies, Cynan, Iorwerth Peate, Saunders Lewis, G. J. Williams, D. J. Williams, J. M. Edwards a Crwys. Yn ogystal â hyn ceir trafodaeth ar gychwyn cylchgrawn yr Academi, y cyfeirir ato fel 'Y Llenor Newydd' a gyhoeddwyd yn ddiweddarach dan yr enw Taliesin.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1958

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth yn trafod sefydlu'r Academi Gymreig dan ysgrifenyddiaeth a chadeiryddiaeth dros dro Bobi Jones a Thomas Parry, ac yn cynnwys trafodaeth ar natur ac aelodaeth wreiddiol yr Academi, gwahoddiadau i ymuno â hi ac ymatebion y rhai a wahoddwyd, ynghyd â llungopïau o'r ymateb a fu i'r newyddion yn y wasg. Mae'r llenorion dan sylw yn cynnwys Gwenallt, Gwilym R. Jones, J. Gwyn Griffiths, Waldo Williams, Islwyn Ffowc Elis, Kate Roberts, Euros Bowen, Aneurin Talfan Davies, Alun Llywelyn-Williams, Elis Gwyn Jones, Emyr Humphreys, R. S. Thomas, John Gwilym Jones a Pennar Davies. Ar gefn drafft o lythyr gan Bobi Jones mae copi o eirda a roddwyd iddo gan Griffith John Williams ym 1952.

Jones, Bobi, 1929-2017

Cronfa J. E. Jones / J. E. Jones Committee

Gohebiaeth a phapurau amrywiol, Medi-Tachwedd 1953, yn ymwneud â sefydlu a chynnal cronfa i anfon J. E. Jones, ysgrifennydd cyffredinol Plaid Cymru, ar daith i Fôr y Canoldir er mwyn ei gynorthwyo i adfer ei iechyd yn dilyn triniaeth lawfeddygol. / Correspondence and miscellaneous papers, September-November 1953, concerning the setting up and the administration of a fund to send J. E. Jones, general secretary of Plaid Cymru, on a voyage to the Mediterranean to assist him to recover his health following major surgery. -- Yn cynnwys llythyrau oddi wrth/Includes letters from: W. Ambrose Bebb; Cassie Davies; Marion Eames; Thomas Charles Edwards; Islwyn Ffowc Elis; Mari Ellis; J. Gwyn Griffiths; A. O. H. Jarman; Dr Gwenan Jones; Daydd Orwig Jones; Dr Emyr Wyn Jones; Thomas Parry; Dewi Watkin Powell; D. J. Williams, Abergwaun.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Awduron

Portraits of Welsh and Anglo-Welsh writers. Many of these are photographs taken by Julian Sheppard for the Welsh Arts Council and are duplicates of photos found elsewhere in the collection.

Results 21 to 24 of 24